Added on: 03/06/2020 Publish Date: - 974

Separado! (2012)

Description

Mae'r seren bop Gymreig Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn ein tywys ar wibdaith dros sawl cyfandir i ddarganfod ewythr colledig ym Mhatagonia - y gitarydd mewn poncho, René Griffiths. Ym 1880, yn dilyn ras geffylau ddadleuol wnaeth arwain at farwolaeth amheus, rhwygwyd teulu Gruff Rhys pan ymunodd Dafydd Jones a'i deulu ifanc â'r fintai i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America. Ni fu cysylltiad rhwng y ddwy gangen deuluol am bron i ganrif, tan ddaeth René Griffiths i Gymru ym 1974 i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda'i ganeuon serch Hisbaenaidd. Dilyna'r cyfarwyddwr Dylan Goch daith Gruff Rhys trwy theatrau, clybiau nos a thai te Cymru, Brasil ac Andes yr Ariannin, wrth iddo ddarganfod hanes ei deulu, Cymry Patagonia, a'u hetifeddiaeth gerddorol. Soda, 2012.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Documents and links:

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
Languages, Music
License
ERA
S4C archive
Password Protected
mân-lun Archif S4C

Subscribe/Create Account

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.