Dadleuir bod ymdriniaeth y diwinydd a'r athronydd canoloesol Johannes Duns Scotus o bynciau moesegol diriaethol, megis caethwasiaeth, etifeddiaeth a phriodas, yn arddangos nodweddion cyfraith ganoloesol y Cymry, ac y gellir egluro hyn ar sail agosrwydd y gyfraith honno at gyfraith yr Hen Ogledd. Ymhellach, dadleuir bod y tebygrwydd rhwng y cyfreithiau'n esbonio agweddau Duns Scotus at y pynciau hyn a'r defnydd a wna o ddamcaniaeth cyfraith naturiol ochr yn ochr â Llyfr Genesis i amddiffyn ei safbwynt. Cesglir taw ei fwriad oedd llunio dadansoddiad beirniadol o'r gyfraith naturiol a allai amddiffyn delfryd cyfreitheg yr Hen Ogledd yn erbyn gelyniaeth Eingl-Normanaidd. Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau “Cymreig”?' Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 48-65.
Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’?' (2016)
Catrin Fflur Huws, 'Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy' (2008)
Dros y chwarter canrif diwethaf, mae tai wedi mynd yn fwyfwy anfforddiadwy i'r mwyafrif helaeth o bobl. Mae'r erthygl hon yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn sydd wedi achosi'r sefyllfa hon, a'i heffeithiau ar yr unigolyn ac ar y gymuned. Hefyd, bydd yn ystyried sut y mae tai anfforddiadwy a diffyg cyfleoedd tai ar gyfer pobl leol yn effeithio ar yr iaith Gymraeg. Yna, bydd yr erthygl yn ystyried y mecanweithiau a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Whitehall i ddatrys y problemau cydberthynol, sef tai anfforddiadwy a'r ffaith bod pobl leol yn methu â fforddio prynu tai yn eu hardal leol, ac i ba raddau y mae'r datrysiadau hyn yn cynnig atebion i'r dilema hwn sydd yn gynaliadwy yn y tymor hir. I orffen, cynigir awgrymiadau ynghylch sut i wella'r fframweithiau presennol, yn ogystal â dulliau mwy radical i sicrhau nad yw tai yn mynd yn foethusbeth. Catrin Fflur Huws, 'Siarad iaith yr aelwyd pan fo'r aelwyd yn anfforddiadwy', Gwerddon, 3, Mai 2008, 71-93.
Catrin Fflur Huws, 'Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri'r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd...
Gan ddefnyddio statws cyfredol yr iaith Gymraeg mewn addysg ôl-16 a gweinyddu cyfiawnder fel modelau, amcan yr erthygl hon yw esbonio cylchred o ddiffyg defnydd ieithyddol, sydd yn bodoli er gwaethaf darpariaeth ffurfiol ar gyfer gwasanaethau ac adnoddau drwy gyfrwng iaith leiafrifol. Wedi hynny, eglurir ymhle y gellir canfod gwendidau o fewn y rhediad hwn. Yna cloriannir sut gellir defnyddio deddfwriaeth a pholisiau cyfredol mewn modd mwy effeithlon er mwyn newid ymddygiad ieithyddol. Catrin Fflur Huws, 'Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri'r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 7-27.
Cau canghennau banc yng Nghymru – Tueddiadau a chymariaethau
Gwaith ymchwil gan Dr Edward Jones o Ysgol Busnes Bangor sy'n dangos nad oes gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y gyfran o gau canghennau banc yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd. Cyllidwyd yr ymchwil drwy Gronfa Grantiau Bach y Coleg Cymraeg Cenedlethol. Crëwyd set ddata unigryw ar gyfer y prosiect sydd yn cynnwys lleoliad canghennau pob un o'r pedwar banc mwyaf ym Mhrydain yn 1999 a 2016. Mae'r wybodaeth yn caniatáu i'r prosiect wneud cymariaethau rhwng niferoedd y canghennau banc a gaewyd yng Nghymru â gweddill y DU, rhwng ardaloedd gwledig a threfol, a rhwng ardaloedd cyfoethog a thlawd. Mae'r canlyniadau'n cefnogi'r farn fod cau canghennau wedi digwydd yn bennaf mewn ardaloedd trefol llai cefnog. Mae lleoliadau gwledig mwy cyfoethog ar y cyfan wedi profi cyfraddau cau is na'r cyfartaledd.
