Cyfres ddrama ddirdynnol, yn dilyn Defi a Doug o Dachwedd 1962 dros y degawdau hyd at 2010. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaith Pantycelyn: Detholiad – Gomer M. Roberts (gol.)
Detholiad o gant o emynau William Williams Pantycelyn ynghyd â dwy farwnad, dyfyniadau o gerddi hirach a darnau o ryddiaith. Ceir yma hefyd ragarweiniad i fywyd Pantycelyn, y diwygiad Methodistaidd a rôl oddi mewn iddo. Trafodir arbenigedd ei waith yn gryno yn ogystal.
Gwenallt: Bardd Crefyddol – J. E. Meredith
Darlith a draddodwyd yn wreiddiol ym Mhrifysgol Caerdydd yn Mehefin 1970 gan J. E. Meredith yn ystyried dylanwad Cristnogaeth yng ngherddi Gwenallt. Mae ysgrif nodedig Gwenallt, Credaf, o'r gyfrol o'r un enw wedi ei hailgyhoeddi yma hefyd.
Gwlad Beirdd (2010 a 2011)
Mae Gwlad Beirdd yn rhoi sylw i rai o feirdd mawr ein cenedl. Cawn glywed rhai o'u cerddi enwocaf, ac ymweld â'r mannau a ysbrydolodd y cerddi rheiny. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn (1992)
Barddoniaeth oedd angerdd mawr bywyd Ellis Evans, a'i uchelgais oedd ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddodd yn y man: yn Eisteddfod Birkenhead yn 1917 enillodd brif lawryf ei genedl - yn anffodus ni wyddai ddim byd am y peth. Lladdwyd ef ychydig ynghynt ar ei ddiwrnod cyntaf ar y Ffrynt Gorllewinol yn Ypres. Pendefig, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hir Oes i'r Iaith – Robert Owen Jones
Mae iaith a chymdeithaseg yn gwbl ddibynnol ar ei gilydd. Ni all iaith fodoli heb bobl i'w siarad ac ni all unrhyw gymuned weithredu'n ystyrlon heb iaith. Yn y gyfrol hon edrychir ar y berthynas rhwng y ddwy wedd holl bwysig ar fywyd dyn gan geisio darlunio'r effaith a gaiff cyfnewidiadau cymdeithasol ar barhad a ffyniant iaith. Edrychwn ar y Gymraeg dros bedair canrif ar ddeg gan geisio dangos sut y gall digwyddiadau unigol lunio tynged iaith, a sut y gall newid mewn ymagweddiad roi anadl einioes mewn sefyllfa a oedd yn bur anobeithiol. Y Gymraeg sydd dan y chwyddwydr, ond cymherir y sefyllfa yng Nghymru â'r hyn a geir mewn gwledydd eraill. Dadleuir mai'r rhan bwysicaf ym mhroses adfer iaith yw deall pa ffactorau sy'n achosi erydiad. Yna gellir gweithredu polisi iaith a ddylai ddwyn ffrwyth, gan sicrhau 'hir oes i'r iaith'.
I'r Gad: Hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (2003)
Yn y gyfres hon bydd yr Athro R. Merfyn Jones yn ein tywys drwy hanes deugain mlynedd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, o 1963 hyd 2003. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llawlyfr Hen Gymraeg – Alexander Falileyev
Dyma'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau'r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae'n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi'r gwaith i'r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi'i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i'w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae'n cynnwys disgrifiadau manwl o'r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i'r Cymry ddod i adnabod rhai o'r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith. Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol Golygydd y Gyfres: Dr Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth.
Llawlyfr Meistroli'r Gymraeg - Tudur Hallam
Cyfres o wersi i’w haddasu a’u defnyddio gan diwtoriaid a myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc gradd, gan yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe. Mae'n llawlyfr iaith ymarferol sydd yn rhoi pwyslais ar gyflawni tasgau ac ar ddysgu wrth wneud. Er hwylustod i diwtoriaid a myfyrwyr, gellir lawrlwytho PDF o bob uned drwy glicio ar y dolenni isod: Uned 1: Datganiad Personol Uned 2: Bwletin Newyddion Uned 3: Y Llawlyfr Uned 4: Y Trosiad Uned 5: Perswadio Uned 6: Dadansoddi Gwallau Uned 7: Treigladau a Gramadeg Uned 8: Gwerthuso ac Adolygu Uned 9: Datganiad i'r Wasg Uned 10: Perswadio, Eto Atodiadau Mae'r Llawlyfr yn cynnwys taflenni gwaith rhyngweithiol. Defnyddir blychau melyn ar gyfer y taflenni gwaith. Gellir llenwi rhai ohonynt ar sgrin drwy lalwrlwytho'r Llawlyfr ac agor y PDF gydag Adobe Acrobat Reader.
Lleisiau Patagonia 1902 (2015)
Un o'r ergydion mwyaf i'r Wladfa ym Mhatagonia oedd ymadawiad 234 o'r trigolion ym 1902. Roedd y llifogydd difrifol, diffyg tir, a'r addysgu milwrol cynyddol wedi'u llethu ac roedden nhw am gael tir i ffermio. Gadawodd 234 am Ganada i sefydlu gwladfa newydd. 70 mlynedd yn ddiweddarach, ym 1974, wrth chwilio am Gymry yng Nghanada, daeth Glenys James ar draws y Patagoniaid hyn yn Saskatchewan a recordio eu straeon. Yn y rhaglen hon cawn glywed, am y tro cyntaf, eu lleisiau'n adrodd hanes gadael Patagonia, eu tynged yng Nghanada, ac a lwyddon nhw i greu gwladfa Gymraeg newydd. Unigryw, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Darlith Flynyddol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg yn y De-ddwyrain
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2016: Y Gymraeg, y Wenhwyseg ac Addysg Gymraeg yn y De-ddwyrain gan Dylan Foster Evans. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar ddydd Mawrth 2 Awst 2016.
Darlith Flynyddol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn, gan Eryn White, Prifysgol Aberystwyth. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.