Mae’r adnodd hwn yn darparu argymhellion i diwtoriaid, aseswyr ac ymarferwyr sy’n cyflwyno cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal yn ddwyieithog. Ei nod yw cefnogi dysgwyr i gyflwyno o leiaf hanner eu hasesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu eu hyder a’u gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r adnodd yn cynnwys taenlen sy’n cynnig syniadau ar gyfer tasgau asesu crynodol a ffurfiannol, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer elfennau o’r cymhwyster y gall tiwtoriaid ac aseswyr eu targedu drwy’r Gymraeg. Ceir tudalen yn y daenlen ar gyfer pob un o’r unedau hanfodol (Unedau 1–6). Mae modd cael mynediad at ffeithluniau dwyieithog sy’n amlinellu llwybr clir a gweledol ar gyfer cyflawni asesiadau dwyieithog fesul uned ym maes Iechyd a Gofal. Gellir addasu cynnwys y ffeithluniau i ddiwallu anghenion dysgwyr a gofynion sefydliadau unigol. Noder: Nid yw ffeithlun Uned 6 ar gael eto a bydd yn cael ei ychwanegu at yr adnodd maes o law. Bydd y fersiwn ddiweddaraf o’r adnodd yn cael ei diweddaru pan fydd ar gael.
Canllawiau Asesu Dwyieithog mewn Cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal
Adnoddau Sgiliau Hanfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda’r sector i ddatblygu adnoddau Sgiliau Hanfodol Cymru i gynorthwyo gyda’r addysgu a’r dysgu ar gyfer Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar Lefel 1 a 2. Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio i adlewyrchu sefyllfaoedd gwaith go iawn y gallech chi ddod ar eu traws mewn gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n ymdrin â gwahanol ganlyniadau dysgu y mae angen i chi eu gwybod i gwblhau eich cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru. Nid yw’r adnoddau’n orfodol. Gallwch chi eu gwneud i gyd neu ddewis y rhai fydd yn eich helpu fwyaf. Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu i gefnogi dysgu ac felly nid ydyn nhw'n disodli gweithgareddau addysgu nac asesu. Maen nhw wedi’u cynllunio i ddangos lle mae sgiliau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu cymhwyso mewn lleoliadau ymarfer, ac efallai na fyddan nhw'n ymdrin â’r holl ganlyniadau dysgu yn llawn.
Cyflwyniad i yrfa mewn Therapi Iaith a Lleferydd
Bwriad yr adnodd hwn yw: Rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am broffesiwn Therapi Iaith a Lleferydd Egluro beth yw cyfathrebu a phwysigrwydd y proffesiwn wrth gefnogi unigolion gydag anghenion cyfathrebu Rhoi blas ar seminar lefel blwyddyn gyntaf yn y brifysgol Mae’r adnodd hwn wedi ei ddatblygu ar y cyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cynhadledd Gwaith Cymdeithasol 2024
Cynhadledd Gwaith Cymdeithasol 2024 - Y Gorau o Ddau Fyd: Cyfuno Ymchwil ag Ymarfer Casgliad o gyflwyniadau o'r gynhadledd Gwaith Cymdeithasol a chynhaliwyd ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe ym mis Mawrth 2024. Prif ffocws y gynhadledd oedd ar ymchwil cyfredol ac ymarfer da o fewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru.
Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol
Sgwrs banel: Rhannu arferion da ar gyfer rheolwyr canol (addysg bellach a phrentisiaethau) Recordiad o drafodaeth banel gyda phedwar rheolwr maes cwricwlwm Addysg Bellach wrth iddynt drafod eu hymagwedd at gynyddu’r ddarpariaeth ddwyieithog / Gymraeg o fewn eu hadrannau. Maent yn trafod eu harferion da yn ogystal â sut maent wedi goresgyn heriau: Yusuf Ibrahim, Pennaeth Cynorthwyol – Addysg Uwch, Astudiaethau Academaidd, Dysgu Sylfaenol ac Oedolion - Coleg Caerdydd a'r Fro (Cadeirio) Lucy Breckon, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith (Iechyd, Gofal a Mentrau Masnachol) – Coleg Sir Benfro Rhian Pardoe, Rheolwr Maes Dysgu Iechyd a Gofal – Coleg Gwyr Abertawe Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Grŵp Llandrillo Menai Rachel Lewis, Rheolwr Cwricwlwm Adeiladwaith – Coleg Pen y Bont Cynhaliwyd y digwyddiad yn ar y 5ed o Chwefror 2025.
Fideos Rhannu Arfer Dda – Cynllun Mentora TAR AHO
Ydych chi’n arwain neu’n darlithio ar y cwrs TAR AHO (Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg, Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol)? Oes gennych chi fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ac sy’n awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol? Os felly, mae’r adnodd hwn wedi’i gynllunio i’ch cefnogi chi. Mae’r gyfres yn cynnwys chwe fideo sy’n cynnwys aelodau staff sy’n addysgu’n ddwyieithog yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau, ac sydd wedi cwblhau’r cwrs TAR AHO yn ddiweddar. Mae’r fideos hyn yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i’w profiadau, ynghyd â chynghorion ymarferol ac enghreifftiau o arfer da y gellir eu rhannu gyda’ch myfyrwyr wrth iddynt baratoi i fynd i weithio yn y sector. Mae yna hefyd Becyn Rhannu Arfer Da, sy'n cynnig arfer da ac arloesol i chi annog a chefnogi myfyrwyr TAR i ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg.
