Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 727

Gwyn Thomas: Gŵr Geiriau (2016)

Disgrifiad

Gwyn Thomas, y bardd a'r awdur, sy'n holi beth sy'n gyrru pobol i fod yn greadigol, ac yn gofyn oes 'na'r fath beth ag 'awen'. Mae Gwyn yn gyn Fardd Cenedlaethol Cymru ac yn adnabyddus am addasu'r Mabinogi a gwaith Shakespeare, am gyfansoddi geiriau caneuon ac ysgrifennu sgriptiau yn ogystal ag am ei waith academaidd. Wrth edrych ar ei waith ei hun, ac ar waith artistiaid eraill, bydd Gwyn yn holi ai'r un grym sy'n ysbrydoli'r cerflunydd John Meirion Morris a'r canwr Gai Toms, yr artist Gareth Parry a'r cyfansoddwr Owain Llwyd? Trwy gyfrwng nifer o sgyrsiau difyr cawn olwg o'r newydd ar waith yr artistiaid yma, ac ar yrfa Gwyn ei hun. Cwmni Da, 2016.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Celf a Dylunio, Cerddoriaeth
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.