Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil doethur gwreiddiol (2014) yn seiliedig ar waith Hywel Jones (2010), sy’n dadlau bod pobl ifanc a anwyd y tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo o Gymru na phobl ifanc a anwyd yma. Ceisiwyd sefydlu pa rai yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau allfudo ymysg pobl ifanc sydd heb eu geni yng Nghymru a’r rhai sy’n blant i rieni nad ydynt yn frodorion. Deuir i’r casgliad mai un o’r prif resymau dros allfudo ymysg y grŵp hwn yw ffactorau’n ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn a’u lefelau integreiddio i’r cymunedau dan sylw, yn hytrach na ffactorau economaidd yn unig. Yn benodol, ystyrir sut mae diwylliant, cenedligrwydd ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn effeithio ar y duedd hon, sydd ag oblygiadau pwysig o safbwynt cadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg ‘traddodiadol’.
Lowri Cunnington Wynn '"Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?": Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o'r broy...
Mike Pearson, 'D.J. a fi' (2007)
Mae 'D.J. a fi' yn tynnu ar agweddau ar waith yr awdur Cymraeg, D.J. Williams, ac yn archwilio eu potensial i ysbrydoli'r broses o greu perfformiad cyfoes sy'n benodol i safle, a hysbysu'r dadansoddiad ohono. Mae hunangofiant Williams, Hen Dŷ Fferm, yn rhoi cipolygon unigryw ar dirwedd plentyndod, natur leoledig y cof, dramayddiaeth adrodd storiau a rôl y storiwr. Mae'r awdur yn defnyddio'r cipolygon hyn i ddatblygu ac awgrymu nifer o ddulliau ymarferol a damcaniaethol o ran defnyddio cofiant, hanes teuluol, saerniaeth ddomestig a gwybodaeth leol mewn perfformiad a ddyfeisir. Gan gyfeirio'n helaeth at ei waith ei hun, 'Bubbling Tom' (2000), sef perfformiad unigol peripatetig a lwyfannwyd ym mhentref ei fagwraeth yn Swydd Lincoln wledig: taith dywysedig o amgylch y lleoedd yr oedd yn eu hadnabod yn saith oed – mae'n trafod pwysigrwydd gwaith Williams o ran ysbrydoli ffurfiau dramatig sy'n ceisio datgelu graen profiad drwy roi sylw i'r personol a'r cyfarwydd, manylion bywyd pob dydd a'i gyfansoddiad. Mike Pearson, 'D.J. a fi', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 13-26.
Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gym...
Mae lle arbennig i wasanaethau iechyd fel gofod i ddiffinio perthynas priodol y dinesydd â'r wladwriaeth fodern. Bu disgwyliad i unigolion ddewis ym maes iechyd yng Nghymru a Lloegr ers yr 1980au. Yn ddiweddar cyflwynwyd brechlyn newydd i ferched sy'n amddiffyn yn erbyn rhai mathau o gancr ceg y groth. Disgwylir i rieni gydsynio dros eu merched. Mae'r papur hwn yn adrodd canlyniadau'r astudiaeth ymchwil ansoddol fwyaf yn y byd ar y pwnc. Mae'n darlunio agweddau at ddewisiadau iechyd a thrafod profiadau rhieni wrth ddod i benderfynu i gydsynio ai peidio. Dadansoddir strategaethau rhieni wrth benderfynu, er eu hansicrwydd. Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 40-63.
Diarmait Mac Giolla Chriost, 'Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata'r Gymraeg' (2007)
Mae'r papur hwn yn cynnig archwiliad cryno o'r dull a ddefnyddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, sef y prif gorff ar gyfer polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru, o ran agweddau ar gynllunio bri a'r iaith Gymraeg. Mae'n disgrifio sut y mae datganoli, a'r adolygiad cenedlaethol cyntaf erioed yn ddiweddar, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, o bolisi'r iaith Gymraeg, yn darparu cyd-destun uniongyrchol ar gyfer gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r ddogfen bolisi allweddol a ddeilliodd o'r adolygiad hwnnw, Iaith Pawb, yn cael ei dadansoddi'n feirniadol ac mae ei pherthynas â chynllunio bri yn cael ei nodi. Mae arfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynllunio bri yn cael ei drafod mewn perthynas â'r trafodaethau ynghylch neo-ryddfrydiaeth ac ôl-wladychiaeth mewn ffordd sy'n amlygu ffocws y Bwrdd ar ddefnyddwyr yn hytrach na dinasyddion. Diarmait Mac Giolla Chríost, 'Dinasyddiaeth, Bwrdd yr Iaith, a marchnata'r Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 43-52.
Nia Davies Williams, 'Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru' (2012)'
Diben yr erthygl hon yw edrych ar foddau o ddefnyddio cerddoriaeth fel dull o gyfathrebu gyda chleifion sydd yn dioddef o ddementia, a hynny o fewn y cyd-destun Cymreig. Mae'r gwaith ymchwil yn seiliedig ar brofiadau'r awdur wrth ganu i gyfeiliant y delyn Geltaidd mewn uned asesu dementia a chartrefi henoed yn ardal Pen LlÅ·n yn ystod haf 2010, a'r rhyfeddod o weld cleifion oedd yn dioddef o ddementia yn cofio geiriau i ganeuon cyfarwydd pan nad oedd synnwyr i gael wrth sgwrsio â hwy. O ganlyniad, dyma fynd ati i astudio sut roedd cerddoriaeth yn medru bod o fudd i gleifion oedd yn dioddef o'r cyflwr hwn. Mae'r erthygl yn datgelu a dadansoddi'r canlyniadau hyn. Nia Davies Williams, ''Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 113-31.
