I gyd-fynd â dathliadau deng mlynedd y Coleg Cymraeg, mae’r Gynhadledd Wyddonol hefyd yn dathlu deng mlwyddiant eleni. Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O beirianneg i bysgod ac o gelloedd tanwydd i gorona’r Haul, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau.
Dewch i Ganolfan Gynadleddau MedRus, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Mercher 15 Mehefin 2022 i glywed yr amrywiol gyflwyniadau.  Cynhelir y Gynhadledd yn y Gymraeg.
	Nia Jones, Prifysgol Bangor - Modelu gwasgariad microblastig o amgylch arfordir gogledd Cymru
	Iwan Palmer, Prifysgol Caerdydd - Canfod ac Ynysu Microplastigion: O’r Labordy i’r Dosbarth
	Abigail Lowe, Gardd Fotaneg Genedlaethol a Phrifysgol Bangor - Garddio i beillwyr: Defnyddio DNA paill i ddarganfod â pha blanhigion mae peillwyr yn ymweld
	Ben Walkling, Prifysgol Abertawe - A yw Tomenni Glo Cymru yn Risg Newydd?
	Owain Beynon, Prifysgol Caerdydd - Mesur Effeithiau Anharmonig Mewn Catalyddion sy’n Creu Tanwyddau Adnewyddadwy
	Fergus Elliott, Prifysgol Bangor - Synhwyro Di-wifr mewn Amgylcheddau Diwydiannol
	Manon Owen, Prifysgol Leeds - Archwilio Mecanweithiau Metformin ar Dyfiant Ffetws ac Iechyd Hir-dymor Cardiometabolig Ffetws
	Mari Davies, Prifysgol Caerdydd - Datblygu triniaeth arloesol ar gyfer clefydau storio lysosomal