Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymwysterau Adeiladwaith Lefel 3, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’n cynnig cyfle i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y diwydiant adeiladu, o arferion adeiladu, iechyd, diogelwch a lles i’r sector hwn yng Nghymru. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y pum uned ganlynol: 301: Deall Arferion Adeiladu yng Nghymru 302: Gweithio yn y Sector Adeiladu yng Nghymru 304: Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle 305: Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol 306: Symud, trin neu storio adnoddau. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynhadledd Ymchwil 2026
Cynhelir y Gynhadledd Ymchwil ar 25–26 Mehefin yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a chaiff ei ffrydio ar sianel YouTube y Coleg. Gweler rhagor o wybodaeth ar wefan y Coleg, a bydd recordiadau o'r papurau i'w gweld isod yn dilyn y gynhadledd. Mae modd gweld y posteri ymchwil a arddangosir yn y gynhadledd drwy glicio ar y dolenni isod.
Ap Adeiladu trwy'r Gymraeg
Nod yr ap hwn yw cefnogi dysgwyr, prentisiaid a gweithwyr sydd angen cefnogaeth i allu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn sefyllfaoedd proffesiynol sy’n ymwneud â maes Adeiladu. Mae'r ap wedi'i rannu mewn i'r adrannau canlynol: Cyffredinol Sgwrsio Adeiladu Gwaith Brics Plastro Soled Plymio Trydan Iechyd a Diogelwch Cymorth Cyntaf Anafiadau Gorchmynion Gyrfaoedd mewn adeiladu Offer
Cyflwyniad i SPSS
Cyfres o fideos yn rhoi cyflwyniad i SPSS gan Dr Awel Vaughan-Evans, Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae SPSS yn feddalwedd gyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu, dadansoddi a dehongli data meintiol gan ddefnyddio dulliau ystadegol. Gellir ei ddefnyddio i ddadansoddi data o ddulliau ymchwil ansoddol megis holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws drwy godio’r wybodaeth ansoddol a’i throi’n ddata meintiol. Cynhelir gweithdy ar-lein ar 5 Mehefin am 11am i gyd-fynd â’r adnodd hwn. Gallwch gofresru ar gyfer y gweithdy yma.
Cyflwyniad Arloesedd mewn Bwyd ac Amaeth
Cyflwyniad gan Dr Robert Bowen o Adran Fusnes Prifysgol Caerdydd, ar sut mae, a sut gall, y sector bwyd ac amaeth yng Nghymru fanteisio ar farchnata eu cynnyrch. Mae'r cyflwyniad yn edrych ar y cyd-destun, heriau, arloesedd, ac entrepreneuriaeth yn y maes gan gynnwys enghreifftiau. Mae'n ystyried heriau megis Deallusrwydd Artiffisial, a'r angen i gynnig gwerth ychwanegol i'r cynnyrch.
Gosod Brics
Mae’r adnodd hwn ar gyfer dysgwyr a phrentisiaid sy’n astudio cymhwyster Lefel 2 Gosod Brics, ynghyd â’r staff sy’n eu cefnogi. Mae’r adnodd rhyngweithiol dwyieithog hwn yn cynnwys gwybodaeth, gweithgareddau ac adnoddau dysgu ar draws y tair uned ganlynol: 204: Gwybodaeth graidd gosod brics 205: Gosod allan i godi strwythurau gwaith maen 206: Gosod strwythurau gwaith maen. Nod yr adnodd yw cefnogi dysgwyr yn eu hastudiaethau a’u hannog i ddefnyddio cymaint o’r cynnwys â phosibl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyflwyniad i NVivo
Cyfres o fideos yn rhoi cyflwyniad i NVivo gan Emma Grigorian, ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Mae NVivo yn feddalwedd gyfrifiadurol a ddefnyddir i gasglu, trefnu, dadansoddi a dehongli data ansoddol. Gellir ei defnyddio i ddadansoddi data o ddulliau ymchwil ansoddol megis cyfweliadau, grwpiau ffocws, holiaduron a thrawsgrifiadau drwy godio’r data ac adnabod themâu a phatrymau. Cynhelir gweithdy ar-lein ar 1 Mehefin am 2pm i gyd-fynd â’r adnodd hwn. Gallwch gofrestru ar gyfer y gweithdy yma.
