Rhaglen yn edrych ar Wrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839. Cymerodd ugain mil o wŷr y De arfau i'w dwylo er mwyn troi Ynys Prydain yn Weriniaeth y Bobl. Boddwyd gwrthyfel y Siartwyr mewn gwaed a llusgwyd yr arweinwyr i'r llysoedd. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cyrchfan Cyfiawnder – Siartwyr Casnewydd 1839 (1994)
Atgofion Gohebydd o Gymro (1983)
Rhaglen am David Raymond, yn enedigol o Gydweli, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mharis. Gohebydd tramor ydoedd, yn gweithio i'r Daily Mail, Raynolds News a'r Daily Mirror. Glansevin, 1983.
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Be Ddywedodd Gerallt Gymro am ei Gyfoeswyr – Huw Pryce a Glenda Carr
Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Meyerhold – W. Gareth Jones a Mona Morris
Y mae Fsefolod Meyerhold yn ffigwr canolog yn hanes datblygiad theatr yn yr ugeinfed ganrif. Datblygodd theatr gorfforol a gwerinol oedd yn chwyldroi confensiynau. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o lyfr Meyerhold, Am y Theatr, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Beirdd Cymru: Y Stori (2013)
O Drefaldwyn i Fwdapest, mae'r bardd Twm Morys yn olrhain hanes cerdd y mae pob plentyn Hwngaraidd yn medru ei hadrodd ar gof; cerdd sy'n symbolaeth gref o ryddid i drigolion Hwngari - ond cerdd sydd â chysylltiad Cymreig. Twm Morys ei hun sydd wedi trosi'r gerdd i'r Gymraeg ac mae Karl Jenkins wedi gosod y gerdd i gerddoriaeth. Rondo, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bilbao, Belffast a Bala
Yr artist a’r beirniad celf Iwan Bala fydd yn edrych ar gelf gyhoeddus yng Nghymru a thramor ac yn holi, beth yn union yw celf gyhoeddus. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bioleg y gell
Cyfres o saith adnodd ysgrifenedig ar Fioleg y Gell gan Lian Evans, Catrin Jones, Iolo ap Gwynn a Deri Tomos. Bioleg y gell: Diffiniadau Cludiant y gell Cylchred y gell Esblygiad y gell Matrics y gell Pilen y gell Sytosgerbwd
Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y G18 – A. Cynfael Lake (gol.)
Blodeugerdd yng nghyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn casglu ynghyd am y tro cyntaf weithiau enwogion fel Lewis Morris, Ieuan Fardd a Goronwy Owen. Nid yw llawer o'r cerddi sydd yn y casgliad wedi gweld golau dydd er pan gyhoeddwyd Diddanwch Teuluaidd yn 1763 gan Hugh Jones o Langwm.