Fideos sgiliau clinigol cyfrwng Cymraeg
Cyfres o fideos wedi eu creu gan Ysgol Feddygaeth Pifysgol Abertawe er mwyn atgyfnerthu sgiliau clinigol myfyrwyr meddygol a myfyrwyr o gyrsiau iechyd eraill. Mae'r casgliad yn cynnwys cyfres o fideos clinigol at ddefnydd myfyrwyr meddygol sy'n engreifftio sut mae mynd ati i gynnal gwahanol archwiliadau ac asesiadau ymarferol. Engreifftiau yw'r hyn a welir yn y fideos ac annogir chi i wirio gofynion penodol eich cwrs os yn defnyddio rhain wrth adolygu i arholiadau penodol.
Llawlyfr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Chyd-destunau
Gweler ddolen at wefan Atebol isod er mwyn prynu'r llyfr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Egwyddorion a Chyd-destunau gan Carol Bennett, Sara Jones, Rhiannon Salisbury a Philip Webber. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau, sy’n rhan o’r gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru a ddarperir gan City & Guilds/CBAC. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon wedi’u hanelu at ddysgwyr ôl-16 sy’n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn addas ar gyfer Lefel 3 Tystysgrif, Diploma Sylfaen, Diploma neu’r Diploma Estynedig. Yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon yn addas hefyd ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r blaen. Adnodd penodol ar gyfer Unedau 4, 5 a 6 y cymhwyster. Bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer arholiadau allanol a’r asesiadau perthnasol. Yn cynnig arweiniad ar gyfer astudio’r gwahanol bynciau er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gennych yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol sy’n sylfaen gadarn i lwyddiant yn y maes hwn. Cyfle i fyfyrio ar eich profiadau a chyfle hefyd i wneud gwaith ymchwil pellach i wella eich dealltwriaeth. Astudiaethau achos sy’n rhoi cyfle i chi osod yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu o fewn cyd-destun yr hyn y byddwch yn ei wynebu yn eich gwaith o ofalu am eraill.
Adolygiad integredig o’r dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd a lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yng Nghymru
Arweiniodd y dirywiad mewn perthynas â materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru (Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion [SHRN] 2023) a diwygiadau diweddar i’r cwricwlwm at gyflwyno canllawiau statudol i hybu dull ysgol gyfan i gefnogi lles emosiynol a meddyliol positif holl randdeiliaid y gymuned ysgol (Llywodraeth Cymru [LlC] 2021). Mae’r ‘Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol’ (y Fframwaith) (LlC 2021) yn canolbwyntio ar sefydlu’r gwerthoedd craidd o ‘berthyn’, ‘effeithlonrwydd’ a ‘llais’ ar draws pob agwedd ar ddarpariaeth yr ysgol er mwyn creu cymuned gymdeithasol ac emosiynol gadarnhaol. Bydd yr adolygiad integredig hwn yn archwilio llenyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y dulliau ysgol gyfan hyn, ac yn mynd i’r afael â rhai materion sy’n hwyluso ac yn rhwystro gweithredu’r rhain yn llwyddiannus. Dengys y canfyddiadau nad yw nifer o ysgolion wedi ymrwymo’n llawn i’r Fframwaith (LlC 2021) hyd yma, yn enwedig felly o safbwynt y dull ysgol gyfan, felly terfynir yr erthygl trwy gynnig argymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen. Awduron: Nanna Ryder, Charlotte Greenway, Siobhan Eleri
Am Iechyd
Cyfres o bodlediadau lle mae darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae podlediad 'Am Iechyd' yn cynnig platfform proffesiynol i weithwyr rheng flaen ac academyddion i drafod yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn trafod nifer o bynciau megis: Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Modelau Genediaeth Byw Efo Dementia Beth yw ystyr gofalu? Y berthynas rhwng iechyd a gofal Bronfwydo Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Banor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Gwefan Meddwl.org
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016, a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr, er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl, a’u teuluoedd a’u ffrindiau. Dyma’r wefan gyntaf o’i math sy’n cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae gan bawb iechyd meddwl. Mae meddwl.org yn lle i gael cefnogaeth a gwybodaeth, ac i ddarllen a rhannu profiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwerslyfr Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2
Canllaw i gefnogi dysgu Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Cymwysterau Cymru). Addasiad o Level 2 Health and Social Care: Core (Qualifications Wales) a ddatblygwyd gan Hodder mewn partneriaeth â City & Guilds. Mae'r llyfr hwn ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru sy'n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, neu sydd am weithio ynddyn nhw. Mae'n ymdrin â saith uned graidd y cymhwyster a bydd hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad MCQ sy'n cael ei asesu'n allanol gyda'r asesiadau wedi'u hasesu'n fewnol o fewn y sefydliad. Mae’r gwerslyfr yn ymdrin â gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'n adlewyrchu amrywiaeth o rolau a lleoliadau gwahanol. Mae'n cynnwys: • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol • Iechyd a llesiant • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol • Diogelu unigolion • Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