Cyflwyniad i Gwerddon
Cyflwyniad i e-gyfnodolyn academaidd y Coleg Cymraeg, Gwerddon, gan yr is-olygydd, Dr Hywel Griffiths. Mae Gwerddon yn gyfnodolyn mynediad agored sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd. Ei nod yw symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac yn gweithredu cyfundrefn arfarnu annibynnol yn ogystal ag arddel y safonau golygyddol uchaf. Yn y cyflwyniad hwn, ceir trosolwg o gefndir Gwerddon ynghyd â chanllaw manwl i’r broses o gyflwyno a chyhoeddi erthyglau yn y cyfnodolyn.
Deallusrwydd Artiffisial a’r Gymraeg
Mae Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn newid tirwedd addysg uwch yn gyflym. Mae’n dylanwadu ar y ffordd y mae myfyrwyr yn dysgu, sut mae staff yn cynllunio addysgu ac yn asesu, a sut mae sefydliadau’n cefnogi datblygiad academaidd a sgiliau digidol. Er bod DA yn cynnig cyfleoedd sylweddol, mae hefyd yn codi cwestiynau pwysig ynghylch uniondeb academaidd, llythrennedd digidol, tegwch a chynhwysiant. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yng nghyd-destun addysg uwch cyfrwng Cymraeg, gan roi sylw arbennig i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr ieithoedd lleiafrifol Mae’r adroddiad yn dod â gwaith ymchwil, profion ymarferol ac adborth gan staff a myfyrwyr ynghyd i ddarparu trosolwg o DA a’i oblygiadau i addysg cyfrwng Cymraeg. Amlygir enghreifftiau o arfer da a nodi ffyrdd o hyrwyddo defnydd cyfrifol, moesegol a chynhwysol o DA. Ceir yma ganllawiau ymarferol ar ddewis offer addas, ysgrifennu promptiau effeithiol, gwirio dibynadwyedd a chywirdeb cynnwys a gynhyrchir gan DA, gan fynd i’r afael â materion megis preifatrwydd, rhagfarn a thryloywder. Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn sbardudno trafodaeth, arbrofi a chydweithio ar draws y sector er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu manteisio’n deg ar ddatblygiadau DA, gan gefnogi dull dwyieithog, cynhwysol a chyfrifol o ddefnyddio’r technolegau hyn mewn addysg uwch.
Cyhoeddi Academaidd
Panel o academyddion yn rhannu eu profiadau a’u cyngor ynghylch cyhoeddi academaidd yng nghwmni'r Athro Huw Morgan, Dr Hannah Sams, Dr Sam Parry, Dr Geraint Palmer-Liyu a Dr Rhiannon Marks. Mae’r drafodaeth yn addas i ymchwilwyr sy’n awyddus i ddysgu rhagor am y broses o gyhoeddi eu gwaith. Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 25 Mehefin 2026.
Cyflwyniad i Wasg Prifysgol Cymru
Cyflwyniad i Wasg Prifysgol Cymru gan Uwch Olygydd Comisiynu, Cymraeg a Phynciau Cymreig y wasg, Dr Llion Wigley. Yn y cyflwyniad hwn, ceir trosolwg o gefndir y wasg ynghyd â chanllaw manwl i’r broses o gyflwyno a chyhoeddi cyfrolau.
Deunydd Hyrwyddo Lefel A Cymraeg 2026
Chwilio am fideos neu bosteri i hyrwyddo Lefel A Cymraeg? Dyma fersiynau newydd ar gyfer 2026 - yn cynnwys cyfraniadau gan Doctor Cymraeg, Lili Mai Jones, Francesca Sciarrillo, Gwion Ifan a Sara O'Connor. Addas ar gyfer iaith gyntaf ac ail iaith, gyda deunydd Doctor Cymraeg a Francesca Sciarrillo yn benodol ar gyfer hyrwyddo astudio Lefel A Cymraeg ail iaith.
