Mae Darlith Edward Lhuyd yn gyflwyniad blynyddol ar wahanol agweddau o fywyd academaidd a chyfoes Cymru a'r byd. Ceir amrywiaeth eang o themâu gan gynnwys daeareg, llenyddiaeth, ecoleg neu hanes. Trefnir y ddarlith rhwng y Coleg a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Noder, ni fu darlithoedd yn 2020 - 2022 oherwydd Covid-19.
Darlith Flynyddol Edward Lhuyd
Darlith Flynyddol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymreig
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymraeg, gan yr Athro Richard Wyn Jones. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.
Darlith Flynyddol 2012: Canrif Gwynfor – Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2012: Canrif Gwynfor - Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg, gan Rhys Evans Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Darlith Flynyddol 2015: Y Wladfa 1865–2015 – Dathlu Beth?
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2015: Y Wladfa 1865-2015 - Dathlu Beth? gan Elvey MacDonald. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ar ddydd Mawrth 5 Awst 2015.
Darlith Flynyddol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn, gan Eryn White, Prifysgol Aberystwyth. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.
Darlith Flynyddol 2018: Cymru, Ymfudo a'r Cymry Tramor Rhwng y Rhyfeloedd Byd
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2018: Cymru, Ymfudo a'r Cymry Tramor Rhwng y Rhyfeloedd Byd, gan Bill Jones, Prifysgol Caerdydd.
Darlith Flynyddol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir, gan John Gwynfor Jones.
Y Rhyfel Mawr: Apêl at y Bobl – David Lloyd George
Araith gan David Lloyd George a draddodwyd ym Mangor yn 1915 pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys er mwyn annog cefnogaeth i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Geraldine Lublin, 'Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?' (2009)
Mae'r papur hwn yn cynnig dadansoddiad newydd o nifer o agweddau ar Y Wladfa ym Mhatagonia, drwy gyflwyno'r syniad o fod 'ar y trothwy' i'r drafodaeth, fel y'i dehonglwyd gan ddamcaniaeth ôl-wladychol. Ar ôl rhoi rhywfaint o gefndir hanesyddol y wladfa, sy'n rhoi ystyriaeth lawn i safbwynt yr Archentwyr, rydym yn mynd ati i archwilio nodwedd ddeuoliaeth amlwg yr arloeswyr o Gymru yn Chubut yn eu safle yn wladychwyr i bob pwrpas ac wedi'u gwladychu. Mae'r ymwybyddiaeth ddwbl y gellir ei holrhain yn ôl i ddechreuad y Fenter Fawr yn cael ei hastudio mewn cyd-destun cyffredinol a chan gyfeirio'n benodol at y berthynas gymhleth a ddatblygodd rhwng y mewnfudwyr o Gymru a phobl wreiddiol Patagonia. Geraldine Lublin, 'Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?', Gwerddon, 4, Gorffennaf 2009, 8-23.
Gethin Matthews, 'Sŵn yr ymladd ar ein clyw': Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg' (2012)'
Y Rhyfel Mawr oedd un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru gan fod goblygiadau'r Rhyfel wedi effeithio'n drwm ar gymdeithas a diwylliant y wlad am ddegawdau. Fodd bynnag, mae hanes y blynyddoedd o ymladd yn aml wedi cael ei gyflwyno i gynulleidfa Gymraeg mewn modd gor-syml, sy'n pwysleisio erchyllderau'r Rhyfel heb ystyried y cyd- destun. Mae'r astudiaeth hon yn olrhain yn fras sut mae'r ffordd yr edrychid ar y Rhyfel wedi datblygu ym Mhrydain dros y degawdau, cyn ystyried yn fanwl rhai o'r problemau â'r cyflwyniad o'r lladdfa a gafwyd mewn rhaglenni nodwedd Cymraeg. Gethin Matthews, ''Sŵn yr ymladd ar ein clyw”: Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 132-57.
Gwennan Schiavone, 'Llais y genhades Gymreig, 1887-1930' (2007)
Mae'r erthygl hon yn archwilio goblygiadau diwylliannol enwogrwydd merched a enillwyd drwy gymryd rhan yng ngweithgarwch cenhadol trefedigaethol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cafodd merched eu gorchymyn i gyflawni swyddogaethau penodol yn y broses o greu cymunedau Cristnogol mewn trefedigaethau Prydeinig, gan gynnwys troi merched eraill a rhoi disgrifiadau ac esboniadau o'r genhadaeth i gynulleidfa gartref. Yn ogystal â darlithoedd a phregethau gan genhadon, ac arddangosfeydd cenhadol, y prif lwybr trosglwyddo ar gyfer y cyfathrebu hwn oedd y wasg genhadol enwadol. Mae'r erthygl hon yn archwilio sut yr oedd y cenhadon benywaidd yn eu cyflwyno eu hunain a'u gwaith i'r gynulleidfa gartref yn y wasg genhadol rhwng 1887 a 1930, ac yn awgrymu mai'r delweddau yr oeddent yn eu cyflwyno, a'r isleisiau y gellir eu cael yn eu hysgrifennu, oedd y brif ysbrydoliaeth i ferched Presbyteraidd Cymru gefnogi'r achos cenhadol, ac ymffurfio'n fudiad hynod a ddaeth yn sianel hollbwysig ar gyfer noddi gwaith cenhadol. Gwennan Schiavone, 'Y Genhades Gymreig, 1887-1930', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 27-42.
Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion' (2017)
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a'r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o'r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a'r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg. Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy'n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy'n cyflwyno meddwl Kant fel y'i mynegir yn ei Kritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir yn Aids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i'r athroniaeth Galfinaidd. Y mae'r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd. Dadleuir mai'r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o'r prif ffactorau a oedd yn symbylu'r brad y cyhuddir Edwards a'i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw'n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i'w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu'r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw. Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, Awst 2017, 83-101.