Adnoddau digidol gan Elin Royles a Huw Lewis sy'n cyflwyno syniadau, cysyniadau ac egwyddorion creiddiol Gwleidyddiaeth. Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn er mwyn cynorthwyo disgyblion ac athrawon sy’n astudio cwrs Safon Uwch ac Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth CBAC ac i ddarparu gwybodaeth gychwynnol ar gyfer myfyrwyr is-raddedig. Mae E-lawlyfr 1: Syniadau Hanfodol i Ddeall Systemau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 2 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Byw a Chyfranogi mewn Democratiaeth.’ Mae E-lawlyfr 2: Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 3 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol.’ Cynhyrchwyd y deunydd hwn gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ariannwyd y prosiect o Gronfa Datblygiadau Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
E-lawlyfrau Syniadau Gwleidyddiaeth
CAEA Ymwybyddiaeth Iaith – Gwaith Cymdeithasol
Adnodd rhyngweithiol sy'n anelu at greu’r amodau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fedru rhoi eu hun yn sgidiau’r defnyddiwr a theimlo a deall pam fod gwasanaeth yn Gymraeg yn ystyriaeth bwysig. Mae’r modiwl yn cynnwys 5 uned sy’n hoelio sylw ar: Ddeall anghenion iaith; Mynd dan groen y profiad dwyieithog; Ystyried cyd-destun y Gymraeg – ei chyflwr cyfoes a pheth o’i hanes ac effaith hynny ar ddefnyddwyr gwasanaeth; Dadansoddi’r berthynas rhwng iaith a grym, oblygiadau strategaeth Mwy na geiriau a’r cynnig rhagweithiol, a Dod yn barod i ymarfer a gweithredu’n unol â gofynion Mwy na geiriau. Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr weithio eu ffordd trwy'r deunyddiau o uned 1 i 5 wrth i drafodaeth a dysgu adeiladu fesul tipyn o'r naill i'r llall. Fodd bynnag, mae'r unedau hefyd yn hunangynhwysol i raddau helaeth, a gellir defnyddio unedau, neu rannau o uned, ar y cyd â modiwlau neu ddeunyddiau dysgu eraill.
Cymraeg Gwaith
Dyma gasgliad o sgriptiau a chlipiau sain ar gyfer dysgwyr Cymraeg Gwaith ar lefel Mynediad sy’n mynd law yn llaw ag unedau 1-10. Mae’r adnoddau hyn yn atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd yn y dosbarth (gan staff mewn addysg uwch ac mewn addysg bellach) ac maen nhw’n addas ar gyfer dechreuwyr. Datblygwyd yr adnoddau hyn o dan nawdd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fel rhan o brosiect a gydlynir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cronfa Cyfieithiadau'r Gymraeg
Yn anffodus, nid yw'r gronfa ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio ar ddatrysiad er mwyn cael y wefan yn fyw cyn gynted â phosib. Mae'r gronfa yn gatalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ym meysydd y dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol. Detholwyd yn bennaf o blith testunau rhyddiaith a drama all fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil a dysgu ar lefel addysg uwch. Mewn ambell achos y mae cofnod yn arwain at y testun llawn ar-lein.
Deddfwriaeth iaith: cyfleoedd i gyfieithwyr
Cyflwyniad pwerbwynt ar thema Deddfwriaeth iaith: cyfleoedd i gyfieithwyr a gyflwynwyd gan Meinir Jones o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, yn ystod Cynhadledd Heriau Cyfieithu Heddiw a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 27 Hydref 2017.
Llyfryddiaeth Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Dyma Lyfryddiaeth ar gyfer y cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.
Ysgrifennu Academaidd
Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr israddedig y Gyfraith, ac yn eu paratoi ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli cywair academaidd. Datblygwyd yn 2018. Addasiad mwyaf diweddar: Chwefror, 2022
Cwrs byr: Datblygu strategaethau astudio effeithiol
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Gall dod i wybod sut rydych yn dysgu eich helpu i ddatblygu technegau astudio sy'n gweddu i'ch anghenion a'r dasg dan sylw. Bydd gwella eich strategaethau astudio yn arbed amser i chi, yn ysgafnhau eich baich gwaith ac yn helpu i wella ansawdd eich gwaith. Byddwch yn dysgu technegau ac yn datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu gyda'ch astudiaethau.
