E-lyfr newydd gan yr Athro Enlli Môn Thomas a Dr Peredur Webb-Davies o Brifysgol Bangor. Ac ystyried bod mwy o ieithoedd gwahanol nag o wledydd yn y byd, mae'n anochel bod ieithoedd yn dod i gysylltiad â'i gilydd mewn rhyw ffordd ac ar ryw adeg yn ystod eu bodolaeth. O ganlyniad, poblogaeth amlieithog ei naws yw'r rhan helaethaf o boblogaeth y byd. Er nad oes ffigyrau penodol (neu ddull casglu data digon ymarferol) yn nodi'r union ganran neu union nifer y siaradwyr uniaith a dwyieithog a geir, mae meddu ar ddwy neu fwy o ieithoedd yn ddarlun teg o'r 'norm' ieithyddol cyfredol ar gychwyn yr 21ain ganrif. O'r ychydig dros 6,000 o ieithoedd sy'n parhau i fodoli ledled y byd, prin bod unrhyw un wedi'i hynysu rhag pobloedd neu gymdeithasau ieithyddol eraill. Daw pob iaith bron i gysylltiad ag iaith arall, ond nid pawb sydd o'r farn fod hynny'n dda o beth! Bwriad y llyfr hwn yw eich cyflwyno i fyd y siaradwr dwyieithog, ac i herio nifer o fythau ynglÅ·n ag anfanteision - ac, yn wir, manteision - dwyieithrwydd. Y gobaith yw y bydd y darllenydd, o ddarllen y gyfrol hon, yn deall yn well natur ac anghenion unigolion sydd yn meddu ar sgiliau mewn dwy iaith.
Agweddau ar Ddwyieithrwydd
Cynhadledd Ymchwil Seicoleg 2013
Cynhaliwyd cynhadledd ymchwil cyfrwng Cymraeg gyntaf yr Ysgol Seicoleg ym Mangor ar 4 Tachwedd 2013. Dr Carl Hughes oedd y prif areithiwr, yn areithio ar Newid Ymddygiad. Gellir lawrlwytho copiau o'r cyflwyniadau Pwerbwynt o dan bob cyflwyniad fideo.Traddodwyd ar ystod eang o bynciau amrywiol:
- Amy Hulson Jones: 'Gwella sgiliau darllen sylfaenol'
- Awel Vaughan Evans: 'Trosglwyddiad gramadegol rhwng y Gymraeg a'r Saesneg'
- Catherine Sharp: 'Y Food Dudes. Y Rhaglen Blynyddoedd Cynnar. Astudiaeth Gwerthuso wedi ei Rheoli'
- Ceri Ellis: 'Allwn ni gynnal cred mewn un iaith, ond nid y llall? Astudiaeth o gredoau diwylliannol ac emosiynol mewn pobl ddwyieithog Cymraeg-Saesneg'
- Denise Foran: 'Canlyniadau plant a dderbyniodd ymyriad ABA dwysder isel mewn ysgol anghenion arbennig'
- Dr Carl Hughes: 'Newid Ymddygiad: Be di'r Broblem?'
- Dr Leah Jones: 'Ymwybyddiaeth Ofalgar er lles rhieni plant ag anableddau deallusol a datblygiadol: datblygu mesurau cyfrwng Cymraeg ar gyfer ymchwil iechyd meddwl'
- Dr Nia Griffith: 'Ymchwilio'r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru'
- Ela Cernyw: 'Lles seicolegol rhieni sy'n siarad Cymraeg a gyda phlentyn ag anabledd dysgu'
- Emma Hughes: 'Gyffredinoli trawsieithyddol o effaith therapi mewn anomia dwyieithog Cymraeg-Saesneg'
- Yvonne Moseley: 'Datblygu rhaglen ddarllen Cymraeg yn seiliedig ar wybodaeth, tystiolaeth ac ymchwil'
Rôl ataliad mewn dwyieithrwydd
Mae'r prosiect yma yn anelu at edrych ar sut mae pobl ddwyieithog (sy'n rhugl neu yn datblygu eu Cymraeg) yn cael gafael ar ac yn defnyddio pob un o'u hieithoedd. Ar ben hynny, bydd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng y ddwy iaith ac, yn benodol, sut mae cael ail iaith (Cymraeg) yn dylanwadu ar berfformiad yn eu hiaith gyntaf (Saesneg). Mae hyn yn bwysig nid yn unig achos bydd yn rhoi mewnwelediad i rôl ataliad mewn prosesu iaith ddwyieithog, ond bydd hefyd yn taflu golau ar sut mae siaradwyr Cymraeg yn dysgu'r iaith ac integreiddio i mewn i'r geiriadur meddwl mewnol, a allai, yn ei dro, yn arwain at strategaethau addysgol a all gynyddu effeithlonrwydd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i archwilio rôl ataliad mewn pobl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg a'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith a disgwylir iddo fod yr astudiaeth gyntaf mewn rhaglen ymchwil barhaus. Ariannwyd y gwaith gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg
Holiadur Pryder Perfformiad
Crewyd yr adnodd hwn er mwyn darparu cefnogaeth seicoleg chwaraeon cyfrwng Cymraeg i athletwyr sy'n siarad Cymraeg. Y nod yw deall yr ymateb pryder perfformiad yn llawn.