Cynhadledd Ryngwladol 2014
Yn y casgliad hwn ceir cyflwyniadau o Gynhadledd Ryngwladol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 1-3 Gorffennaf 2014. 'Pa le i'n hiaith mewn Addysg Uwch?' oedd thema'r gynhadledd ac mae'r cyflwyniadau'n ymwneud yn bennaf â pholisi iaith ac addysg yng Nghymru ac Ewrop.
Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau' (2013)
Yn 2015, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cyflwyno cynllun caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau. Yn fras, yn ôl y cynllun hwn, os na fynegwyd gwrthwynebiad gan oedolion yng Nghymru i roi eu horganau ar ôl iddynt farw, ac os na leisir gwrthwynebiad gan eu teuluoedd, tybir gan yr awdurdodau fod caniatâd wedi ei roi. Yn ôl y drefn bresennol, rhoddir cyfrifoldeb ar yr unigolyn i gofrestru fel rhoddwr, ond gyda gweithredu'r cynllun newydd, gofynnir i'r unigolyn ddatgofrestru os mai dyna yw ei ddymuniad. Cyflwynir yma werthusiad o'r cynllun o safbwynt cyfreithiol a moesegol. Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 63-77.
Y Meddwl Modern: Weber – Ellis Roberts
Cydnabyddir Max Weber yn un o bennaf sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Mae'r gyfrol hon yn ei leoli yn nhraddodiad cymdeithaseg ac yn amlinellu rhai o'i brif gyfraniadau: ei syniad am 'verstehen' neu 'ddychymyg cymdeithasegol', ei ran yn y drafodaeth fawr ynghylch perthynas cyfalafiaeth â'r grefydd Brotestannaidd, a'i 'deipiau ideal' neu ddiffiniadau o hanfodion cyfundrefnau arbennig.
Y Meddwl Modern: Marx – Howard Williams
Darlun o fywyd Karl Marx: ei syniadau, gwreiddiau ei athroniaeth a'i ddylwanwad ar y byd.
Y Meddwl Modern: Durkheim – Huw Morris Jones
Emile Dukheim oedd y cyntaf erioed i ddal cadair brifysgol mewn cymdeithaseg, a deil ei syniadau'n sylfaenol bwysig i bawb a fyn ddeall gwreiddiau'r pwnc. Mabwysiadodd y ddelwedd o gymdeiths fel organeb, a phob aelod ohoni â'i swyddogaeth neilltuol i'w chyflawni er mwyn sicrhau lles y corff cyfan. Ymhlith ei syniadau y mae ei ddadansoddiad o wreiddiau cymdeithasol crefydd, yn arbennig yr awgrym mai 'addoli'r gymdeithas' a wneir mewn unrhyw addoliad crefyddol; ei bwyslais ar yr hyn a alwai yn 'anomi' fel gwreiddyn anghydfod ac aflonyddwch ym mywyd unigolyn a chymdeithas; a'i astudiaeth wreiddiol a phwysig o hunanladdiad fel ffenomen gymdeithasol. Gwelir ei ddylanwad mewn meysydd mor wahanol â throseddeg ar y naill law a beirniadaeth lenyddol ar y llall.
E-lawlyfrau Syniadau Gwleidyddiaeth
Adnoddau digidol gan Elin Royles a Huw Lewis sy'n cyflwyno syniadau, cysyniadau ac egwyddorion creiddiol Gwleidyddiaeth. Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn er mwyn cynorthwyo disgyblion ac athrawon sy’n astudio cwrs Safon Uwch ac Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth CBAC ac i ddarparu gwybodaeth gychwynnol ar gyfer myfyrwyr is-raddedig. Mae E-lawlyfr 1: Syniadau Hanfodol i Ddeall Systemau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 2 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Byw a Chyfranogi mewn Democratiaeth.’ Mae E-lawlyfr 2: Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 3 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol.’ Cynhyrchwyd y deunydd hwn gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ariannwyd y prosiect o Gronfa Datblygiadau Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Be Ddywedodd Durkheim – Ellis Roberts a Paul Birt
Cyflwyniad i syniadau y cymdeithasegydd Emile Durkheim yn ei eiriau ei hun ac wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Credai Durkheim y gellid creu gwyddor i astudio cymdeithas ac ef oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Yn ôl syniadau Durkheim rheolid unigolyn a'i weithredoedd gan ei gymdeithas. Astudiodd swyddogaeth crefydd o fewn cymdeithas yn ogystal. Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod). <ul> <li>I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.</li> <li>I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.</li> <li>I ddarllen yr e-lyfr ar Kindle, lawrlwythwch y ffeil Mobi.</li> </ul> Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau <a href=https://llyfrgell.colegcymraeg.adam.dev/view2.aspx?id=2088~4s~tbt8zEqn'>yma</a>. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
