Yr astudiaeth Williams Pantycelyn (1927) gan Saunders Lewis oedd un o gyfraniadau mwyaf beiddgar at feirniadaeth lenyddol Gymraeg a welwyd yn yr ugeinfed ganrif. Mewn deg pennod ddisglair a chofiadwy, dehonglodd Lewis athrylith yr emynydd mewn dull cwbl annisgwyl ac unigryw. Y ddwy allwedd a ddefnyddiodd i ddatgloi cynnyrch y bardd oedd cyfriniaeth Gatholig yr Oesoedd Canol a gwyddor gyfoes seicoleg, yn cynnwys gwaith Freud a Jung. Enynnodd y gyfrol ymateb cryf, gyda rhai'n gwrthod y dehongliad ond eraill yn ei dderbyn. Yn yr ysgrif hon, disgrifir ymateb rhai o'r beirniaid cynnar: T. Gwynn Jones a oedd, at ei gilydd, yn croesawu'r dehongliad, E. Keri Evans a oedd yn ei wrthod a Moelwyn Hughes a ymatebodd yn chwyrn yn ei erbyn. Oherwydd grym rhesymu Lewis a dieithriwch ei deithi beirniadol, llwyddwyd i ddarbwyllo llawer mai hwn, chwedl Kate Roberts, oedd 'y Williams iawn'. Bu'n rhaid aros tan y 1960au i weld disodli'r farn hon yn derfynol. Erys yr ymatebion yn dyst i feiddgarwch a disgleirdeb Pantycelyn Saunders Lewis. D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn', Gwerddon, 24, Awst 2017, 51-65.
D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn'' (2017)'
Dafydd Sills-Jones ac Anne Marie Carty, 'Y Gors: archwilio'r ffin rhwng awduraeth a chyfranogiad yn y ffilm dd...
Mewn ateb i alwad gan yr Arts and Humanities Research Council, a chyda chymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwnaethpwyd ffilm ddogfen farddonol/arbrofol fer yn 2016 gan Anne Marie Carty, Nick Jones a Dafydd Sills-Jones ar destun Cors Fochno, ger Y Borth. Mae Cors Fochno yn un o brif gorsydd mawn gorllewin Ewrop, ac yn gartref pwysig i fyd natur unigryw, ynghyd ag i astudiaethau gwyddonol pwysig, gan gynnwys astudiaethau hinsawdd. Mae'r gors felly'n drosiad ffilmig defnyddiol er mwyn trafod man cyfarfod nifer o bynciau a phersbectifau, gan gynnwys teimladau'r gymuned leol tuag at wylltir, cynaliadwraeth ffermio lleol, ac yn fwy eang hanes a dyfodol y berthynas rhwng dyn a'i amgylchedd. Mae'r erthygl hon yn olrhain y dynesiadau a'r cysyniadau y tu ôl i'r ffilm, gan roi'r ffilm yn nhraddodiad ymchwil-fel-ymarfer.
Dafydd Sills-Jones, 'Gogwydd hanesyddol ar astudiaethau cynhyrchu: ail gyfnod cwmni Teliesyn drwy fframweithia...
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ wedi tyfu’n sylweddol fel is-ddisgyblaeth. Yn sgil hyn, mae’r drafodaeth arferol ar y ddynameg rhwng technoleg, economi, ffurfiau diwylliannol, creadigrwydd a gyrfaoedd proffesiynol wedi eu trawsnewid, gan herio hen begynau disgyrsiol economi gwleidyddol ac astudiaethau diwylliannol. Er hynny, mae gogwydd cyfoes i’r datblygiadau hyn, sy’n aml yn anwybyddu hanes y cyfryngau. Mae’r erthygl hon yn ceisio defnyddio agwedd ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ (wrth ddefnyddio fframweithiau cysyniadol Simon Cottle, Pierre Bourdieu ac Eric Berne) er mwyn olrhain hanes un o brif gwmnïau teledu Cymru, Teliesyn.
Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio "Laser Tonfedd Ddeuol"' (2016)
Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar y syniad o gynllunio laser â'r gallu i daflu golau ar ddwy donfedd wahanol yr un pryd. Mae laser o'r math hwn wedi cael ei gynllunio yn y gorffennol, ond roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy donfedd ar raddfa lawer mwy. Bwriedir lleihau'r gwahaniaeth hwn, ond byddwn yn dal i fedru cael y laser i allyrru gan ddefnyddio dwy donfedd ar wahân. Bydd effaith ehangu lled y llinell hefyd yn cael ei ystyried, gan ei bod yn bwysig edrych ar y pellter rhwng y ddwy donfedd cyn eu bod yn ymddangos yn un brig llydan yn y sbectrwm, yn hytrach na dau frig cul. Bydd y pellter hwn yn cael ei fesur er mwyn sefydlu terfyn ar gyfer y gwahaniad mwyaf posibl rhwng y ddwy donfedd lle na fyddai'n bosibl gweld dwy linell gydrannol yn y sbectrwm. Bydd gwneud hyn yn galluogi dylunio 'laser tonfedd ddeuol' ag amrediad o wahaniaethau o ran tonfedd, a fydd yn arwain at y posibilrwydd o greu ymbelydredd teraherts o un laser, yn hytrach na 'chymysgu' y golau o ddau laser gwahanol gyda'i gilydd, fel a wnaed yn y gorffennol. Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio “Laser Tonfedd Ddeuol”', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 75–93.
Darlith Flynyddol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymreig
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymraeg, gan yr Athro Richard Wyn Jones. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.
Darlith Flynyddol 2012: Canrif Gwynfor – Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2012: Canrif Gwynfor - Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg, gan Rhys Evans Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Darlith Flynyddol 2015: Y Wladfa 1865–2015 – Dathlu Beth?
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2015: Y Wladfa 1865-2015 - Dathlu Beth? gan Elvey MacDonald. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ar ddydd Mawrth 5 Awst 2015.
Darlith Flynyddol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn, gan Eryn White, Prifysgol Aberystwyth. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.
Darlith Flynyddol 2018: Cymru, Ymfudo a'r Cymry Tramor Rhwng y Rhyfeloedd Byd
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2018: Cymru, Ymfudo a'r Cymry Tramor Rhwng y Rhyfeloedd Byd, gan Bill Jones, Prifysgol Caerdydd.
Darlith Flynyddol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir, gan John Gwynfor Jones.
David Willis, 'Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg' (2019)
Mae’r rheolau sy’n pennu treigladau a ffurfiau enwau ac ansoddeiriau ar ôl rhifolion mewn Cymraeg Canol yn aml yn peri dryswch i ddarllenwyr cyfoes. Mae’r erthygl hon yn braslunio’r rheolau a rhoi dadansoddiad synchronig ohonynt. Dangosir eu bod yn seiliedig ar system gydlynol lle mae rhif (unigol, deuol, rhifol, lluosog) yn ganolog. Gellir cofnodi a dyddio’r newidiadau ieithyddol sydd wedi digwydd ers hynny yn fanwl drwy ddefnyddio tystiolaeth destunol. Dadleuir y gellir deall y newidiadau hyn fel camau ar hyd llwybr tuag at system newydd, yr un mor gydlynol â’i rhagflaenydd, lle y mae pob ymadrodd rhifol yn ramadegol unigol, a chenedl yn hytrach na rhif sy’n penderfynu ffurf a threigladau ill dau.
Diarmait Mac Giolla Chriost, 'Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata'r Gymraeg' (2007)
Mae'r papur hwn yn cynnig archwiliad cryno o'r dull a ddefnyddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sef y prif gorff ar gyfer polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru, o ran agweddau ar gynllunio bri a'r iaith Gymraeg. Mae'n disgrifio sut y mae datganoli, a'r adolygiad cenedlaethol cyntaf erioed yn ddiweddar, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, o bolisi'r iaith Gymraeg, yn darparu cyd-destun uniongyrchol ar gyfer gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r ddogfen bolisi allweddol a ddeilliodd o'r adolygiad hwnnw, Iaith Pawb, yn cael ei dadansoddi'n feirniadol ac mae ei pherthynas â chynllunio bri yn cael ei nodi. Mae arfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynllunio bri yn cael ei drafod mewn perthynas â'r trafodaethau ynghylch neo-ryddfrydiaeth ac ôl-wladychiaeth mewn ffordd sy'n amlygu ffocws y Bwrdd ar ddefnyddwyr yn hytrach na dinasyddion. Diarmait Mac Giolla Chríost, 'Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata'r Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 43-52.