Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a'r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o'r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a'r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg. Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy'n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy'n cyflwyno meddwl Kant fel y'i mynegir yn ei Kritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir yn Aids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i'r athroniaeth Galfinaidd. Y mae'r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd. Dadleuir mai'r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o'r prif ffactorau a oedd yn symbylu'r brad y cyhuddir Edwards a'i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw'n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i'w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu'r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw. Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, Awst 2017, 83-101.
Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion' (2017)
Modiwl Cyflwyniad i Gynllunio Gofodol (CP0110)
Datblygwyd y deunydd yma i gydfynd â modiwl CP0110 Cyflwyniad i Gynllunio Gofodol, modiwl lefel 4 ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r modiwl yn edrych ar darddiad cynllunio gofodol ym Mhrydain ac yn esbonio sut mae'r system bresennol wedi esblygu. Rhoddir sylw arbennig i'r themâu allweddol sy’n dod i'r amlwg o gynllunio Prydeinig: ei ymddangosiad fel gweithgaredd llywodraeth leol; effaith proffesiynoldeb a meddylwyr 'llawn gweledigaeth'; newid ideolegau gwleidyddol; a newidiadau yng nghraddfeydd gofodol cynllunio.
Eitha different yndyn nhw...but it works'
Cynhaliwyd cyfres o weithdai ym Mhrifysgol Caerdydd ar 27 Ionawr 2017 i drafod dwyieithrwydd a’r broses greadigol, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal â gweithdy difyr ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae dwyieithrwydd yn eu cynnig i awduron, beirniaid, cyhoeddwyr/cynhyrchwyr, a chyfranogwyr eraill i’r broses ysgrifennu, cafwyd cyfweliadau diddorol gydag Ed Thomas a Llwyd Owen, a thrafodaeth ford gron ddadlennol gyda Tony Bianchi, Catrin Dafydd, Alun Saunders a Branwen Davies.
Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol
Cyfres o glipiau fideo sy'n cael eu defnyddio ar y modiwl Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol (MED16001), Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor.
Cist Offer Newyddiaduraeth
Mae angen i newyddiadurwyr feistroli ystod eang o sgiliau. Mae Cist Offer yn darparu cyngor ymarferol mewn meysydd allweddol i gyw newyddiadurwyr. Mewn cyfres o fideos mae rhai o ymarferwyr mwyaf profiadol y diwydiant yng Nghymru yn rhannu ‘tips’ a chyngor ar rai o brif agweddau’r gwaith. Cyfranwyr: Bethan Rhys Roberts, Catrin Heledd, Gwyn Loader, Dylan Iorwerth Ffilmio a Golygu: Gwenda Richards Cynhyrchwyr: Gwenda Richards, Sian Morgan Lloyd @jomeccymraeg Cynhyrchwyd yr adnoddau gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa
Croeso i Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa, adnodd gan Dr Iwan Wyn Rees, Prifysgol Caerdydd. Yr amcan yn syml yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Cewch gyfle yma i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.
Adeiladu Rhithwir
20 tiwtorial animeiddiedig ynghyd â gweithgareddau rhyngweithiol i helpu dysgwyr i weld pa sgiliau crefft sydd eu hangen i adeiladu tŷ. Mae'r animeiddiadau wedi rhannu i 4 crefft: Adeiladu sylfeini a waliau, Gwaith saer, Plastro a Peintio ac addurno. Ar gyfer myfyrwyr Adeiladwaith Lefelau 1 a 2. Datblygwyd yr adnodd gan Cwmni Cynnal ar ran Llywodraeth Cymru ac mae'r adnodd hefyd ar gael drwy wefan HWB.
Ben Screen, 'Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu ...
Mae cyfieithu i'r Gymraeg wedi tyfu bellach yn ddiwydiant pwysig, ac mae nifer o ymchwilwyr wedi cysylltu cyfieithu ag ymdrechion ehangach ym maes cynllunio ieithyddol. Mae'r oes dechnegol hefyd wedi gwyrdroi sut y mae cyfieithu'n digwydd yn rhyngwladol, ac mae nifer o'r datblygiadau hyn hefyd wedi cyrraedd Cymru. Bwriad yr erthygl hon felly, gan gadw mewn cof bwysigrwydd cyfieithu i gynllunio ieithyddol yng Nghymru, yw ymchwilio i'r effaith y mae Cofion Cyfieithu yn ei chael ar agweddau penodol ar y broses o gyfieithu i'r Gymraeg, gan ofyn a oes lle i'r dechnoleg hon mewn cyd-destun proffesiynol. Pa gyfraniad a all y dechnoleg ei wneud, felly, i gyfieithu a chynllunio ieithyddol yng Nghymru? Ben Screen, 'Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu i'r Gymraeg', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 10-35.
