Mewn rhaglen ddogfen onest, yr hanesydd Hywel Williams fydd yn herio'r syniad bod Cymru'n genedl 'gymunedol'. Aiff Hywel ati yn ei ffordd ddihafal ei hun i ddryllio'r ddelwedd yma o Gymru fel gwlad 'gymunedol': cymuned glos, saff a mewnblyg. Ond o ble daw'r syniad yma yn y lle cyntaf ac ai ystrydeb yw'r cyfan? Drwy ddefnydd crefftus o archif, sgript, cerddoriaeth a barddoniaeth, bydd Hywel yn cyflwyno dadl ddeallusol a gweledol fydd yn codi cwestiynau ac yn tanio trafodaeth. Awen.tv, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymuned gan Hywel Williams (2014)
Anufudd-dod Dinesig – Meredydd Evans
Darlith yn trafod amodau moesol gweithredu anghyfreithlon, neu anufudd-dod dinesig, dros yr iaith Gymraeg. Dyma Ddarlith Goffa J. R. Jones, 1993.
Areithiau Eisteddfod Aberafan – J. R. Jones (gol.)
Casgliad o bedair araith gan J. R. Jones, Siôn Daniel, Emyr Llywelyn ac Alwyn D. Rees a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan ym 1966 yn trafod ymgyrchu dros y Gymraeg a lle gweithredu anghyfreithlon yn dilyn ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans.
Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithi...
Mewn rhan o Gymru lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth yn ddwyieithog, nid oedd unrhyw therapyddion Cymraeg gan un gwasanaeth adsefydlu corfforol cymunedol. Asesodd mesur deilliannau a gydnabyddir yn rhyngwladol effeithiolrwydd yr adsefydlu. Yr oedd gan gleifion Cymraeg eu hiaith ganlyniadau yn sgil yr adsefydlu oedd yn sylweddol is na siaradwyr di- Gymraeg (p<0.05). Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol mewn ardal arall lle'r oedd y therapyddion yn ddwyieithog. Awgryma'r canfyddiadau fod gallu therapyddion i siarad iaith gyntaf cleifion yn dylanwadu ar effeithiolrwydd therapi. Cymharwyd canran yr unigolion a gyfeiriwyd (gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol) ac a fedrai'r Gymraeg â'r ganran o siaradwyr Cymraeg y rhagwelid eu cyfeirio ar sail nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd nifer sylweddol lai o siaradwyr Cymraeg eu cyfeirio at y gwasanaeth adsefydlu na'r canran a ragwelid (p<0.001). Er bod hyn yn awgrymu y medr y ffaith na all gweithwyr proffesiynol siarad Cymraeg effeithio'n negyddol ar siaradwyr Cymraeg sy'n cyrchu gwasanaethau, fe all fod rhesymau seico-gymdeithasol amlffactoraidd eraill i'w hystyried. Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 83-112.
Catrin Fflur Huws, 'Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy' (2008)
Dros y chwarter canrif diwethaf, mae tai wedi mynd yn fwyfwy anfforddiadwy i'r mwyafrif helaeth o bobl. Mae'r erthygl hon yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn sydd wedi achosi'r sefyllfa hon, a'i heffeithiau ar yr unigolyn ac ar y gymuned. Hefyd, bydd yn ystyried sut y mae tai anfforddiadwy a diffyg cyfleoedd tai ar gyfer pobl leol yn effeithio ar yr iaith Gymraeg. Yna, bydd yr erthygl yn ystyried y mecanweithiau a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Whitehall i ddatrys y problemau cydberthynol, sef tai anfforddiadwy a'r ffaith bod pobl leol yn methu â fforddio prynu tai yn eu hardal leol, ac i ba raddau y mae'r datrysiadau hyn yn cynnig atebion i'r dilema hwn sydd yn gynaliadwy yn y tymor hir. I orffen, cynigir awgrymiadau ynghylch sut i wella'r fframweithiau presennol, yn ogystal â dulliau mwy radical i sicrhau nad yw tai yn mynd yn foethusbeth. Catrin Fflur Huws, 'Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy', Gwerddon, 3, Mai 2008, 71-93.
Catrin Fflur Huws, 'Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri'r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd...
Gan ddefnyddio statws cyfredol yr iaith Gymraeg mewn addysg ôl-16 a gweinyddu cyfiawnder fel modelau, amcan yr erthygl hon yw esbonio cylchred o ddiffyg defnydd ieithyddol, sydd yn bodoli er gwaethaf darpariaeth ffurfiol ar gyfer gwasanaethau ac adnoddau drwy gyfrwng iaith leiafrifol. Wedi hynny, eglurir ymhle y gellir canfod gwendidau o fewn y rhediad hwn. Yna cloriannir sut gellir defnyddio deddfwriaeth a pholisiau cyfredol mewn modd mwy effeithlon er mwyn newid ymddygiad ieithyddol. Catrin Fflur Huws, 'Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri'r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 7-27.
