Y Rhyfel Mawr oedd un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru gan fod goblygiadau'r Rhyfel wedi effeithio'n drwm ar gymdeithas a diwylliant y wlad am ddegawdau. Fodd bynnag, mae hanes y blynyddoedd o ymladd yn aml wedi cael ei gyflwyno i gynulleidfa Gymraeg mewn modd gor-syml, sy'n pwysleisio erchyllderau'r Rhyfel heb ystyried y cyd- destun. Mae'r astudiaeth hon yn olrhain yn fras sut mae'r ffordd yr edrychid ar y Rhyfel wedi datblygu ym Mhrydain dros y degawdau, cyn ystyried yn fanwl rhai o'r problemau â'r cyflwyniad o'r lladdfa a gafwyd mewn rhaglenni nodwedd Cymraeg. Gethin Matthews, ''Sŵn yr ymladd ar ein clyw”: Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 132-57.
Gethin Matthews, 'Sŵn yr ymladd ar ein clyw': Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg' (2012)'
Blodeuwedd (1990)
Ffilm o'r ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis, wedi'i selio ar chwedl y Mabinogi am y ferch a wnaethpwyd allan o flodau.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Branwen (1994)
Mae dau genedlaetholwr yn priodi - Branwen o Gymru a Kevin o Belfast - ond mae brawd Branwen, Mathonwy, yn filwr yn y fyddin Brydeinig. Mae'r gwrthdaro rhwng teyrngarwch gwleidyddol a theuluol yn tanio Branwen. Y Mabinogi yn dod i'r presennol ac yn bygwth y genhedlaeth newydd. Teliesyn, 1994.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byw Celwydd
Cyfres sy'n portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr yn wrthblaid.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caerdydd (Cyfres 1) (2006)
Cyfres am griw o ffrindiau yn eu hugeiniau sy'n byw mewn fflatiau crand ym Mae Caerdydd. Dilyna’r gyfres y criw - Peter, Emyr, Osian, Ceri, Lea & Elen – wrth eu gwaith (amrywiol) bob dydd a’u bywydau personol, cyffrous, gyda’r nos.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cameleon (1996)
Ffilm gan Ceri Sherlock sy'n adrodd hanes ffoadur o'r Ail Ryfel Byd sy'n dianc rhag erchylldra'r rhyfel yn ôl i'w gynefin. Mae'r ffilm yn ymdreiddio i isymwybod y ffoadur ac yn portreadu clawstroffobia ac ofn y cymeriad wrth iddo ymdopi a byw mewn caethiwed cwbl wahanol i'r hyn y dihangodd oddi wrtho. Elidir, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Con Passionate (Cyfres 1) (2005)
Stori ddirgel gerddorol yw Con Passionate, plethiad o gerddoriaeth, hiwmor du a thrasiedi am griw o ddynion cyffredin, yn canu mewn côr cyffredin a’u harweinyddes newydd anghyffredin, Davina Roberts.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cyfweliadau gyda Chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr
Cyfres o gyfweliadau gyda chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr allweddol ym maes y cyfryngau yng Nghymru:
- Aron Evans
- Endaf Emlyn
- John Hefin
- Naomi Jones
- Paul Jones
- Peter Edwards
- Sue Jeffries
- Gwawr Lloyd
- Rhodri Talfan Davies
- Sara Ogwen Williams
- Ed Thomas
Cymru Fach (2008)
Chwant a chariad, nwyd a naid, serch a siom, dialedd a diogi...yng Nghymru Fach. Addasiad o ddrama lwyfan yw Cymru Fach a berfformiwyd gan Sgript Cymru. Mae'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y gymdeithas Gymreig. Mae'r ddrama wedi ei rhannu'n ddeg golygfa gyda phob un yn canolbwyntio ar ddau gymeriad (bachgen a merch) a'u perthynas â'i gilydd. Yn cynnwys iaith gref a noethni. Ffilmiau Boom Films, 2008.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
#Fi: Ben a Hollie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae Ben yn 'sgrifennu blog ar ei wefan er mwyn rhannu ei brofiad o fod â chwaer awtistig. Mae her fawr yn ei wynebu fe a'i chwaer wrth iddyn nhw helpu i drefnu cyngerdd arbennig i godi arian tuag at awtistiaeth. Boom Cymru, 2013.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
#Fi: Jodie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae bywyd Jodie Williams yn un prysur iawn. Nid yn unig mae hi'n ofalwr ifanc yn edrych ar ôl ei mam, ond mae hi hefyd yn gwneud tipyn o waith elusennol. Dilynwn Jodie ar adeg prysur yn ei bywyd wrth iddi drefnu digwyddiad elusennol yn yr ysgol a chael cyfle i fynd i premier ffilm go arbennig. Boom Cymru, 2013.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
3 Lle - Ifan Huw Dafydd (2010)
Yr actor Ifan Huw Dafydd, sydd yn ein tywys i dri lle sydd wedi bod yn bwysig yn ei fywyd. Y cyntaf yw bwthyn ei fam-gu a'i dad-cu, TÅ· Poeth ger Llandysul; yr ail le yw Clwyd Theatr Cymru a'r trydydd dewis yw ardal Coedwig Mametz yn Ffrainc, lleoliad brwydr fawr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Apollo, 2010.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.