Llawlyfr Meistroli'r Gymraeg - Tudur Hallam
Cyfres o wersi i’w haddasu a’u defnyddio gan diwtoriaid a myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel pwnc gradd, gan yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe. Mae'n llawlyfr iaith ymarferol sydd yn rhoi pwyslais ar gyflawni tasgau ac ar ddysgu wrth wneud. Er hwylustod i diwtoriaid a myfyrwyr, gellir lawrlwytho PDF o bob uned drwy glicio ar y dolenni isod: Uned 1: Datganiad Personol Uned 2: Bwletin Newyddion Uned 3: Y Llawlyfr Uned 4: Y Trosiad Uned 5: Perswadio Uned 6: Dadansoddi Gwallau Uned 7: Treigladau a Gramadeg Uned 8: Gwerthuso ac Adolygu Uned 9: Datganiad i'r Wasg Uned 10: Perswadio, Eto Atodiadau Mae'r Llawlyfr yn cynnwys taflenni gwaith rhyngweithiol. Defnyddir blychau melyn ar gyfer y taflenni gwaith. Gellir llenwi rhai ohonynt ar sgrin drwy lalwrlwytho'r Llawlyfr ac agor y PDF gydag Adobe Acrobat Reader.
Cefnogi Pob Plentyn (gol. Nanna Ryder)
Nod y gyfrol hon yw cyflwyno rhai pynciau perthnasol mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig i fyfyrwyr sydd yn astudio Graddau Sylfaen yn y maes addysg a gofal. Nid canllaw arfer dda a geir yma ond yn hytrach fraslun o bolisïau, athroniaeth ac ymarfer cyfredol. Caiff pynciau penodol eu trafod ym mhob pennod ac mae’r rhain yn amrywio o ddatblygiad, hawliau, lles a diogelu plant i gynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwarae a chreadigrwydd.
Siân Wyn Siencyn, 'Darpariaeth Gymraeg i blant ifanc: hanes a heriau datblygiad addysg feithrin yng Nghymru' (...
Bu datblygiad addysg feithrin Cymraeg yn stori o lwyddiant arbennig dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2000, gwelwyd Cymru’n symud ymhellach yn ei dyheadau ar gyfer ei phlant ifanc. Un o flaenoriaethau cyntaf y Llywodraeth Gymreig gyntaf oedd y Cyfnod Sylfaen gyda’i hymagweddiad radical. Bydd y papur hwn yn ymdrin â datblygiad addysg feithrin yng Nghymru gyda thrafodaeth ar yr hanes cyn ac ar ôl datganoli. Gosodir polisïau Cymraeg oddi mewn i gyd-destun dylanwadau ymchwil a phedagogaidd ehangach ar addysg blynyddoedd cynnar, er enghraifft y dystiolaeth ynghylch arfer dda o du EPPE (The Effective Provision of Pre-School Education Project). Edrychir yn benodol ar ddarpariaeth Gymraeg a chyfraniad Mudiad Meithrin ynghyd â thrafodaeth ar y damcaniaethau ynghylch dwyieithrwydd, gyda golwg ar ddwyieithrwydd cynnar yn benodol. Ceir amlinelliad a beirniadaeth ddadansoddol o’r heriau sy’n wynebu’r maes yn sgil datblygiadau gwleidyddol cyfoes a pholisïau cyfredol. Er dibenion y papur hwn, diffinnir addysg feithrin fel gwasanaethau addysg a gofal ar gyfer plant ifanc o 3–5+ oed, a defnyddir y term ‘blynyddoedd cynnar’ i’r un diben.
RAS200 yng Nghymru
Adnoddau prosiect RAS200 (cyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng celfyddyd) Mae RAS200 Sky and Earth yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dauganmlwyddiant y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach. Amcan RAS200 yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o seryddiaeth a geoffiseg drwy weithgaredd celfyddydol Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Darperir yn y casgliad hwn adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o'r gweithgaredd. Mae yma gyflwyniadau o'r seryddiaeth a geoffiseg drwy ddiwylliant, sy'n rhoi cip olwg ar y wyddoniaeth drwy weithiau creadigol. I ddysgu mwy am y prosiect, darllenwch gyflwyniad yr Athro Eleri Pryse i RAS200 yng Nghymru.