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Mae'r Athro Gareth Williams yn hanesydd disglair, yn arbenigo ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae bellach yn Athro Emeritws Prifysgol De Cymru. Yma, mewn darlith a draddododd ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill 2013, mae'n trafod pa ysgrifau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Cynhadledd Ryngwladol 2014
Yn y casgliad hwn ceir cyflwyniadau o Gynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 1-3 Gorffennaf 2014. 'Pa le i'n hiaith mewn Addysg Uwch?' oedd thema'r gynhadledd ac mae'r cyflwyniadau'n ymwneud yn bennaf â pholisi iaith ac addysg yng Nghymru ac Ewrop.
Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau' (2013)
Yn 2015, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cyflwyno cynllun caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau. Yn fras, yn ôl y cynllun hwn, os na fynegwyd gwrthwynebiad gan oedolion yng Nghymru i roi eu horganau ar ôl iddynt farw, ac os na leisir gwrthwynebiad gan eu teuluoedd, tybir gan yr awdurdodau fod caniatâd wedi ei roi. Yn ôl y drefn bresennol, rhoddir cyfrifoldeb ar yr unigolyn i gofrestru fel rhoddwr, ond gyda gweithredu'r cynllun newydd, gofynnir i'r unigolyn ddatgofrestru os mai dyna yw ei ddymuniad. Cyflwynir yma werthusiad o'r cynllun o safbwynt cyfreithiol a moesegol. Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 63-77.
Gwawr Ifan, 'Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru' (2012)'
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu corawl wedi chwarae rhan flaenllaw yn y diwylliant a'r gymdeithas Gymreig. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, bu galw cynyddol i ystyried dylanwad lles a safon byw ar iechyd. Yn sgil hyn, mae llawer o ymchwil yn ystyried y celfyddydau cymunedol, a chanu corawl yn benodol, fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a'r modd y gall hyn ddylanwadu ar iechyd a lles personol a chymdeithasol. O ganlyniad i'r gydnabyddiaeth hon, canolbwyntia'r erthygl hon ar ymchwil i'r berthynas rhwng canu corawl – fel digwyddiad cerddorol a chymdeithasol – ac iechyd a lles cyffredinol ymhlith cantorion amatur yng Nghymru. Gwawr Ifan, ''Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 15-39.
Huw Lewis, 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?' (2010)
Mae polisiau a gyflwynwyd i adfywio rhagolygon ieithoedd lleiafrifol wedi bod yn ffynhonnell cryn anesmwythyd yn aml. Weithiau, mae gwrthwynebiadau i'r polisïau hyn yn cael eu mynegi mewn termau moesol, gan gyhuddo rhai mesurau o dorri egwyddorion normadol megis rhyddid unigol a chyfle cyfartal. O ystyried eu natur, mae'r gwrthwynebiadau moesol hyn yn cynnig cwestiynau diddorol i ryddfrydwyr. Felly, sut y dylai rhyddfrydwyr ymateb? Bydd yr erthygl hon yn archwilio'r cwestiwn hwn drwy ganolbwyntio ar un agwedd ddadleuol ar bolisi iaith yng Nghymru: y camau a gymerwyd i osod gofynion o ran yr iaith Gymraeg ar gyfer rhai swyddi yn y sector cyhoeddus. Dyma arfer sydd wedi creu cryn ddadlau, gyda gwrthwynebwyr yn honni ei fod yn tanseilio'r ymrwymiad rhyddfrydol i gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth ac, yn benodol, yn torri egwyddor penodi ar sail teilyngdod. A yw dadleuon o'r fath yn gwrthsefyll craffu? A yw gofynion ieithoedd lleiafrifol ym maes cyflogaeth yn mynd y tu hwnt i'r hyn y byddai rhyddfrydwyr yn ei ystyried yn dderbyniol, neu a ellir datblygu amddiffyniad cydlynol sydd â'i wreiddiau yn glir o fewn fframwaith rhyddfrydol? Huw Lewis, 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 55-73.
Hywel Jones, 'Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg' (2007)
Mae dadansoddiadau Aitchison a Carter o'r Cyfrifiad dros y degawdau diwethaf wedi llwyddo i sicrhau bod y prif dueddiadau o ran dosbarthiad gofodol y Gymraeg yn hysbys i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol yr iaith. Serch hynny, mae rhai agweddau yn dal i fod heb eu harchwilio. Ymgais yw'r papur hwn i roi golwg wahanol ar y tueddiadau drwy gyflwyno nifer o ddadansoddiadau newydd. Yn y rhan gyntaf, archwilir cynhyrchiad iaith rhwng 1991 a 2001 sydd yn effaith y system addysg. Dangosir bod cyflwyno'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Ngwent wedi arwain at y newidiadau mwyaf. Yn yr ail ran, edrychir ar ddosbarthiad daearyddol siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yr ardaloedd hynny lle gallai mwy na 70% siarad Cymraeg. Cyflwynir rhai mynegeion er mwyn mesur y sefyllfa ac esbonio arwyddocâd yr ardaloedd hynny. Yn olaf, trafodir goblygiadau dosbarthiad gofodol (neu rwydwaith cymdeithasol) i ddefnydd y Gymraeg drwy ystyried damcaniaeth debygolrwydd fach. Hywel Jones, 'Goblygiadau newid ym mhroffeil oedran siaradwyr Cymraeg', Gwerddon, 2, Hydref 2007, 12-34.