Cynan Llwyd, 'Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder': Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)' (2017)'
Yn yr erthygl hon, dadleuir sut y dylanwadodd credoau Morgan John Rhys (1760–1804) ynghylch yr Ailddyfodiad a'r Milflwyddiant ar ei ymwneud ef â'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Chwyldro Ffrengig ac America. Dangosaf sut yr oedd Milflwyddiaeth yn rym a luniai fydolwg Morgan John Rhys ac a lywiai ei weithredoedd a'i ymgyrchoedd cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, dangosir sut y bu i William Williams, Pantycelyn (1717–91), ragflaenu Morgan John Rhys yn y cyd-destun hwn. Dadleuir, wrth astudio Williams a Rhys, na ellir cyfrif Efengyliaeth a'r Oleuedigaeth yn elynion deallusol i'w gilydd, ac mai Milflwyddiaeth oedd un o'r grymoedd pwysicaf ym mywydau'r ddau ddyn hyn a chwaraeodd ran dylanwadol iawn ym mywyd Cymru'r ddeunawfed ganrif. Cynan Llwyd, '“Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder”: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 85-98.
Carwyn Jones a Neil Hennessy, 'Y Sgrym: Cyfiawnder a Chyfrifoldeb' (2017)
Pwrpas yr erthygl hon yw dangos bod rheolau sgrym Rygbi'r Undeb yn wallus. Mae annhegwch yn anorfod wrth geisio dehongli a gweithredu'r rheolau hyn. Gan fod y sgrym yn ddigwyddiad cydweithredol a chystadleuol sy'n gofyn am ystod o sgiliau a thechnegau cymhleth, mae'n amhosibl i ddyfarnwr benderfynu yn ddibynadwy pwy sydd yn gyfrifol am droseddu. O ganlyniad, mae chwaraewyr yn aml yn cael eu cosbi yn annheg. Gall y gosb fod yn dyngedfennol i ganlyniad y gêm. Nid y chwaraewyr a gosbwyd a achosodd y drosedd o reidrwydd, ac felly nid ydynt yn foesegol gyfrifol amdani. O dan rai amgylchiadau ni allant wrthsefyll y grymoedd sy'n gweithredu arnynt. Er mwyn datrys y sefyllfa rhaid ceisio cadw cydbwysedd rhwng gwella tegwch a thanseilio rhinweddau adloniadol y gêm. Carwyn Jones a Neil Hennessy, 'Y Sgrym: Cyfiawnder a Chyfrifoldeb', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 70–85.
Arddun Hedydd Arwyn, 'Cystadlaethau cof - naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymh...
Rhwng 1945 a 1948 gorfodwyd i hyd at ddeuddeg miliwn o Almaenwyr a oedd yn trigo yn Nwyrain Ewrop fudo yn dilyn newidiadau a wnaed i ffiniau'r wlad. Daeth nifer o'r Almaenwyr hyn i fyw yng Ngweriniaeth Ffederal yr Almaen, lle y'u gelwid yn 'allwladwyr'. I goffáu eu mamwlad golledig, agorwyd amgueddfeydd bychain yn cynrychioli'r ardaloedd yr allwladwyd hwy ohonynt. Mae'r erthygl hon yn trafod y portread o gof a hanes yn amgueddfa tref Wehlau a oedd yn Nwyrain Prwsia. Drwy ymchwilio themâu fel cynrychioliad y famwlad, yr Ail Ryfel Byd ac integreiddiad yr Almaenwyr hyn i Orllewin yr Almaen, bydd yr erthygl hon yn trafod y tebygrwydd, y gwahaniaethau a'r tensiynau rhwng diwylliant cof yr allwladwyr a diwylliant cof yr Almaen yn ehangach. Arddun Hedydd Arwyn, '“Cystadlaethau cof”, naratif a hanes yn Amgueddfa Heimat Wehlau: Negodi hanes a chof cymhleth yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 45–69. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn
Merched ar gofebau'r Rhyfel Mawr
Darlith gan Dr Gethin Matthews a roddwyd yng nghynhadledd hanes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sain Ffagan, 22 Chwefror 2017. Yn y ddarlith hon mae Dr Gethin Matthews yn edrych ar sut mae nifer fawr o ferched Cymru yn cael eu coffáu ar gofebau i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n ystyried sut roedd eu cyfraniad yn cael ei gydnabod yn ystod y blynyddoedd o ymladd, a sut cafodd eu henwau eu cynnwys ar nifer sylweddol o gofebau a grëwyd ar ôl y Rhyfel. Mae'r cyfan yn ddealladwy mewn oes lle roedd 'Iaith 1914' yn rhemp, a grwpiau amrywiol yn cystadlu i ddangos eu teilyngdod a'u teyrngarwch: fodd bynnag, cyn bo hir fe gafodd cyfraniad merched ei anghofio a'i anwybyddu.
