Casgliad o sgyrsiau rhwng Saunders Lewis ac awduron straeon byrion yn 1947-8, cyfnod pwysig yn natblygiad y stori fer Gymraeg. Ceir darlun drwy'r sgyrsio o fywydau'r llenorion, y gymdeithas oedd yn ysbrydoliaeth i'w llên a'r hyn a'u hysgogodd i ysgrifennu.
Crefft y Stori Fer – Saunders Lewis (gol.)
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Rowan O'Neill, 'Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis' (2014)
Ym 1987, gweithiai'r artist a chyfarwyddwr theatr, Cliff McLucas, fel artist preswyl yn Ysgol Gyfun Ddwyieithog Dyffryn Teifi ar brosiect o'r enw 'Preswyliad Cyfryngau Dyfed'. Fel rhan o'i waith yn yr ysgol, creodd gyfres o bortreadau o'r athrawon gan ddefnyddio techneg gludwaith ffotograffiaeth. Yn rhan o'r gyfres hon o luniau, ceir llun o athro Saesneg yr ysgol ar y pryd; y gwleidydd a'r ymgyrchydd iaith, Cynog Dafis. Yn yr erthygl hon, cynigir darlleniad craff o bortread McLucas o Dafis trwy edrych ar yrfa wleidyddol Dafis yng nghyd-destun bywyd McLucas ei hun. Symudodd McLucas o'r Alban i Dregroes, Ceredigion, ym 1973. Ar yr un adeg, aeth ati i ddysgu'r Gymraeg. Trafodir portread McLucas fel ymateb hunanymwybodol i'w bresenoldeb ef ei hun fel mewnfudwr i Geredigion, a hynny wrth wynebu Cynog Dafis (aelod o elite deallusol ei ddiwylliant mabwysiedig). Wrth wneud hynny, awgrymir perthynas rhwng portread McLucas o Dafis a llun enwog Sidney Curnow Vosper o 1908, 'Salem'. Ar ddiwedd yr erthygl, ceir ôl-nodyn sy'n cysylltu'r drafodaeth ar McLucas a'i bortread o Dafis ag agweddau ar y drafodaeth gyfoes ar fewnfudo ac allfudo yn ardaloedd gwledig Cymru. Rowan O'Neill, 'Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 23-40.
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg – Delyth Prys (gol.)
Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar ramadeg y Gymraeg, gwahanol gyweiriau, geiriadura, a datblygiad iaith. Traddodwyd yn wreiddiol fel cyfres darlithoedd y Gîcs Gramadeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
I'r Lleuad a Thu Hwnt – Eirwen Gwynn
Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn wreiddiol yn 1964 pan oedd y ras i'r lleuad yn ei anterth. Ceir ynddo hanes yr ras fawr rhwng Unol Daleithiau America a Rwsia ac amlinelliad hefyd o'r gweithgareddau eraill yn y gofod. Fe'i ysgrifennwyd er mwyn esbonio egwyddorion y maes i'r Cymro cyffredin heb gefndir gwyddonol.
Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill – Henry Jones
Tair darlith a draddodwyd i chwarelwyr gogledd Cymru gan Syr Henry Jones ar droad yr ugeinfed ganrif, yn trafod hawliau'r gweithiwr a'i le mewn cymdeithas.
Gwaedd yng Nghymru – J. R. Jones
Casgliad o ysgrifau gan yr athronydd J. R. Jones yn trafod parhad yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn wyneb Prydeiniad y gymdeithas, yr Arwisgiad a dadfeiliad crefydd.
Pêl Droed, Alcoholiaeth a Gwellhad: Oes Gwersi i'w Dysgu?
Darlith gan Dr Carwyn Jones yn amlinellu canlyniadau ymchwil ansoddol i mewn i brofiad cyn bêl-droediwr proffesiynol a oedd yn dioddef o alcoholiaeth. Mae'n olrhain ei hanes o'i blentyndod drwy yrfa fer broffesiynol, ei gwymp i mewn i ddibyniaeth a'i adferiad. Gall myfyrwyr is-raddedig ddefnyddio'r adnodd er mwyn cael: Gwybodaeth ddamcaniaethol am ddibyniaeth Esiampl o ymchwil dadansoddol astudiaeth achos Gwybodaeth am effeithiau dibyniaeth
Sesiynau Arfer Da
Cyfres o sesiynau arfer da ar gyfer ddarlithwyr sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cefnogi Myfyrwyr, Dr Dylan Foster Evans Arwain a Rheoli, Heledd Bebb Datblygu Darpariaeth, Manon George Marchnata Modiwlau Cymraeg, Manon Jones
Llefydd Sanctaidd (2013)
Taith o gwmpas rhai o lefydd mwyaf sanctaidd Ynysoedd Prydain yng nghwmni Ifor ap Glyn. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ni Fyn y Taeog Mo'i Ryddhau – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones, ar hunaniaeth y Cymry a pherthynas hynny gyda'r iaith Gymraeg, ei dirywiad a'r pwysau i gymhathu â'r diwylliant Prydeinig. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol