Lenin oedd y gwleidydd cyntaf mewn unrhyw wlad i greu chwyldro ar sail egwyddorion Karl Marx. Ai llwyddiant ai methiant fu'r hyn a gyflawnodd ef rhwng 1917 a'i farw ym 1924? Cyn y gellir gosod llinyn mesur ar yr hyn a wnaeth, y mae angen deall yr amgylchiadau y digwyddodd y Chwyldro Comiwnyddol ynddynt, amgylchiadau a oedd yn bur wahanol i'r rhai lle disgwyliasai Marx weld gweithredu ei syniadau. Disgrifir yn y gyfrol hon gyflwr pethau yn Rwsia cyn y Chwyldro, gan amlinellu'n gryno ddatblygiad y gymdeithas a'i sefydliadau. Eir ymlaen i roi braslun o yrfa gyffrous Lenin ac olrheinir rhediad ei syniadau wrth iddo ymlafnio i droi dadansoddiad Marx yn rhaglen o weithredu ymarferol.
Y Meddwl Modern: Lenin – W. J. Rees
Y Meddwl Modern: Wittgenstein – Walford Gealy
Cyfrifir Ludwig Wittgenstein gan lawer yn athrylith hynotaf yr ugeinfed ganrif mewn athroniaeth. Y mae hefyd yn unigryw yn ei faes gan iddo greu nid un athroniaeth ond dwy, y ddwy yn wreiddiol, dylanwadol a gwrthgyferbyniol. Ceisir yn y gyfrol hon esbonio mewn iaith seml ei ddau safbwynt sydd i'w gweld yn Tractatus Logico-Philosophicus ac yn yr Ymchwiliadau Athronyddol.
Y Rhyfel – W. Llewelyn Williams
Ysgrif a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1914, gan W. Llewelyn Williams, aelod seneddol Rhyddfrydol Sir Gaerfyrddin, yn dehongli hanes dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a thrafod rôl Cymru a Phrydain yn 'ymladd brwydrau gwareiddiad'. Roedd W. Llewelyn Williams yn gwrthwynebu consgripsiwn gorfodol. Mae'n apelio ar y Cymry i ymrestru. Ceir copi PDF o'r ysgrif wreiddiol ar ddiwedd y fersiwn ddigidol newydd. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Y Traddodiad Cerddorol yng Nghymru – Ifor ap Gwilym
Hanes traddodiad cerddorol Cymru a geir yn y gyfrol hon. Rhennir y gyfrol yn bedair pennod; yn y gyntaf cawn drosolwg ar hanes y traddodiad cerddorol o'r cychwyn cyntaf hyd yr ugeinfed ganrif. Canolbwyntir ar delynorion a chrythorion yn yr ail bennod, gyda bywgraffiadau byr o offerynwyr oedd yn eu blodau rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg hyd yr ugeinfed ganrif, megis teulu'r Wood a Nansi Richards. Hanes bywydau cyfansoddwyr o Gymru a geir yn y drydedd bennod ac yna bywgraffiadau cantorion a wnaeth eu marc sydd yn y bedwaredd bennod.
Y Traddodiad Rhyddiaith – Geraint Bowen (gol.)
Cyfres o benodau yn pwyso a mesur cyfraniad gwahanol lenorion ac ysgolion o lenorion o gyfnod rhwng y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r traddodiad llenyddol Cymraeg a'u dylanwad hyd heddiw.
Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol – Geraint Bowen (gol.)
Cyfres o benodau yn trafod traddodiad rhyddiaith Cymru yn yr Oesau Canol, pan oedd y Gymraeg yn un o 'ieithoedd llenyddol pwysicaf Ewrop'. Ceir ymdriniaethau ar y chwedlau, gan gynnwys Pedair Cainc y Mabinogi, y Rhamantau a phennod bwysig Dafydd Glyn Jones, 'Breuddwyd Rhonabwy'. Trafodir y bucheddau, rhyddiaith grefyddol a chyfieithiadau cynnar i'r Gymraeg yn ogystal â'r cyfreithiau cynnar.
Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif – Geraint Bowen (gol.)
Y drydedd cyfrol a'r olaf yn y casgliad pwysig ar ryddiaith Gymraeg wedi ei olygu gan Geraint Bowen. Yma ceir cyfres o benodau gan brif arbenigwyr eu dydd yn trafod agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys gramadeg John Morris-Jones, trafodaethau ar unigolion pwysig y cyfnod a ffurfiau newydd megis y stori fer a'r ysgrif. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Swyddogaeth Beirniadaeth – John Gwilym Jones
Darlith John Gwilym Jones ar bwysigrwydd beirniadaeth lenyddol, a'i harwyddocâd drwy hanes yng Nghymru a thu hwnt.
Syniad i'r Sgrin – Heledd Wyn
Dyma gyfrol ymarferol gan Heledd Wyn ar gyfer creu cynnwys creadigol gweledol. Prif bwrpas y gyfrol yw cynnig sgiliau sylfaenol a chanllawiau penodol ar gyfer pob agwedd ar gynhyrchu cynnwys digidol gweledol o'r syniad i'r sgrin. Mae hon yn gyfrol ryngweithiol sy'n cynnwys clipiau fideo.
Teledu a'r Gynulleidfa Fyddar a Thrwm ei Chlyw
Dyma adnodd sydd yn trafod sut mae teledu (ac yn benodol teledu digidol) yn diwallu anghenion cynulleidfa fyddar neu drwm ei chlyw. Mae'n rhoi cyflwyniad i'r ymchwil academaidd yn y maes, yn trafod beth yw'r gofynion ar y darlledwyr ac yn ystyried canlyniadau arolwg a wnaed yn 2013 yn gofyn yn benodol am argraffiadau'r gynulleidfa fyddar a thrwm ei chlyw yng Nghymru o'r ddarpariaeth ar deledu digidol. Ystyrir beth yw'r heriau a wynebir gan y gynulleidfa hon wrth geisio deall a mwynhau cynnwys ar deledu. Bwriad yr adnodd yw sicrhau bod deunydd ar gael sydd yn galluogi myfyrwyr i ystyried bod natur cynulleidfa yn amrywiol, a bod gofynion gwahanol yn dibynnu ar eu anghenion. At hynny, mae'r adnodd yn trafod pam fod hygyrchedd gwasanaethau yn bwysig yn gymdeithasol. Mae'r adnodd hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr sy'n astudio'r Cyfryngau, er y gall fod yn addas i fyfyrwyr sydd yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol. Gellid defnyddio'r adnodd yma fel gwaith darllen ar gyfer darlith a/neu seminar ar fodiwl lle ystyrir y Cyfryngau a Chymdeithas, Iaith a'r Cyfryngau neu Gynulleidfaoedd.
Theatr, Perfformiad a Thechnoleg 2015/16
Dyma recordiadau sain o gynhadledd gydweithredol Astudiaethau Theatr a Drama 2015/2016. Cynhaliwyd y gynhadledd ar y 29ain a'r 30ain o Ionawr 2016 yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Torri Newyddion Drwg
Fideo 'Torri Newyddion Drwg' sy'n darparu cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n siarad Cymraeg. Mae sgiliau cyfathrebu yn hanfodol wrth ofalu am bobl fregus. Os ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi offer dysgu i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal iddynt allu rhoi newyddion drwg yn iaith frodorol y person.O ganlyniad, llwyddodd Janine Wyn Davies i ennill grant ariannol er mwyn datblygu ffilm yma. Mae'r ffilm yn seiliedig ar fam yn cael gwybod iddi ddioddef 'erthyliad coll', oedd yn golygu nad oedd ei beichiogrwydd yn hyfyw mwyach.Mae'r rhan fwyaf o'r actorion yn y ffilm yn aelodau staff Prifysgol De Cymru.