Darlith gan Dr Gethin Matthews a roddwyd yng nghynhadledd hanes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sain Ffagan, 22 Chwefror 2017. Yn y ddarlith hon mae Dr Gethin Matthews yn edrych ar sut mae nifer fawr o ferched Cymru yn cael eu coffáu ar gofebau i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n ystyried sut roedd eu cyfraniad yn cael ei gydnabod yn ystod y blynyddoedd o ymladd, a sut cafodd eu henwau eu cynnwys ar nifer sylweddol o gofebau a grëwyd ar ôl y Rhyfel. Mae'r cyfan yn ddealladwy mewn oes lle roedd 'Iaith 1914' yn rhemp, a grwpiau amrywiol yn cystadlu i ddangos eu teilyngdod a'u teyrngarwch: fodd bynnag, cyn bo hir fe gafodd cyfraniad merched ei anghofio a'i anwybyddu.
Merched ar gofebau'r Rhyfel Mawr
Helen Ougham a Howard Thomas, 'Y ddeilen hon: natur, tarddiadau a phwrpas lliwiau dail' (2017)
Y mae cyflwr yr amgylchedd a threigl amser yn cael eu hadlewyrchu yn lliwiau newidiol y planhigion sydd o'n cwmpas. Y mae cloroffyl, y pigment gwyrdd mewn dail, yn dal golau'r haul ac yn pweru'r biosffer. Y mae diflaniad cloroffyl o ddail yn yr hydref yn datgelu lliwiau melyn ac oren teulu arall o bigmentau planhigion, sef y carotenoidau. Y mae carotenoidau yn amddiffyn planhigion rhag straen ac y maent hefyd yn gyfrifol am liwiau mewn blodau ac am yr oren a choch mewn ffrwythau. Yn yr hydref, y mae dail rhywogaethau, megis masarn, yn gwneud anthocyaninau coch a phorffor, sy'n aelodau o deulu amrywiol o bigmentau a chemegion amddiffyn. Y mae planhigion yn defnyddio pigmentau i anfon signalau at organebau sy'n peillio blodau, i'r rhai sy'n gwasgaru hadau a ffrwythau, ac i ysglyfaethwyr; ymhlith y rhain i gyd y mae'r ddynol ryw, sydd yn ymateb mewn dull ffisiolegol a seicolegol arbennig i'r cemegion a geir yn y planhigion sy'n lliwio ein byd. Helen Ougham a Howard Thomas, 'Y ddeilen hon: natur, tarddiadau a phwrpas lliwiau dail', Gwerddon, 24, Awst 2017, 38-50.
Cynhadledd Pontydd Cyfieithu
Cynhaliwyd cynhadledd Pontydd Cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 19 Ionawr 2017. Yma, ceir rhaglen y gynhadledd ynghyd â ffeiliau sain a/neu fideo o bob cyflwyniad neu sesiwn. Cliciwch ar Cyfryngau Cysylltiedig uchod i lawrlwytho'r ffeiliau.
Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol
Cyfres o glipiau fideo sy'n cael eu defnyddio ar y modiwl Iechyd a’r modelau biofeddygol a bioseicogymdeithasol (MED16001), Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor.
M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr' a diwylliant llên troad y ganrif' (2017)'
Dadl greiddiol yr ysgrif yw y byddai'n werth gosod drama nodedig Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, yng nghyd-destun nifer o nofelau Saesneg Cymru a gyhoeddwyd ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n ymdrin â pherthnasedd yr hen bendefigaeth i'r Gymru Newydd yr oedd mudiad Cymru Fydd yn ei hybu. Awgrymir y gall amgyffred y testunau hyn finiogi a chyfoethogi ein dehongliad o ddrama sy'n gynnil ac yn amwys iawn ei goblygiadau. M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a diwylliant llên troad y ganrif', Gwerddon, 24, Awst 2017, 66-82.
Darlith Flynyddol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn, gan Eryn White, Prifysgol Aberystwyth. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.
D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn'' (2017)'
Yr astudiaeth Williams Pantycelyn (1927) gan Saunders Lewis oedd un o gyfraniadau mwyaf beiddgar at feirniadaeth lenyddol Gymraeg a welwyd yn yr ugeinfed ganrif. Mewn deg pennod ddisglair a chofiadwy, dehonglodd Lewis athrylith yr emynydd mewn dull cwbl annisgwyl ac unigryw. Y ddwy allwedd a ddefnyddiodd i ddatgloi cynnyrch y bardd oedd cyfriniaeth Gatholig yr Oesoedd Canol a gwyddor gyfoes seicoleg, yn cynnwys gwaith Freud a Jung. Enynnodd y gyfrol ymateb cryf, gyda rhai'n gwrthod y dehongliad ond eraill yn ei dderbyn. Yn yr ysgrif hon, disgrifir ymateb rhai o'r beirniaid cynnar: T. Gwynn Jones a oedd, at ei gilydd, yn croesawu'r dehongliad, E. Keri Evans a oedd yn ei wrthod a Moelwyn Hughes a ymatebodd yn chwyrn yn ei erbyn. Oherwydd grym rhesymu Lewis a dieithriwch ei deithi beirniadol, llwyddwyd i ddarbwyllo llawer mai hwn, chwedl Kate Roberts, oedd 'y Williams iawn'. Bu'n rhaid aros tan y 1960au i weld disodli'r farn hon yn derfynol. Erys yr ymatebion yn dyst i feiddgarwch a disgleirdeb Pantycelyn Saunders Lewis. D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn', Gwerddon, 24, Awst 2017, 51-65.
Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr E...
Tymhestlog fu hanes perthynas yr Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Iddewon, ac yn yr erthygl hon archwilir y modd yr effeithiodd deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas honno. Gan gymryd detholiad o ddeddfau, ystyrir y modd y cawsant effaith ar safle cymdeithasol yr Iddew mewn byd a oedd yn troi'n fwyfwy Cristnogol. Eir ymlaen i drafod y modd yr ailgyflwynwyd ambell ddeddf wrth-Iddewig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ogystal ag yn ystod y digwyddiad erchyll a oedd yn dyngedfennol i'r Iddew a'r Cristion, yr Holocost. Daw'r erthygl i ben gan bwyso a mesur gwir arwyddocâd y deddfau imperialaidd cynnar a chan gwestiynu perthynas yr Iddew â'r Cristion yn yr unfed ganrif ar hugain. Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr Eglwys a'r Iddewon', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 58-84.
Rôl ataliad mewn dwyieithrwydd
Mae'r prosiect yma yn anelu at edrych ar sut mae pobl ddwyieithog (sy'n rhugl neu yn datblygu eu Cymraeg) yn cael gafael ar ac yn defnyddio pob un o'u hieithoedd. Ar ben hynny, bydd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng y ddwy iaith ac, yn benodol, sut mae cael ail iaith (Cymraeg) yn dylanwadu ar berfformiad yn eu hiaith gyntaf (Saesneg). Mae hyn yn bwysig nid yn unig achos bydd yn rhoi mewnwelediad i rôl ataliad mewn prosesu iaith ddwyieithog, ond bydd hefyd yn taflu golau ar sut mae siaradwyr Cymraeg yn dysgu'r iaith ac integreiddio i mewn i'r geiriadur meddwl mewnol, a allai, yn ei dro, yn arwain at strategaethau addysgol a all gynyddu effeithlonrwydd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i archwilio rôl ataliad mewn pobl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg a'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith a disgwylir iddo fod yr astudiaeth gyntaf mewn rhaglen ymchwil barhaus. Ariannwyd y gwaith gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg
Gafael Mewn Gramadeg – David Thorne
Astudiaeth gyfoes o ramadeg y Gymraeg sy'n amcanu i esbonio ei hanfodion. Y mae'r gyfrol yn cynnwys trafodaeth ar gywair ac amrywiaeth eang o arddulliau llafar ac ysgrifenedig. Rhoir nifer o enghreifftiau o sut y mae syniadau gramadegol yn berthnasol i'r iaith a welir ac a glywir o'n cwmpas bob dydd.
Torri Newyddion Drwg
Fideo 'Torri Newyddion Drwg' sy'n darparu cymorth i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n siarad Cymraeg. Mae sgiliau cyfathrebu yn hanfodol wrth ofalu am bobl fregus. Os ydynt yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, mae'n hanfodol ein bod yn rhoi offer dysgu i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal iddynt allu rhoi newyddion drwg yn iaith frodorol y person.O ganlyniad, llwyddodd Janine Wyn Davies i ennill grant ariannol er mwyn datblygu ffilm yma. Mae'r ffilm yn seiliedig ar fam yn cael gwybod iddi ddioddef 'erthyliad coll', oedd yn golygu nad oedd ei beichiogrwydd yn hyfyw mwyach.Mae'r rhan fwyaf o'r actorion yn y ffilm yn aelodau staff Prifysgol De Cymru.
Gweithdai Mathemateg ac Athroniaeth
Mae'r adnodd hwn yn deillio o grant bach a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol i Brifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd cynyddu diddordeb yn y cwrs gradd Mathemateg ac Athroniaeth. Fel rhan o'r prosiect, cynhaliwyd cyfres o weithdai mewn ysgolion. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau ymarferol sy'n deillio o'r ddau weithdy cyntaf, sef Cysyniadau Elfennol yn Athroniaeth a Mathemateg a Deall Rhifau a'u Rhan. Mae'r cwestiynau wedi'u hanelu at y rhai sy'n astudio tuag at Safon Uwch mewn Mathemateg.
