Mae'r adnoddau hyn yn deillio o gynhadledd undydd a gynhaliwyd ym mis Medi 2014 ar y pwnc 'Crefydd yn y Byd Cyfoes', dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y nod oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr israddedig a disgyblion chweched dosbarth ddod ynghyd i drafod materion crefyddol sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir yma rai o'r cyflwyniadau a gafwyd ar y testunau canlynol: Seciwlariaeth Ffwndamentaliaeth Dyfodiad yr Apocalyps Freud
Cynhadledd Crefydd a'r Byd Modern
Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori' (2016)
Yn yr erthygl hon disgrifir gwreiddiau a pheth o hanes y cyfnodolyn Efrydiau Athronyddol, a gyhoeddwyd rhwng 1938 ac 2006. Cyfnodolyn Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion oedd yr Efrydiau a chyflwynwyd y rhan fwyaf o'r erthyglau fel papurau yn ystod cynhadledd flynyddol yr Adran, cynhadledd sy'n parhau i gael ei chynnal hyd heddiw. Manylir ar natur a chynnwys rhifyn cyntaf y cyfnodolyn, yn ogystal â thynnu sylw at ei brif themâu. Dangosir hefyd sut y daeth newid sylweddol i'r Efrydiau yn 1949 yn sgil penderfyniad allweddol gan aelodau'r Adran. Trodd yr Efrydiau o fod yn gyfnodolyn oedd yn trafod athroniaeth yn unig i fod yn gyfnodolyn lled ryngddisgyblaethol. Wedi'r newid hwnnw, cyhoeddwyd erthyglau ar sawl pwnc ynddo, ond fel arfer â ffocws arbennig ar faterion Cymreig. Yn ail hanner yr erthygl, trafodir papur dylanwadol a phwysig (y cyfraniad pwysicaf yn holl hanes y cyfnodolyn, efallai), sef 'Y syniad o genedl' gan yr Athro J. R. Jones. Fe'i cyhoeddwyd y flwyddyn cyn darlledu 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis, ac yma dadansoddir ei brif ddadleuon. Enghreifftir popeth sy'n bwysig am yr Efrydiau gan yr erthygl: defnyddir dull athronyddol o ddadansoddi, ond mae'n rhyngddisgyblaethol hefyd gan ei bod yn defnyddio elfennau o farddoniaeth a hanes. Mae'n erthygl wleidyddol a dylanwadol, ac yn sgil hynny disgrifiwyd Jones gan yr Athro D. Z. Phillips fel ysbrydoliaeth athronyddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â bod yn ddylanwad pwysig ar Saunders Lewis. Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 13-25.
Iwan Wyn Rees, '"Dim Sôn am Dduw na Dyn": Ar drywydd yr 'U Ogleddol' yng nghanolbarth Cymru' (2016)
Y mae'r llafariaid caeedig canol, neu'r 'u ogleddol' fel y'u gelwir yn aml, yn nodweddiadol o amrywiadau gogleddol ar y Gymraeg. Yn gyffredinol yng ngogledd Cymru, felly, ceir cyferbyniad rhwng parau o eiriau megis 'sur' / 'sir'. Yn y de ar y llaw arall, collir y cyferbyniad hwn, ac yno y mae'r parau hyn o eiriau yn homoffonau wrth iddynt gael eu hynganu ag 'i ddeheuol' yn gyson. Prif amcan yr astudiaeth hon, felly, yw cynnig dadansoddiad meintiol am y tro cyntaf o'r modd y collir y cyferbyniad rhwng 'u ogleddol' ac 'i ddeheuol' mewn rhannau o ganolbarth Cymru. Dangosir gan hynny fod strwythur cymhleth i amrywiadau un 'ardal drawsnewid' benodol, sef Bro Dysynni, a bod defnydd siaradwyr yr ardal hon o'r 'u ogleddol' wedi ei gyflyru gan sawl ffactor ieithyddol gwahanol. Yn olaf, cynigir yma ddamcaniaeth newydd, sef bod ymgyfnewid rhwng 'u ogleddol' ac 'i ddeheuol' yn gysylltiedig ag amrywiaeth yn hyd deuseiniaid, a thrafodir goblygiadau hyn. Iwan Wyn Rees, '“Dim Sôn am Dduw na Dyn”: Ar drywydd yr “U Ogleddol” yng nghanolbarth Cymru', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 47–74. Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn
Gafael Mewn Gramadeg – David Thorne
Astudiaeth gyfoes o ramadeg y Gymraeg sy'n amcanu i esbonio ei hanfodion. Y mae'r gyfrol yn cynnwys trafodaeth ar gywair ac amrywiaeth eang o arddulliau llafar ac ysgrifenedig. Rhoir nifer o enghreifftiau o sut y mae syniadau gramadegol yn berthnasol i'r iaith a welir ac a glywir o'n cwmpas bob dydd.
Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid
Cyhoeddwyd Dulliau Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Busnes, Rheolwyr ac Entrepreneuriaid gan Brifysgol De Cymru ac mae'n llyfr rhyngweithiol, aml-gyfrwng sy'n sail ar gyfer ymchwil academaidd ac ar gyfer defnydd ymarferol mewn amgylchedd busnes. I fanteisio'n llawn ar holl nodweddion rhyngweithiol y llyfr, dylid ei lawrlwytho o safle iBooks Store
Hywel Iorwerth a Carwyn Jones, 'Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol' (2016)
Yn yr erthygl hon rydym yn herio'r syniad fod cenedlaetholdeb yn gyffredinol, a chenedlaetholdeb ar y maes chwarae yn arbennig, yn anfoesol. Er bod cenedlaetholdeb yn gallu cael ei lygru ar y maes chwarae ac mewn cyd-destunau eraill, nid yw hynny o reidrwydd yn anochel. Trwy drafod athroniaeth cenedlaetholdeb rhyddfrydol, fe fyddwn yn ceisio dangos bod derbyn ymlyniad diwylliannol a chenedlaethol yn hanfodol er mwyn hybu cymuned ryng-genedlaethol. Ymhellach, byddwn yn dadlau bod gan chwaraeon cenedlaethol botensial hynod arwyddocaol i greu fforwm a deialog lle y gall gwahanol ddinasyddion rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd. Hywel Iorwerth a Carwyn Jones, 'Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 65-81.
Prosiect Ymchwil Llyngyr
Nod y prosiect hwn oedd deall gwasgariad y parasit llyngyr y rwmen yng Nghymru. Gweithiodd gwyddonwyr o IBERS, Prifysgol Aberystwyth, gydag aelodau CFfI ar draws Cymru i ddarganfod ym mha ffermydd yr oedd llyngyr y rwmen yn bresennol.
Bagloriaeth Cymru
Bwriad y ddau becyn yma yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwyno’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecynau o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous.
Genres y Cywydd
Casgliad o ddetholiad o ysgrifau beirniadol thematig a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd yn y cylchgrawn Dwned, sef cylchgrawn hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol. Mae’r 14 o ysgrifau yn trafod agweddau ar fathau penodol o gywyddau cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Ceir trafodaeth gyffredinol ar y gwahanol genres a geid yn y cyfnod, ffugfarwnadau, canu i noddwr penodol, ymrysonau barddol, cerddi i drefi, cywyddau i farfau a gynnau, cerddi am ferched a phenwisgoedd merched, cerddi am blant, cerddi am chwarae cardiau a gemau bwrdd, cerddi i adar fel llateion, ac ymdriniaeth â chywydd enwog Dafydd ap Gwilym, ‘Trafferth mewn tafarn’. Mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr Chweched Dosbarth a myfyrwyr prifysgol, i athrawon ac academyddion.
Gweithdai Mathemateg ac Athroniaeth
Mae'r adnodd hwn yn deillio o grant bach a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol i Brifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd cynyddu diddordeb yn y cwrs gradd Mathemateg ac Athroniaeth. Fel rhan o'r prosiect, cynhaliwyd cyfres o weithdai mewn ysgolion. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau ymarferol sy'n deillio o'r ddau weithdy cyntaf, sef Cysyniadau Elfennol yn Athroniaeth a Mathemateg a Deall Rhifau a'u Rhan. Mae'r cwestiynau wedi'u hanelu at y rhai sy'n astudio tuag at Safon Uwch mewn Mathemateg.
Gwaith Pantycelyn: Detholiad – Gomer M. Roberts (gol.)
Detholiad o gant o emynau William Williams Pantycelyn ynghyd â dwy farwnad, dyfyniadau o gerddi hirach a darnau o ryddiaith. Ceir yma hefyd ragarweiniad i fywyd Pantycelyn, y diwygiad Methodistaidd a rôl oddi mewn iddo. Trafodir arbenigedd ei waith yn gryno yn ogystal.
Tudur Davies et al., 'Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan' (2015)
Yn yr erthygl hon, dadansoddir datrysiadau dichonadwy i'r broblem geometrig o rannu silindr yn dair rhan â'r un cyfaint. Darganfyddir y datrysiadau yng nghyd-destun cyflwr egnïol isaf ewyn hylifol sych. Defnyddir y meddalwedd efelychu rhifiadol Surface Evolver er mwyn enrhifo'r holl ddatrysiadau a chyfrifo'r arwynebedd ym mhob achos. Darganfyddir y datrysiad arwynebedd lleiaf ar gyfer holl werthoedd cymhareb agwedd y silindr, sef hyd ei radiws wedi'i rannu â'i uchder. Dangosir mai pedwar datrysiad optimaidd sydd i'r broblem ar gyfer holl werthoedd y gymhareb agwedd. Rhoddir cyfwng ar gyfer cymhareb agwedd y silindr ar gyfer pob un o'r datrysiadau optimaidd. Tudur Davies, Lee Garratt a Simon Cox, 'Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 30-43.