Prosiect Ymchwil Llyngyr
Nod y prosiect hwn oedd deall gwasgariad y parasit llyngyr y rwmen yng Nghymru. Gweithiodd gwyddonwyr o IBERS, Prifysgol Aberystwyth, gydag aelodau CFfI ar draws Cymru i ddarganfod ym mha ffermydd yr oedd llyngyr y rwmen yn bresennol.
Cefnogi Pob Plentyn (gol. Nanna Ryder)
Nod y gyfrol hon yw cyflwyno rhai pynciau perthnasol mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig i fyfyrwyr sydd yn astudio Graddau Sylfaen yn y maes addysg a gofal. Nid canllaw arfer dda a geir yma ond yn hytrach fraslun o bolisïau, athroniaeth ac ymarfer cyfredol. Caiff pynciau penodol eu trafod ym mhob pennod ac mae’r rhain yn amrywio o ddatblygiad, hawliau, lles a diogelu plant i gynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwarae a chreadigrwydd.
Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?' (2017)
Roedd Syr Siôn Prys (1501/~1555), o Aberhonddu, ymhlith y mwyaf dylanwadol o weision y Goron yng Nghymru a'r Gororau mewn cyfnod o newidiadau gwleidyddol a chrefyddol mawr. Roedd hefyd yn un o'r Cymry cyntaf i ymateb yn gadarnhaol i rai o'r pwysleisiau diwylliannol a deallusol newydd a gysylltid â'r Dadeni Dysg. Yn yr ysgrif hon trafodir y tensiwn rhwng, ar y naill law, ei ddysg a'i safbwynt dyneiddiol ac, ar y llaw arall, ei ymlyniad wrth y fersiwn o hanes Prydain a gyflwynid yng ngwaith Sieffre o Fynwy (12g.) ac y gwrthodwyd bron y cyfan ohono gan yr Eidalwr Polidor Vergil mewn llyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn y 1530au. Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?', Gwerddon, 24, Awst 2017, 8-21.
Prysor Mason Davies ac Emily Parry, 'Pan fo addysgwyr yn ddysgwyr – safbwyntiau ar hyder ymarferwyr ail iaith ...
Mae 'Datblygu’r Gymraeg' yn y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn faes y rhoddir cryn dipyn o bwyslais arno, ac felly mae’r erthygl hon yn rhoi sylw i safbwyntiau ymarferwyr sydd yn siarad Cymraeg fel ail iaith ac sydd yn addysgu’r Gymraeg fel ail iaith yn y Cyfnod Sylfaen. Gwerthusir dyfnder yr heriau y teimlant y maent yn eu hwynebu wrth gyflwyno iaith nad ydynt yn gwbl hyderus ynddi, gan ystyried rhai o’r goblygiadau a amlygir gan eu safbwyntiau. Rhoddir ystyriaeth i hyder ymarferwyr yng nghyd-destun polisi a chwricwlwm Cymru ac amlygir bod yr elfen hon o addysg braidd yn anweledig yng nghyd-destun ystyriaethau datblygu’r Gymraeg, a’i bod yn effeithio ar niferoedd sylweddol o ddisgyblion Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Awgrymir bod yr agwedd hon ar y Cyfnod Sylfaen yn un sydd angen ystyriaeth a sylw buan.
Cerys Jones et al., 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru' (2010)
Gydag ansicrwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, mae adluniadau o gofnodion parameteorolegol a ffenolegol yn darparu sail gref ar gyfer dadansoddi'r hinsawdd nawr ac yn y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i chwblhau ynghylch hinsawdd hanesyddol Cymru, sy'n amrywio drwy'r wlad oherwydd ffactorau megis topograffeg a chylchrediad atmosfferig. Mae hyn yn arbennig o wir am orllewin Cymru, sydd ag amrywiaeth o amgylcheddau, o 'ddiffeithwch gwyrdd' yr ucheldir i'r gwastatiroedd arfordirol ffrwythlon, lle gellid adlunio hanes helaeth o bosibl o adnoddau dogfennol digyffwrdd. Mae'r potensial yn anferth gan fod ffynonellau posibl gwybodaeth feteorolegol yn cynnwys yr holl ddogfennau crefyddol, swyddogol a phersonol, a allai gynnig cipolwg ar y berthynas rhwng y Cymry a'r tywydd. Cerys A. Jones, Neil Macdonald, Sarah J. Davies, Cathryn A. Charnell-White, Twm Elias a Duncan Brown, 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 34-54.
