Wyt ti'n astudio'r cwrs TAR AHO? (Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Addysg a Hyfforddiant Ol-orfodol). Yn siarad Cymraeg, neu eisiau cynyddu dy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg? Dalia i fyny gyda'r sesiwn yma! Ymunodd Sgiliaith â ni i roi cyngor ar sut i annog a chefnogi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac amlygodd aelod profiadol o staff sydd bellach yn addysgu’n ddwyieithog yn y sector rai adnoddau defnyddiol. Cynhaliwyd y sesiwn hon ar 29 Ionawr 2025.
Fideos Rhannu Arfer Dda – Cynllun Mentora TAR AHO
Ydych chi’n arwain neu’n darlithio ar y cwrs TAR AHO (Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)? Oes gennych chi fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac sy’n awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol? Os felly, mae’r adnodd hwn wedi’i gynllunio i’ch cefnogi chi. Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo sy’n cynnwys aelodau staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r cwrs TAR AHO yn ddiweddar. Mae’r fideos hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i’w profiadau, ynghyd â chynghorion ymarferol ac enghreifftiau o arfer da y gellir eu rhannu gyda’ch myfyrwyr wrth iddynt baratoi i fynd i weithio yn y sector. Mae yna hefyd Becyn Rhannu Arfer Da, sy'n cynnig arfer da ac arloesol i chi annog a chefnogi myfyrwyr TAR i ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg.
Podlediad Ymchwil ar y Gweill
Podlediad sy’n rhoi llwyfan i ymchwilwyr ledled Cymru rannu eu gwaith a’u syniadau. Bob pennod, mae Jonathan Davies, deiliad ysgoloriaeth ymchwil y Coleg Cymraeg, yn siarad gyda gwestai newydd i archwilio eu maes ymchwil, y cwestiynau sy’n eu hysgogi, a’r effaith ar gymdeithas. O’r gwyddorau naturiol i’r celfyddydau creadigol, mae’r podlediad yn cynnig cipolwg hygyrch ac ysbrydoledig ar ystod eang o bynciau. P'un ai ydych chi'n ymchwilydd, yn fyfyriwr neu’n syml yn mwynhau darganfod syniadau newydd, mae croeso i chi ymuno â’r sgwrs.
PodCon 2025 Y Myfyrwyr
Recordiadau o'r gynhadledd bodlediadau gyntaf i fyfyrwyr yng Nghymru a gynhaliwyd gan Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cynhaliwyd cyfres o weithdai, paneli a sesiynau hyfforddi gan arbenigwyr o fewn y byd podlediadau yng Nghymru yn cynnwys: Aled Jones 'Y Pod' Mel Owen Elin a Celyn (Paid Ymddiheuro) Rhannodd y cyflwynwyr a chyfranwyr o'r diwydiant cyfryngau straeon a chyngor gyda'r myfyrwyr. Gwyliwch yr uchafbwyntiau islaw.
Pecyn technegau newid ymddygiad
Comisiynwyd asiantaeth newid ymddygiad Claremont i greu'r Pecyn Technegau Newid Ymddygiad. Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad a chyngor i ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd wrthi'n gwneud penderfyniadau am eu haddysg. Mae'r daith i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ond gall hefyd fod yn gyfnod ansicr, yn llawn cwestiynau ynghylch gyrwyr a rhwystrau canfyddedig sy'n ymwneud ag astudio'n Gymraeg. Gyda'n gilydd, gallwn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf wrth astudio'n Gymraeg yn y brifysgol. Mae’r fideo isod yn cyflwyno trosolwg o’r Pecyn gan gynnwys: Sut i ddeall ein cynulleidfa? Y rhwystrau a'r ysgogiad sy'n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Y strategaethau negeseuon sy'n gallu helpu i leihau ansicrwydd, meithrin hyder a dangos manteision astudio yn Gymraeg
TestunRhydd
Mae TestunRhydd yn eich helpu i ddadansoddi a delweddu data testun rhydd yn Gymraeg a Saesneg, megis data o arolygon a holiaduron. Mae TestunRhydd yn eich galluogi i gynnal hyd at chwe math gwahanol o ddadansoddi data testunol ar gyfer pob ffeil. Nid oes angen i chi allu codio nac i ddysgu sut i greu graffiau, chwaith - mae TestunRhydd yn gwneud y gwaith caled ar eich cyfer! Datblygwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect ymchwil ar y cyd rhwng cydweithwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerhirfryn
Cerddi cwsg y Ficer Rhys Prichard
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r ystyriaethau ynghylch cwsg mewn llenyddiaeth Gymraeg gan ddadansoddi cerddi poblogaidd y Ficer Rhys Prichard (1579–1644). Dadansoddir ystyriaethau crefyddol a diwylliannol ynghylch cwsg fel y’u ceir yng ngherddi’r Ficer. Manylir ar brif nodweddion cerddi cwsg y Ficer a chawn gipolwg ar sut roedd rhai pobl yn cysgu, neu sut yr oedd y Ficer yn credu neu’n dymuno eu bod yn cysgu. O ganlyniad, dengys yr erthygl hon bwysigrwydd cwsg yn y cyfnod a bod pobl yn ei gymryd o ddifri. Wrth wneud hyn, pwysleisir y dylid cofio mai pobl go iawn, o gig a gwaed, a astudir, ac er eu bod yn bodoli mewn testunau yn unig o’n safbwynt ni, dylid eu trin fel bodau dynol a oedd, yng nghyd-destun yr erthygl hon, yn cysgu. Awdur: Dewi Alter
Cardiau Gêm Gwrthfiotig i fyfyrwyr meddygol
Cardiau gêm 'trumps' yn cynnwys gwybodaeth am wrthfiotigau cyffredin. Gellir defnyddio'r cardiau fel adnodd i addysgu myfyrfwyr meddygol. Gallent hefyd fod yn addas i fyfyrwyr mewn proffesiynau iechyd eraill ee fferylliaeth.
