Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer darpar newyddiadurwyr neu unrhywun sydd eisiau deall mwy am wleidyddiaeth Cymru. Mae'n cynnwys: Gwefan rhyngweithiol sy’n gyflwyniad i wleidyddiaeth Cymru. Fideo yn cyflwyno gwaith Senedd Cymru. Fideo yn son am y diffyg democrataidd yn Nghymru Podlediad yn trafod gohebu ar etholiad Datblygwyd yr adnoddau gan adran JOMEC (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd). Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Gohebu ar...Wleidyddiaeth Cymru
Gweithdai Mathemateg ac Athroniaeth
Mae'r adnodd hwn yn deillio o grant bach a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol i Brifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd cynyddu diddordeb yn y cwrs gradd Mathemateg ac Athroniaeth. Fel rhan o'r prosiect, cynhaliwyd cyfres o weithdai mewn ysgolion. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau ymarferol sy'n deillio o'r ddau weithdy cyntaf, sef Cysyniadau Elfennol yn Athroniaeth a Mathemateg a Deall Rhifau a'u Rhan. Mae'r cwestiynau wedi'u hanelu at y rhai sy'n astudio tuag at Safon Uwch mewn Mathemateg.
Ap Tabl Cyfnodol
Dyma ap tabl cyfnodol cyfrwng Cymraeg sy’n llawn ffeithiau a lluniau, ac sy’n ddelfrydol i fyfyrwyr, athrawon, neu unrhyw un â diddordeb mewn cemeg.
Adnoddau Rhaglennu
Cyfres o adnoddau aml-gyfrwng i ddysgu rhaglennu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnwys 28 fideo sy’n cwmpasu lawrlwytho, gosod a rhedeg Python; cystrawen sylfaenol; a meddwl algorithmig trwy ddatrys problemau enghreifftiol. Yn ogystal ceir gwefan cyfrwng Cymraeg sy’n cynnwys adnoddau datblygu meddalwedd ymchwil a sgiliau ymchwil cyfrifiadurol.
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.
Casgliadau Celf Arlein
Catalog o’r holl baentiadau a cherfluniau yng nghasgliadau Adran Celf Amgueddfa Cymru, a’r gweithiau ar fenthyciad tymor hir o Ymddiriedolaeth Derek Williams. Hefyd yn rhan o’r casgliad mae tua tri deg mil o ddarluniau, lluniau dyfrlliw, printiau a ffotograffau a tua un fil ar ddeg o weithiau celf gymwysedig.
Y Geiriadur Celf
Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae'r Geiriadur Celf wedi ei lunio ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae'n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy'n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru.
Bocsgolau
Adnodd ar-lein yw Bocsgolau, wedi’i ddylunio ar gyfer athrawon a myfyrwyr celf, crefft a dylunio i gefnogi amcanion rhaglenni celf a dylunio CBAC ac Eduqas. Anela i ddarparu mewnwelediadau o bersbectif addysg i ymarfer cyfoes celf, crefft a dylunio, y diwydiannau creadigol a’r tirlun newid gyrfaoedd o’r 21ain ganrif. Ceir dolenni at wefannau ymarferwyr, sefydliadau creadigol, galerïau ac amgueddfeydd, asesiad a ffynonellau o gyngor gyrfaoedd.
Hwb: Adnoddau Amaethyddiaeth
Adnoddau Amaethyddiaeth ôl-16 ar Hwb, platfform digidol dysgu ac addysgu Llywodraeth Cymru.
Am Adeiladu
Gwefan ddwyieithog gyda gwybodaeth ac adnoddau cyffredinol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Ariennir gan lefi CITB.
Ap Hanfodion Dysgu Dwyieithog
Mae’r ap hwn yn helpu athrawon i roi’r cyfle i bawb i ddefnyddio eu dewis iaith yn yr ystafell ddosbarth.
Hwb: Adnoddau Galwedigaethol ac Ôl-16
Dolen i adnoddau galwedigaethol ac ôl-16 ar Hwb, platfform digidol dysgu ac addysgu Llywodraeth Cymru