Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar ramadeg y Gymraeg, gwahanol gyweiriau, geiriadura, a datblygiad iaith. Traddodwyd yn wreiddiol fel cyfres darlithoedd y Gîcs Gramadeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg – Delyth Prys (gol.)
Ysgrifau Dydd Mercher – Saunders Lewis
Casgliad o adolygiadau ac ysgrifau cofiannol gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Y Faner rhwng 1939 ac 1945. Noda Saunders Lewis yn y cyflwyniad iddo ddewis casgliad ar thema llên a hanes y gorffennol, a dyna sy'n clymu'r ysgrifau heriol hyn.
Y Byd ar Bedwar
Mae'r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar wedi bod ar S4C ers dyddiau cynta'r sianel yn 1982, ac mae'n un o gonglfeini'r gwasanaeth. Mae'r rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o'r safon uchaf.
HTV Cymru.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dictionary of Welsh Biography Website
This website contains over five thousand concise biographies of individuals who have made a significant contribution to national life, whether in Wales or more widely.
An interactive Timeline of individuals in the Dictionary of Welsh Biography is now available. The timeline is powered using linked open data and openly licensed content hosted by Wikimedia.
Y Cadfridog (1984)
Drama gan Michael Povey. Milwr ifanc a swyddog hÅ·n wedi eu hynysu mewn byncar niwclear wedi cyflafan. Mae'r berthynas rhyngddynt yn datblygu... Cwmni Alan Clayton, 1984.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Dyn Perig (1990)
Mae'r ffrae rhwng Buddug a'i thad yn poethi, i'r fath raddau ei bod yn byw ar fferm ei hewythr, ac yn poeni am ei mam a chyflwr y tir. Mae angen gwaith caled ac arian i redeg y ddwy fferm yn effeithiol a nid gosod tir i ryw gwmni ffilm uffar! Ffilmiau Bryngwyn, 1990.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Felin Bop [1945-1964] (1996)
Mae'r stori'n dechrau ym 1945 gyda chaneuon Jac a Wil, Bob Tai'r Felin a chyfansoddwyr fel Meredydd Evans ac Islwyn Ffowc Elis. Y rhain ac artistiaid a chyfansoddwyr tebyg a roddodd lais a bywyd newydd i 'hwyl' y Noson Lawen. Ceir cyfraniadau gan nifer o artistiaid a Shan Cothi sy'n adrodd y stori. Huw Brian Williams, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Ferch Dawel (1996)
Ffilm wedi ei haddasu o nofel Marion Eames am Helen Garmon, merch sydd wedi cael ei mabwysiadu gan deulu cefnog o Gaerdydd. Pan ddaw Heledd o hyd i'w mam iawn ym mherfeddion pellenig Sir Feirionnydd, mae hi'n canfod gwirionedd syfrdanol arall sy'n rhoi tro ysgytiol i'w bywyd. Gyda Naomi Martell, Rolant Prys, Dyfan Roberts a Betsan Llwyd. Ffilmiau Llifon, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Graith
Drama gyfnod wedi'i seilio ar y nofel gan Elena Puw Morgan (1938). Hanes taith bywyd merch o’r enw Dori. Ar ei hwyneb hi y mae’r graith yn nheitl y ddrama: y symbol o greulondeb ei mam.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Gwyddonydd – cyfrol 33, 2013
Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013
Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013.
Y Gwyll (Cyfres 1)
Cyfres ddrama dditectif gyda Richard Harrington, Mali Harries, Alex Harries a Hannah Daniel yn y prif rannau.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Llofrudd Iaith – Gwyneth Lewis
Nofel dditectif ar ffurf barddoniaeth, sy'n gyfraniad gwreiddiol a beiddgar i'r ddadl am ddyfodol yr iaith. Enillodd y casgliad wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru yn y flwyddyn 2000. Os gall iaith farw, gall rhywun ei lladd. Pwy sy'n gyfrifol am y corff ar y grisiau a thranc ein mamiaith? Y bardd? Yr archifydd? Y ffermwr? Mae'r pentre'n llawn o sibrydion a chymhellion tywyll, ac mae bwystfil peryglus yn crwydro'r mynyddoedd. At bwy y bydd Carma, y Ditectif, yn pwyntio bys? Ydych chi'n siwr nad chi sydd ar fai?