Priodi ac ysbïo: teithio arloesol Georges Dufaud o Nevers i Ferthyr Tudful ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar b...
Mae’r erthygl hon yn ymdrin â chysylltiadau personol a diwydiannol y teulu Crawshay ym Merthyr Tudful â’r teulu Dufaud yn Ffrainc. Trafodir dyddiaduron taith, nodiadau a llythyron Georges Dufaud a’i fab Achille Dufaud wrth iddynt ymweld â Merthyr. Datgelir drwy’r testunau hynny argraffiadau’r Ffrancwyr o Ferthyr a goruchafiaeth ddiwydiannol y dref honno, yn ogystal ag agweddau ymarferol teithio a chyllido yn y cyfnod hwnnw. Ceir awgrym yn ogystal o hyd a lled y trosglwyddo technolegol o Gymru i Ffrainc ar y pryd, a thystiolaeth fod y diwydianwyr yng Nghymru yn gofidio am ysbïo diwydiannol. Yn dilyn priodas Louise Dufaud a George Crawshay, allforiwyd gweithlu a pheiriannau o Gymru (Abaty Nedd) i Ffrainc, a chwaraeodd hyn ran allweddol yn natblygiad gweithfeydd haearn Fourchambault ger Nevers. Awdur: Heather Williams
Cefnogi iechyd meddwl a lles ymchwilwyr ôl-raddedig
Canllaw i oruchwylwyr doethuriaethau ar sut i gefnogi iechyd meddwl a lles eich myfyrwyr ymchwil. Mae'r canllaw yn cynnwys yr heriau y gallai ymchwilwyr eu hwynebu yn ystod pob cam o'u doethuriaeth, a datrysiadau posib. Cyfieithwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad â UKCGE.
Gweithdai Adolygu Cymdeithaseg
Dau weithdy ar-lein ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio Lefel A neu arholiadau Lefel 2 neu 3 mewn Cymdeithaseg. Mae'r Gweithdy gyntaf ar thema 'Sgiliau Ymchwil' a'r ail weithdy ar thema 'Anghyfartaledd'. Arweinir y Gweithdai gan ddarlithwyr o brifysgolion Bangor a Chaerdydd.
Llond Ceg - Bwyd Cymreig Cynaliadwy
Mae Llond Ceg yn cynnig adnodd hyblyg a hygyrch i unrhyw un sy'n dymuno deall a dysgu mwy am gynaliadwyedd. Mae’r wefan wedi ei chreu er mwyn cael ei defnyddio mewn ffordd hyblyg ar gyfer cychwyn sgyrsiau am fwyd Cymreig, am drefniant presennol y system fwyd, am wastraff bwyd ac yn fwyaf pwysig am sut mae nifer fawr o ffermwyr Cymru yn ceisio cynhyrchu bwyd drwy ddulliau cynaliadwy. Mae'r cynnwys yn cyflwyno a thrafod 10 rheswm pam fod bwyd lleol Cymreig yn fwy cynaliadwy o’i gymharu â bwyd a gynhyrchir dramor. Ceir hefyd cyfres o 3 podlediad sy'n cyflwyno gwahanol agweddau o'r gadwyn fwyd Cymreig. Mae'r adnodd yn addas ar gyfer y cyhoedd, grwpiau BACC ôl 16 a dysgwyr lefel gradd.
