Ychwanegwyd: 09/11/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 2.7K Cymraeg Yn Unig

Prentis-iaith Lefel Hyder

Disgrifiad

Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?

Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.

Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:  

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
  • Gofal Plant 
  • Gwasanaethau Cyhoeddus  
  • Amaethyddiaeth 
  • Adeiladwaith 

Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).

PA LEFEL SY'N ADDAS?

Mae Prentis-iaith ar gael ar bedair lefel:

  1. Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
  2. Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
  3. Prentis-iaith: Lefel Hyder (ar gyfer prentisaid sydd am fagu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg)
  4. Prentis-iaith: Lefel Rhuglder (ar gyfer prentisiaid sydd yn rhugl yn y Gymraeg)

 

DARPARWYR A CHOLEGAU

Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod). 

Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.

Tystysgrif (cyffredinol)

Tystysgrif (yn cynnwys blwch ar gyfer pa lefel)

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Amaethyddiaeth, Gwasanaethau Cyhoeddus, Astudio drwy'r Gymraeg, Adeiladwaith, Gofal Plant, Iechyd a Gofal
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
Adnodd Coleg Cymraeg Cwrs/Uned
mân-lun prentis-iaith Hyder

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.