Datblygwyd y llawlyfr ar-lein yma gan Brifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant. Mae’n cyflwyno a thrafod prif elfennau creadigrwydd yn yr ysgol gynradd ar gyfer ymarferwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2. Mae’r llawlyfr yn ymateb i ddatblygiadau polisi Llywodraeth Cynlluniad Cymru ac yn cynnig arweiniad ar sut i baratoi, creu, cynllunio, datblygu, trefnu ac asesu gweithgareddau dysgu ‘creadigedd’ o ansawdd uchel.
Llawlyfr Creadigedd yn yr ysgol gynradd
Llawlyfr Hen Gymraeg – Alexander Falileyev
Dyma'r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau'r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg. Mae'n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi'r gwaith i'r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi'i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i'w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae'n cynnwys disgrifiadau manwl o'r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae'r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i'r Cymry ddod i adnabod rhai o'r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith. Mae Dr Falileyev, yn enedigol o St Petersburg, Rwsia, yn arbenigydd ar yr ieithoedd Celtaidd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar enwau lleoedd a phersonol Celtaidd o Ewrop yn yr hen gyfnod, ac ar iaith a llenyddiaeth Cymru'r Oesoedd Canol Golygydd y Gyfres: Dr Simon Rodway, Prifysgol Aberystwyth.
Llawlyfr Technolegau Iaith
Mae’r llawlyfr hwn yn esbonio beth yw technolegau iaith ac yn ddisgrifio rhai o’r cydrannau mwyaf sylweddol yn ogystal â cheisio egluro’r dulliau a ddefnyddir i'w gwireddu. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr, datblygwyr, academyddion, swyddogion polisi, ac eraill sydd heb gefndir yn y maes ond sydd eisiau deall mwy am feysydd pwysig prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial, technoleg cyfieithu a thechnoleg lleferydd. Mae'r llawlyfr hefyd ar gael ar wefan Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru. Ysgrifennwyd gan swyddogion o Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, a Cymen Cyf gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Adroddiad Swan-Linx Cymru ar iechyd a lles plant ysgol
Dyma adroddiad sy'n deillio o waith Prifysgol Abertawe ar brosiect Swan-Linx, prosiect iechyd a ffitrwydd sydd â'r nod o ymchwilio i iechyd a lles plant ysgol ym mlynyddoedd 5 a 6 (9-11 oed). Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ddata a gasglwyd drwy gyfrwng: Arolwg iechyd ar y we o'r enw CHAT (Child Health and Activity Tool) sy'n gofyn cwestiynau am ymddygiadau iechyd gwahanol gan gynnwys diet, gweithgaredd corfforol, cwsg a lles. Diwrnod Hwyl Ffitrwydd, lle cafodd BMI (Mynegai Màs y Corff), ffitrwydd aerobig, cyflymder, cryfder, ystwythder, p?er, a hyblygrwydd yn cael eu mesur. Ariannwyd y gwaith cyfrwng Cymraeg gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Aled Gruffydd Jones, 'Gwerddon: gwyrddlasu anialdir? Rhai sylwadau ar hanes e-gyfnodolyn academaidd Cymraeg' (...
Ar achlysur ei ddeuddegfed pen-blwydd a’i ganfed erthygl, olrheinir yn yr erthygl hon hanes Gwerddon fel e-gyfnodolyn academaidd ac fel datblygiad cyffrous yn natblygiad diweddar yr uwchefrydiau yn y Gymraeg. Er iddo ymddangos am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2007, taera’r awdur fod ei wreiddiau’n gorwedd yn ddwfn yn hanes defnydd y Gymraeg ledled y disgyblaethau academaidd yn ein sefydliadau Addysg Uwch yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y Gwyddorau yn ogystal â’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol ...
Gan elwa ar haen hynod gyfoethog o archifau cenhadol Cymreig yn India'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn yr ugeinfed ganrif, mae'r erthygl yn tynnu sylw at y modd y daeth gofal am y cleifion yn rhan ganolog, ond problemus, o'r Genhadaeth Gristnogol. Tra rhoddodd eu fferyllfeydd, eu clinigau a'u hysbytai lwyfan ac amlygrwydd i'r broses efengylaidd, ar yr un pryd agorwyd ganddynt dyndra dyfnach mewn cyswllt, er enghraifft, â gwleidyddiaeth rhyw a thrawsblannu arferion meddygol Gorllewinol mewn cymdeithas drefedigaethol. Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol 1840-1935', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 8-28.
Lowri Cunnington Wynn '"Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?": Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o'r broy...
Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil doethur gwreiddiol (2014) yn seiliedig ar waith Hywel Jones (2010), sy’n dadlau bod pobl ifanc a anwyd y tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo o Gymru na phobl ifanc a anwyd yma. Ceisiwyd sefydlu pa rai yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau allfudo ymysg pobl ifanc sydd heb eu geni yng Nghymru a’r rhai sy’n blant i rieni nad ydynt yn frodorion. Deuir i’r casgliad mai un o’r prif resymau dros allfudo ymysg y grŵp hwn yw ffactorau’n ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn a’u lefelau integreiddio i’r cymunedau dan sylw, yn hytrach na ffactorau economaidd yn unig. Yn benodol, ystyrir sut mae diwylliant, cenedligrwydd ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn effeithio ar y duedd hon, sydd ag oblygiadau pwysig o safbwynt cadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg ‘traddodiadol’.
Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru...
Mewn nifer o fannau, mae datganoli wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol sicrhau lefelau newydd o gefnogaeth etholiadol, tra bod nifer hefyd wedi'u sefydlu eu hunain fel pleidiau llywodraethol. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw ysgolheigaidd sydd wedi ei roi i'r modd y bydd pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn ymaddasu i fod yn actorion canolog ar y lefel ranbarthol. Cyflwyna'r erthygl hon ddwy astudiaeth achos – Plaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego yng Ngalisia – er mwyn astudio sut y bu iddynt ymaddasu i ennill cynrychiolaeth, perthnasedd, a statws plaid lywodraethol ar y lefel ranbarthol. Dadleuir fod profiadau'r pleidiau hyn ymhell o fod yn unigryw. Yn hytrach, maent yn adlewyrchu'r sialensau a wynebir gan unrhyw blaid wrth iddi ddatblygu o fod yn blaid protest, i fod yn blaid mewn grym. Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 45-65.
Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?' (2011)
Mae'r erthygl hon yn astudiaeth o'r berthynas rhwng cenedligrwydd a theatr genedlaethol yng Nghymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol. Ystyrir cenedligrwydd Cymreig yng nghyd-destun y drafodaeth gyfoes ar gysyniadau o'r genedl gan feirniaid blaengar Umut Okirimli a Hans Kohn. Amcan yr erthygl yw archwilio'r cwestiynau hanfodol sy'n codi yn sgil y berthynas hanesyddol a chyfredol rhwng theatr genedlaethol, fel ymarfer celfyddydol, a mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru. Asesir arwyddocâd theatr genedlaethol fel arf i fynegi hunaniaeth genedlaethol a gofynnir y cwestiwn, a ydyw theatrau cenedlaethol newydd yr unfed ganrif ar hugain yn cyfeirio yn ôl at gysyniadau traddodiadol o'r genedl a chenedligrwydd neu, a ydynt, yn hytrach yn gweithredu math newydd ar genedligrwydd cyfoes a ddiffinnir fel, 'an interaction of culutral coalescence and specific political intervention'? Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 45-55.
M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr' a diwylliant llên troad y ganrif' (2017)'
Dadl greiddiol yr ysgrif yw y byddai'n werth gosod drama nodedig Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, yng nghyd-destun nifer o nofelau Saesneg Cymru a gyhoeddwyd ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n ymdrin â pherthnasedd yr hen bendefigaeth i'r Gymru Newydd yr oedd mudiad Cymru Fydd yn ei hybu. Awgrymir y gall amgyffred y testunau hyn finiogi a chyfoethogi ein dehongliad o ddrama sy'n gynnil ac yn amwys iawn ei goblygiadau. M. Wynn Thomas, 'Y werin a'r byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a diwylliant llên troad y ganrif', Gwerddon, 24, Awst 2017, 66-82.
Anwen Jones, Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon The...
Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason.
Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad' (2014)
Mae deugain mlynedd o waith ymchwil wedi nodi sawl un o'r prosesau seicolegol sy'n sail i'r gallu i ddarllen. Serch hynny, tan yn ddiweddar, bu seiliau gwybyddol (cognitive) rhuglder darllen yn gymharol anhysbys. Yn yr adolygiad hwn, rhoddir disgrifiad o ruglder darllen fel ffenomen wybyddol a niwrofiolegol, gan gynnwys y gwaith ymchwil a wnaed i ddeall y broses hon. Mae fy ngwaith i a'm cyd-weithwyr yn canolbwyntio ar y maes hwn, ac amlinellaf ein prif ganfyddiadau hyd yma. Deuir â'r gwaith i'w derfyn drwy amlinellu goblygiadau'r gwaith mewn perthynas â deall rhuglder darllen yn achos oedolion medrus ynghyd â'r rhai sydd â'r cyflwr dyslecsia. Manon Jones, 'Seiliau seicolegol darllen yn rhugl: adolygiad', Gwerddon, 18, Medi 2014, 41-54.