Y sgriptwyr proffesiynol, Roger Williams a Kirsty Jones, sydd wedi cyfrannu i gyfresi teledu megis Caerdydd, Gwaith Cartref, Zanzibar, Rownd a Rownd yn ogystal â'r operâu sebon Eastenders, Pobol y Cwm a Hollyoaks, yn rhoi cyflwyniad anffurfiol i'r broses o lunio sgript ar gyfer y teledu fel cyfrwng gan gyfeirio'n uniongyrchol at enghreifftiau o'i waith. 23 a 30 Hydref 2012, Prifysgol Bangor.
Llyfryddiaeth Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Dyma Lyfryddiaeth ar gyfer y cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.
Lowri Edwards et al., 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn...
Mewn adroddiad yn 2013, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod codi statws Addysg Gorfforol (AG) i fod yn bwnc craidd, fel Cymraeg a Mathemateg, yn hanfodol er mwyn ceisio atal yr epidemig gordewdra presennol. Serch hynny, mae'n rhaid cael gwersi AG o ansawdd uchel er mwyn cael effaith gorfforol gadarnhaol ar ddisgyblion. Mae gan athrawon AG rôl hanfodol wrth weithredu AG o ansawdd uchel, ac felly bydd deall eu canfyddiadau ynghylch AG o ansawdd uchel yn bwysig. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda deg o athrawon AG ysgolion cyfrwng Cymraeg de Cymru (saith dyn a thair menyw). Daeth i'r amlwg fod tebygrwydd rhwng theori cyfredol yn y maes a chanfyddiadau'r athrawon, er enghraifft pwysigrwydd creu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yna wahaniaethau rhwng y theori a'r ymarfer, er enghraifft dryswch gyda'r term llythrennedd corfforol. Goblygiad yr astudiaeth yw fod angen ymgynghori gydag athrawon AG i lunio polisïau AG o ansawdd uchel. Yn y dyfodol dylid cynnal ymchwil gweithredol i hybu'r term llythrennedd corfforol. Lowri Edwards, Anna Bryant ac Anwen Mair Jones, 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 44-60.
Merched ar gofebau'r Rhyfel Mawr
Darlith gan Dr Gethin Matthews a roddwyd yng nghynhadledd hanes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sain Ffagan, 22 Chwefror 2017. Yn y ddarlith hon mae Dr Gethin Matthews yn edrych ar sut mae nifer fawr o ferched Cymru yn cael eu coffáu ar gofebau i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n ystyried sut roedd eu cyfraniad yn cael ei gydnabod yn ystod y blynyddoedd o ymladd, a sut cafodd eu henwau eu cynnwys ar nifer sylweddol o gofebau a grëwyd ar ôl y Rhyfel. Mae'r cyfan yn ddealladwy mewn oes lle roedd 'Iaith 1914' yn rhemp, a grwpiau amrywiol yn cystadlu i ddangos eu teilyngdod a'u teyrngarwch: fodd bynnag, cyn bo hir fe gafodd cyfraniad merched ei anghofio a'i anwybyddu.
Milwyr Cymru yn yr Aifft a Phalesteina 1916-1918 - darlith gan Dr Gethin Matthews
Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe yn darlithio ar y testun 'Milwyr Cymru yn yr Aifft a Phalesteina 1916-1918'.
Ni Fyn y Taeog Mo'i Ryddhau – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones, ar hunaniaeth y Cymry a pherthynas hynny gyda'r iaith Gymraeg, ei dirywiad a'r pwysau i gymhathu â'r diwylliant Prydeinig. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol
Pamffledi 'Dysgu Am'
Cyfres o bamffledi ym maes addysg iechyd a meddygaeth yn rhoi cyflwyniad i wahanol agweddau ar y maes a chyngor ar bynciau mwy eang megis cynllunio gyrfa. fnogwyd y prosiect drwy Grant Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chan Brifysgol Caerdydd (gan gynnwys cymorth dylunio Hannah Simpson a gwaith golygu iaith Dr Iwan Rees, Ysgol y Gymraeg). Mae'r pamffledi yn cynnwys: Dysgu Am: Addysgu mewn Prifysgol yng Nghymru Rhan 1 – Myfyrwyr Lleol Dysgu Am: Cynllunio Gyrfaol Dysgu Am: Iechyd Gwledig Gymreig mewn Addysg Dysgu Am: Mentora Dysgu Am: Moeseg Gofal Iechyd Dysgu Am: Rhoi a Derbyn Gofal yn y Gymraeg Dysgu Am: Y Dystysgrif Sgiliau Iaith
Pecyn Rhyngweithiol ar gyfer Nyrsio
Rhaglen ryngweithiol wedi ei seilio ar Bapur Briffio LLAIS: Ymwybyddiaeth o Iaith mewn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Pêl Droed, Alcoholiaeth a Gwellhad: Oes Gwersi i'w Dysgu?
Darlith gan Dr Carwyn Jones yn amlinellu canlyniadau ymchwil ansoddol i mewn i brofiad cyn bêl-droediwr proffesiynol a oedd yn dioddef o alcoholiaeth. Mae'n olrhain ei hanes o'i blentyndod drwy yrfa fer broffesiynol, ei gwymp i mewn i ddibyniaeth a'i adferiad. Gall myfyrwyr is-raddedig ddefnyddio'r adnodd er mwyn cael: Gwybodaeth ddamcaniaethol am ddibyniaeth Esiampl o ymchwil dadansoddol astudiaeth achos Gwybodaeth am effeithiau dibyniaeth
Gwaith Pantycelyn: Detholiad – Gomer M. Roberts (gol.)
Detholiad o gant o emynau William Williams Pantycelyn ynghyd â dwy farwnad, dyfyniadau o gerddi hirach a darnau o ryddiaith. Ceir yma hefyd ragarweiniad i fywyd Pantycelyn, y diwygiad Methodistaidd a rôl oddi mewn iddo. Trafodir arbenigedd ei waith yn gryno yn ogystal.
Gwaith Theori ac Arfer Cymraeg
Deunyddiau darlith cyflawn ar gyfer cwrs rhan dau, Theori ac Ymarfer Daearyddiaeth.
Gweithdai Seicoleg Chwaraeon
Cyfres o ddeg gweithdy ar seicoleg chwaraeon ar gyfer hyfforddwyr. Cafodd y gweithdai eu creu gan Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor fel rhan o brosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.