Mae'r sector ynni adnewyddadwy yn prysur dyfu wrth i wledydd anelu at gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon a sefydlu strategaeth fwy cynaliadwy o greu ynni. Er hyn, dadleuir nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn llwyddo i gyfrannu tuag at gynaliadwyedd cymunedol a'r economi lleol. Yn ôl ymchwil ddiweddar, mae prosiectau ynni cymunedol – prosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu perchenogi'n rhannol neu'n llawn gan gymuned ddaearyddol benodol – yn cael eu gweld fel ffordd o gynhyrchu ynni mewn modd mwy derbyniol, teg a chynaliadwy. Mae'r erthygl hon yn adolygu'r llenyddiaeth bresennol sy'n trafod manteision y sector ynni cymunedol a'r hyn sy'n llesteirio datblygiadau yn y maes hwn. Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o'r sefyllfa bresennol a phosibiliadau'r sector unigryw hwn', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 10-29.
Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o'r sefyllfa bresennol a phosibiliadau'r sector unigryw hw...
Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn' (2015)
Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd tipyn o sylw i brofiadau carfannau lleiafrifol sy'n cael eu gwthio i'r ymylon mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, prin yw'r sylw a roddir i garfannau crefyddol mewn rhanbarthau gwledig. Y mae'r prinder sylw hwn yn syndod o ystyried y sylw a roddir i grefydd mewn materion yn ymwneud ag amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth gynhwysol. Trafoda'r erthygl hon brofiadau un garfan grefyddol leiafrifol benodol, sef y Mwslemiaid, yng ngorllewin Cymru wledig. Canolbwyntia'r erthygl ar brofiadau o absenoldeb o'r tirlun (h.y. y dirwedd ffisegol a'r delweddau a gwerthoedd ehangach sy'n cyfleu syniadau am leoedd), sy'n medru creu anawsterau o ran hwyluso ymdeimlad o gymuned. Yn ogystal, edrychir ar y modd yr ystyria Mwslemiaid lleol y rhanbarth fel un moesol a Christnogol. Awgryma'r papur bod y profiadau hyn yn troesesgyn syniadau o 'eithrio' a 'pherthyn', ac yn tystio i berthynas gymhleth rhwng Mwslemiaid lleol a'r rhanbarth gwledig hwn. Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 9-27.
Cyflwyno Tafodieithoedd y Gymraeg: Canllawiau i Actorion a Sgriptwyr
Amcan yr adnodd hwn yw helpu actorion a sgriptwyr Cymraeg, nid yn unig i ymgyfarwyddo â gwahanol amrywiadau tafodieithol, ond hefyd i’w defnyddio yn ymarferol wrth eu gwaith bob dydd. Ceir yma glipiau sain wedi eu recordio’n Ionawr 2015 gan Dr Iwan Rees o dafodieithoedd yn Nyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn. Mae’r atodiadau’n cynnwys canllawiau manwl gan Dr Iwan Rees ar gyfer pob clip gan dynnu sylw at elfennau ieithyddol penodol (ar eirfa, seiniau, gramadeg a’r oslef, er enghraifft). Oherwydd resymau hawlfraint, bydd angen mewngofnodi er mwyn cael mynediad i nifer o'r cilipau fideo.
Cymru a'r Rhyfel Canmlynedd – A. D. Carr
Cyflwyniad i'r Rhyfel Canmlynedd (1337-1453) a'i berthynas â Chymru a geir yn y gyfrol hon . Roedd gan filwyr o Gymru rannau canolog yn y rhyfel hwn rhwng Lloegr a Ffrainc, a hynny ar y ddwy ochr. Ystyrir hefyd effeithiau'r Rhyfel Canmlynedd ar Gymru ei hun.
