Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 1 Rhagfyr 2021. 2021 1 Rhagfyr 2021: Dafydd ap Gwilym, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) 8 Rhagfyr 2021: Gwerthfawrogi Rhyddiaith, Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor (Bl.13 + Bl.12) 2022 2 Chwefror 2022: Ymarfer Papur Gramadeg, Dr Alec Lovell, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 9 Chwefror 2022: Hedd Wyn (Ffilm), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 16 Chwefror 2022: Branwen, Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor (Bl.13) 2 Mawrth 2022: Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 9 Mawrth 2022: Sul y Mamau yn Greenham (Menna Elfyn), Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd (Bl.12) 16 Mawrth 2022: Y Genhedlaeth Goll (Alan Llwyd), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Ar-lên 2021-22: Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch (Rhagfyr 2021 - Mawrth 2022)
Astudio Cymraeg yn y brifysgol (Gweminar)
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg. Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae'n cynnwys: Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 19 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Sgwrs rhwng ein llysgenhadon a myfyrwyr cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen) Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg.
Jerry Hunter, 'Perthnasedd Poen ac Undonedd: Kate Roberts a Ffuglen y 1930au' (2021)
Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiad ffuglen Gymraeg yn y 1930au, a hynny trwy archwilio gwahanol syniadau ynglŷn â natur realaeth. Mae craffu ar ohebiaeth Saunders Lewis a Kate Roberts yn fodd i ddadansoddi’r modd y syniai’r ddau lenor am hanfodion estheteg realaidd. Trafodir ymateb Saunders Lewis i ddrafft cyntaf y nofel Traed mewn Cyffion ac awgrym Kate Roberts wrth amddiffyn hanfod y gwaith fod ‘poen ac undonedd’ yn berthnasol yn y 1930au ac yn themâu llenyddol dilys. Awgrymir bod apêl Kate at waith y nofelydd Gwyddelig, Peadar O’Donnell, yn bwysig er mwyn deall ei hestheteg hi. Edrychir wedyn ar y berthynas rhwng Traed mewn Cyffion ac un o nofelau O’Donnell, Islanders.
Recordiadau Ar-lên (Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch) Mawrth - Mai 2021
Trefnwyd y gweminarau adolygu hyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg UG/Safon Uwch. Mae'r sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. PWYSIG: Mae sesiynau newydd Ar-lên 2021-22 yn cael eu cynnal rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 16 Mawrth 2022. Cliciwch yma i weld yr amserlen ac i gofrestru.
Operation Rescue gan Rufus Mufasa
Y bardd a'r berfformwraig Rufus Mufasa sy'n darllen cerdd o'i gwaith, 'Operation Rescue' i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 2021. Yn cynnwys fideo o'r gerdd, copi PDF o'r geiriau ar gyfer deunydd astudio a fideo o Rufus yn siarad am ei pherthynas gyda'r iaith Gymraeg. © Rufus Mufasa 2021
“Can I just call you Clio? Like the Renault?” Cerdd gan Llio Elain Maddocks
Y bardd Llio Elain Maddocks yn darllen cerdd o'i gwaith - "Can I just call you Clio? Like the Renault?” Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi, vol.8 - i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 2021. I ddarllen mwy o insta-gerddi Llio, ewch i'w dilyn hi ar Instagram @llioelain. © Llio Elain Maddocks 2021
Mamiaith gan Rhys Iorwerth
Cerdd newydd, 'Mamiaith' gan Rhys Iorwerth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 2021. Yn cynnwys fideo o'r gerdd a chopi PDF o'r geiriau ar gyfer deunydd astudio. © Rhys Iorwerth 2021
Troi'r Trai Mewn Tri Deg Mlynedd - Pwysigrwydd y Gymraeg yn y Gymru fodern
Mae'r modiwl ar-lein hwn yn edrych ar bwysigrwydd sgiliau da yn y Gymraeg wrth fynd i’r byd gwaith. Mae’n ystyried yn benodol beth yw manteision parhau i astudio’r Gymraeg ar ôl TGAU. Mae’r modiwl wedi ei anelu yn bennaf at ddisgyblion a myfyrwyr mewn ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion. Gall hefyd fod o ddefnydd i unrhyw un sydd eisiau dysgu am le a statws y Gymraeg yn y Gymru gyfoes a sut gallwn ni gyd wneud cyfraniad i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2021 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Laura Beth Davies, 'Cyflogadwyedd, cyfrifoldeb, cael digon o’r Gymraeg? Dewisiadau ieithyddol dysgwyr Addysg B...
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r rhesymau dros y nifer bychan o ddysgwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog yn y sector Addysg Bellach, gan ganolbwyntio ar ddysgwyr galwedigaethol. Cynigia argymhellion i wella’r sefyllfa yng nghyd-destun targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Seilir yr ymchwil ar gyfweliadau lled-strwythuredig â staff mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach ac ar grwpiau ffocws â disgyblion Blwyddyn 11, mewn pedair ardal ar draws Cymru. Canfuwyd bod ffactorau economaidd, diwylliannol ac addysgol yn dylanwadu ar ddewisiadau dysgwyr. Dadleuir dros gynnig rhaglen ymwybyddiaeth iaith er mwyn ehangu disgwrs y Gymraeg fel offeryn cyflogadwyedd, a disgwrs manteision dwyieithrwydd i gynnwys manteision cymdeithasol.
Cyflwyniad i ieithyddiaeth
Mae "Cyflwyniad i Ieithyddiaeth" yn gyflwyniad i hanfodion Ieithyddiaeth ar gyfer myfyrwyr sydd heb gefndir, neu heb fawr o gefndir, mewn astudio iaith a phynciau ieithyddol (e.e seiniau iaith, morffoleg a chystrawen, ystyr, amlieithrwydd a sosioieithyddiaeth).
Astudio'r Gymraeg Lefel A Iaith Gyntaf
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer disgyblion ac athrawon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf. Mae’r adnoddau, sy’n berthnasol i'r fanyleb yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth wrth i chi addasu i ffordd newydd o ddysgu ac addysgu mewn cyfnod di-gynsail ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, deunyddiau hyrwyddo a dolenni i wefannau allanol.
Astudio'r Gymraeg TGAU Ail Iaith
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer disgyblion ac athrawon TGAU Cymraeg Ail Iaith. Mae’r adnoddau, sy’n berthnasol i’r fanyleb yn cynnig cefnogaeth ac anogaeth wrth i chi addasu i ffordd newydd o ddysgu ac addysgu mewn cyfnod di-gynsail ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd amrywiol megis clipiau fideo, deunyddiau hyrwyddo a dolenni i wefannau allanol.
