Ychwanegwyd: 23/03/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.8K

Cwrs Biocemeg Cymraeg

Disgrifiad

Cwrs Biocemeg Ar-lein

  • Astudio Bioleg neu Gemeg Safon Uwch/UG?
  • Dere i gymryd rhan yn y cwrs Biocemeg Cymraeg ar-lein cyntaf am ddim sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Dechrau ar dy daith drwy’r byd Biocemeg gydag Elin Rhys a chriw Prifysgol Abertawe

Mae hwn yn gwrs Biocemeg ar-lein cyfrwng Cymraeg wedi’i anelu at fyfyrwyr 16-18 oed sy’n astudio Safon Uwch/UG mewn Bioleg neu Gemeg. Datblygwyd yr adnodd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd i gyfoethogi dysgu manyleb Bioleg a Chemeg CBAC. Yn arwain ni drwy’r cwrs y mae Elin Rhys.  Mae’n cynnwys fideos a chartwnau addysgiadol, cwisiau, tudalennau gwybodaeth a chyfweliadau gyda gwyddonwyr sy’n arwain y ffordd yn eu meysydd ymchwil.

Gwybodaeth bellach:

Dr Alwena Morgan

a.h.morgan@colegcymraeg.ac.uk

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Cemeg, Gwyddorau Biolegol
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
Adnodd Coleg Cymraeg Cwrs/Uned
mân lun cwrs biocemeg

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.