Y Meddwl Modern: Durkheim – Huw Morris Jones
Emile Dukheim oedd y cyntaf erioed i ddal cadair brifysgol mewn cymdeithaseg, a deil ei syniadau'n sylfaenol bwysig i bawb a fyn ddeall gwreiddiau'r pwnc. Mabwysiadodd y ddelwedd o gymdeiths fel organeb, a phob aelod ohoni â'i swyddogaeth neilltuol i'w chyflawni er mwyn sicrhau lles y corff cyfan. Ymhlith ei syniadau y mae ei ddadansoddiad o wreiddiau cymdeithasol crefydd, yn arbennig yr awgrym mai 'addoli'r gymdeithas' a wneir mewn unrhyw addoliad crefyddol; ei bwyslais ar yr hyn a alwai yn 'anomi' fel gwreiddyn anghydfod ac aflonyddwch ym mywyd unigolyn a chymdeithas; a'i astudiaeth wreiddiol a phwysig o hunanladdiad fel ffenomen gymdeithasol. Gwelir ei ddylanwad mewn meysydd mor wahanol â throseddeg ar y naill law a beirniadaeth lenyddol ar y llall.
Owen Wyn Roberts et al., 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul' (2015)
Defnyddir lloerennau Cluster er mwyn ymchwilio i wynt yr Haul, a chan y ceir pedair lloeren, gellir mesur strwythur 3-D gwynt yr Haul. Gan fod tyrfedd yn ffenomen 3-D, y mae Cluster yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i dyrfedd. Dengys yr arsylwadau hyn y goruchafir tyrfedd yng ngwynt yr Haul ar feintiau radiws cylchdroi protonau gan donnau Alfvén Cinetig yn ogystal â fortecsau magnetig. Y mae'r ymchwil hon yn atgyfnerthu'r dybiaeth o fodolaeth tonnau Alfvén Cinetig yng ngwynt yr Haul ac yn awgrymu am y tro cyntaf y gall tonnau a fortecsau magnetig gydfodoli yng ngwynt yr Haul. Owen Wyn Roberts, Xing Li, a Bo Li, 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 45-58.
W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol' (2011)
Wrth gyhoeddi ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2010, nododd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod y system addysg Gymraeg wedi chwarae rôl arweiniol ym maes addysg ddwyieithog ledled Ewrop a'r byd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Wrth i'r gyfundrefn ddatblygu yn sgil y cynnydd yn niferoedd y disgyblion sy'n dymuno addysg ddwyieithog yng Nghymru, pwysleisir ei bod yn hanfodol i ni gadw golwg ar y patrymau a'r modelau sydd ar gael mewn cymunedau dwyieithog eraill sy'n llwyddo i integreiddio dwyieithrwydd neu amlieithrwydd yn eu darpariaeth er mwyn i ni ddeall eu perthnasedd i'n sefyllfa benodol ni yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg dros y datblygiadau diweddaraf ym maes addysg ddwyieithog ar y llwyfan rhyngwladol gan ystyried beth yw'r prif negeseuon sy'n eu hamlygu eu hunain wrth i addysg o'r fath barhau i ddatblygu i ateb anghenion disgyblion mewn cymunedau dwyieithog ac amlieithog ledled y byd yn yr unfed ganrif ar hugain. W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 66-88.
Cynhadledd Theatr Rhyngwladol 2015
Recordiadau sain o gynhadledd gydweithredol Astudiaethau Theatr a Drama 2014/15. Cynhaliwyd y gynhadledd ar 30-31 Ionawr 2015 yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Arbrofion a Thechnegau Labordy
Cyfres o glipiau ffilm byrion gyda Dr Heledd Iago yn dangos gwahanol gamau pwysig a ddefnyddir mewn arbrofion a thechnegau labordy ar draws y Gwyddorau Biolegol.
Y Meddwl Modern: Weber – Ellis Roberts
Cydnabyddir Max Weber yn un o bennaf sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Mae'r gyfrol hon yn ei leoli yn nhraddodiad cymdeithaseg ac yn amlinellu rhai o'i brif gyfraniadau: ei syniad am 'verstehen' neu 'ddychymyg cymdeithasegol', ei ran yn y drafodaeth fawr ynghylch perthynas cyfalafiaeth â'r grefydd Brotestannaidd, a'i 'deipiau ideal' neu ddiffiniadau o hanfodion cyfundrefnau arbennig.
Darlith Flynyddol 2015: Y Wladfa 1865–2015 – Dathlu Beth?
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2015: Y Wladfa 1865-2015 - Dathlu Beth? gan Elvey MacDonald. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ar ddydd Mawrth 5 Awst 2015.
Darlith Flynyddol 2012: Canrif Gwynfor – Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2012: Canrif Gwynfor - Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg, gan Rhys Evans Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