R. Gwynedd Parry, 'Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?' (2011)
Er nad yw'r gyfundrefn cyfiawnder troseddol wedi ei datganoli, mae elfennau o weinyddu cyfraith trosedd, sef y broses o weithredu'r gyfraith, wedi datblygu strwythurau ac agweddau Cymreig neilltuol. Gwelir hyn yng nghyswllt polisïau Llywodraeth y Cynulliad o ran atal troseddu, yn enwedig troseddu ymysg pobl ifanc, er enghraifft. Mewn ffordd, mae hunaniaeth Cymru o fewn y cyfansoddiad wedi arwain at greu rhai prosesau a pholisïau Cymreig neilltuol o ran gweinyddu cyfiawnder troseddol. Mae'r papur hwn yn ystyried pwnc penodol sy'n ymwneud â chyfiawnder troseddol a'i berthynas â hunaniaeth, a hynny mewn dwy awdurdodaeth. Y cwestiwn o dan y chwyddwydr yw, a ddylid sicrhau'r hawl i alw rheithgorau dwyieithog mewn rhai achosion troseddol yng Nghymru ac yn Iwerddon. Byddaf yn dadansoddi'r berthynas rhwng gwasanaeth rheithgor fel rhwymedigaeth a braint dinasyddiaeth, a chymhwysedd siaradwyr Gwyddeleg a Chymraeg fel gr?p ieithyddol ar gyfer gwasanaeth rheithgor. Bydd y dadansoddiad hefyd yn ystyried y berthynas rhwng y syniad o wasanaeth rheithgor fel braint dinasyddiaeth a hawliau a buddiannau siaradwyr unigol o fewn y system cyfiawnder troseddol. Dangosir yma fod hwn yn bwnc sydd yn mynnu gwerthusiad amlochrog ac o gyfuniad o safbwyntiau. Mae'r papur hefyd yn ymdrin â'r gwrthwynebiad i reithgorau dwyieithog, gan ystyried sut y gall caniatáu rheithgorau dwyieithog fod yn gyson â'r egwyddor o ddethol rheithgor ar hap (dyma sail y prif wrthwynebiad i reithgorau dwyieithog yng Nghymru ac Iwerddon), gan sicrhau tribiwnlys cynrychioliadol, cymwys, teg a diduedd. R. Gwynedd Parry, 'Rheithgorau Dwyieithog: Penbleth Geltaidd?', Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 9-36.
RAS200 yng Nghymru
Adnoddau prosiect RAS200 (cyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng celfyddyd) Mae RAS200 Sky and Earth yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dauganmlwyddiant y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach. Amcan RAS200 yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o seryddiaeth a geoffiseg drwy weithgaredd celfyddydol Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Darperir yn y casgliad hwn adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o'r gweithgaredd. Mae yma gyflwyniadau o'r seryddiaeth a geoffiseg drwy ddiwylliant, sy'n rhoi cip olwg ar y wyddoniaeth drwy weithiau creadigol. I ddysgu mwy am y prosiect, darllenwch gyflwyniad yr Athro Eleri Pryse i RAS200 yng Nghymru.
Clwb Codio - Scratch 2.0
Cyfres o chwe gweithgaredd codio ar gyfer plant 9–11 oed. Mae’r gweithgareddau hyn yn dysgu plant sut i greu animeiddiadau a gemau cyfrifiadurol yn defnyddio’r rhaglen Scratch 2.0 ac yn cyflwyno plant i’r byd rhaglennu. Cynhyrchwyd gan Goleg Meirion Dwyfor a Chanolfan Ehangu Mynediad Prifysgol Bangor gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.