Cynhadledd ar Farchnata, Busnes ac ieithoedd lleiafrifol
Cynhadledd ar gyfer darlithwyr, myfyrwyr a gweithwyr ym maes marchnata a'r Gymraeg ar 24 Mehefin 2022 ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Abertawe SA1 8EN.
Bydd y gynhadledd yn cyflwyno a thrafod ymchwil sydd yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac ieithoedd eraill, megis Llydaweg, Gwyddeleg, neu Fasgeg, a maes Busnes.
Mynediad a lluniaeth am ddim. Cofrestrwch i fynychu. Croeso i bawb. Mae'r gynhadledd yn y Gymraeg - does dim cyfieithu ar y pryd. Manylion pellach: s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk
Amserlen
10:00 Coffi / Ymgynnull
10:30 Croeso
10:45 Siaradwr gwadd: Mari Stevens, Prif Swyddog Marchnata, Ogi:
Hunaniaith: rôl y Gymraeg wrth farchnata yng Nghymru – ac ar draws y byd
11:15 Sesiwn 1: Ieithoedd Lleiafrifol a Marchnata Lle (Cadeirydd: Llŷr Roberts)
* Cyfraniad Ieithoedd Lleiafrifol at greu Brand Unigryw wrth Farchnata Lle - Rhydian Harry (Prifysgol Abertawe)
* Pop Up Gaeltacht: adfywio dinesig ac ieithyddol? - Dr Osian Elias (Prifysgol Abertawe)
* Gwnaed yn Llydaw: Brand rhanbarthol. Model i Gymru? - Dr Robert Bowen (Prifysgol Abertawe/Caerdydd)
12:30 Cinio (Ystafell GH014)
13:15 Siaradwr Gwadd: i'w gadarnhau
13:45 Sesiwn 2: Y Cyd-destun Cymreig (Cadeirydd: Dr Robert Bowen)
* Dylanwad polisïau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg - Elen Bonner (Prifysgol Bangor)
* Cyflwyniad i Farchnata: datblygu gwerslyfr Cymreig yn ogystal â Chymraeg - Llŷr Roberts (Prifysgol De Cymru)
* Defnyddio cwmnïau Cymreig ar gyfer dysgu dulliau ymchwil a sgiliau ymarferol i fyfyrwyr busnes Cymraeg a rhyngwladol - Yr Athro Eleri Rosier (Prifysgol Caerdydd) a Dr Rhian Thomas (Prifysgol De Cymru)
15:00 Panel Trafod (Cadeirydd: Yr Athro Eleri Rosier)
15:30 Gorffen
Cynhadledd Iaith a Busnes
Cynhadledd Ymchwil 2022
I gyd-fynd â dathliadau deng mlwyddiant y Coleg Cymraeg, mae’r Gynhadledd Ymchwil eleni hefyd yn dathlu degawd o bapurau a phosteri ymchwil. Cynhelir y y Gynhadledd hybrid hon yn Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth ar 30 Mehefin rhwng 10:00 a 15:00.
Cynhadledd yw hon ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
Cofrestrwch nawr ar gyfer y gynhadledd!
Cwrs Biocemeg Cymraeg
Cwrs Biocemeg Ar-lein
- Astudio Bioleg neu Gemeg Safon Uwch/UG?
- Dere i gymryd rhan yn y cwrs Biocemeg Cymraeg ar-lein cyntaf am ddim sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Dechrau ar dy daith drwy’r byd Biocemeg gydag Elin Rhys a chriw Prifysgol Abertawe
Mae hwn yn gwrs Biocemeg ar-lein cyfrwng Cymraeg wedi’i anelu at fyfyrwyr 16-18 oed sy’n astudio Safon Uwch/UG mewn Bioleg neu Gemeg. Datblygwyd yr adnodd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd i gyfoethogi dysgu manyleb Bioleg a Chemeg CBAC. Yn arwain ni drwy’r cwrs y mae Elin Rhys. Mae’n cynnwys fideos a chartwnau addysgiadol, cwisiau, tudalennau gwybodaeth a chyfweliadau gyda gwyddonwyr sy’n arwain y ffordd yn eu meysydd ymchwil.
Gwybodaeth bellach:
Dr Alwena Morgan
Gwyddorau Chwaraeon: Iechyd a Lles
Mae’r adnoddau hyn yn edrych ar iechyd a lles mewn chwaraeon. Ymhlith y deunyddiau ceir unedau ar fuddion gweithgarwch corfforol, gwydnwch, penderfynyddion iechyd, datblygiad corfforol cyfannol neu holistig, ymlyniad, gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc, rheoli straen, a pholisïau addysg ym maes iechyd a lles.
Mae pob uned yn cynnwys:
- crynodeb
- darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo
- cwestiynau seminar
- llyfryddiaeth
Cyfranwyr y thema hon yw:
- Dylan Blain
- Dr Lowri Cerys Edwards
- Seren Evans
- Dr Anwen Jones
- Dr Carwyn Jones
- Dr Julian Owen
- Dione Rose
- Catrin Rowlands
Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn.
Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Cynhadledd Wyddonol 2022
I gyd-fynd â dathliadau deng mlynedd y Coleg Cymraeg, mae’r Gynhadledd Wyddonol hefyd yn dathlu deng mlwyddiant eleni. Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O beirianneg i bysgod ac o gelloedd tanwydd i gorona’r Haul, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau.
Dewch i Ganolfan Gynadleddau MedRus, Prifysgol Aberystwyth, ddydd Mercher 15 Mehefin 2022 i glywed yr amrywiol gyflwyniadau. Cynhelir y Gynhadledd yn y Gymraeg.
- Nia Jones, Prifysgol Bangor - Modelu gwasgariad microblastig o amgylch arfordir gogledd Cymru
- Iwan Palmer, Prifysgol Caerdydd - Canfod ac Ynysu Microplastigion: O’r Labordy i’r Dosbarth
- Abigail Lowe, Gardd Fotaneg Genedlaethol a Phrifysgol Bangor - Garddio i beillwyr: Defnyddio DNA paill i ddarganfod â pha blanhigion mae peillwyr yn ymweld
- Ben Walkling, Prifysgol Abertawe - A yw Tomenni Glo Cymru yn Risg Newydd?
- Owain Beynon, Prifysgol Caerdydd - Mesur Effeithiau Anharmonig Mewn Catalyddion sy’n Creu Tanwyddau Adnewyddadwy
- Fergus Elliott, Prifysgol Bangor - Synhwyro Di-wifr mewn Amgylcheddau Diwydiannol
- Manon Owen, Prifysgol Leeds - Archwilio Mecanweithiau Metformin ar Dyfiant Ffetws ac Iechyd Hir-dymor Cardiometabolig Ffetws
- Mari Davies, Prifysgol Caerdydd - Datblygu triniaeth arloesol ar gyfer clefydau storio lysosomal
Gwyddorau Cymdeithas: Astudio Cymru Gyfoes
Mae’r adnoddau hyn yn gosod y chwyddwydr ar astudio Cymru gyfoes. Trafodir ynddynt nifer o themâu allweddol o fewn y gwyddorau cymdeithas, a hynny trwy dynnu ar enghreifftiau Cymreig cyfoes. O ganlyniad, mae’r pecyn yn unigryw yn y Gymraeg.
Mae pob uned yn cynnwys:
- crynodeb
- darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo
- cwis aml-ddewis
- cwestiynau seminar
- llyfryddiaeth.
Cyfranwyr y thema hon yw:
- Dr Cynog Prys
- Dr Rhian Hodges
- Athro Rhys Jones
- Dr Siôn Llewelyn Jones
- Dr Rhys D. Jones
- Dr Gareth Evans-Jones.
Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn.
Doctoriaid Yfory 5.1
Cynllun i gefnogi disgyblion blwyddyn 12 a dysgwyr a myfyrwyr ym mlwyddyn olaf o'u hastudiaethau yn y coleg/prifysgol gyda'u ceisiadau i astudio Meddygaeth.
- Mawrth: Cyflwyniad i'r rhaglen
- Ebrill: Profiad gwaith
- Mai: C21 Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd
- Mai: Sgyrsiau gyda nifer o feddygon proffesiynol
- Mehefin: Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe
- Mehefin: Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Gorffennaf: Llwybrau amgen i feddygaeth
- Awst: Egwyl yr haf
- Medi: Sesiwn cwestiwn ac ateb ar Ddatganiad Personol
- Hydref: Ceyfweliadau meddygol traddodiadol
- Tachwedd: Cyfweliadau MMI
- Rhagfyr: Cyfweliadau
COFRESTRWCH ISOD (Dyddiad Cau cofrestru - 4 Chwefror 2022):
Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd (20 Ionawr 2022)
Sesiwn ar-lein sy'n trafod gwahanol agweddau ar fywyd newyddiadurwyr sydd yn byw ar draws y byd. Mae'r sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal gan Maxine Hughes, sydd yn gweithio fel newyddiadurwraig, ac yn byw yn Washington DC.
Mae'n gyfle i fyfyrwyr, dysgwyr a disgyblion sydd yn astudio neu’n ymddiddori mewn newyddiaduraeth i glywed a holi am waith Maxine.
Dydd Iau 20/01/2022 rhwng 15:00-16:00
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mared Jones - m.jones@colegcymraeg.ac.uk
Ar-lên 2021-22: Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch (Rhagfyr 2021 - Mawrth 2022)
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 1 Rhagfyr 2021.
2021
- 1 Rhagfyr 2021: Dafydd ap Gwilym, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.13)
- 8 Rhagfyr 2021: Gwerthfawrogi Rhyddiaith, Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor (Bl.13 + Bl.12)
2022
- 2 Chwefror 2022: Ymarfer Papur Gramadeg, Dr Alec Lovell, Prifysgol Abertawe (Bl.12)
- 9 Chwefror 2022: Hedd Wyn (Ffilm), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12)
- 16 Chwefror 2022: Branwen, Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor (Bl.13)
- 2 Mawrth 2022: Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13)
- 9 Mawrth 2022: Sul y Mamau yn Greenham (Menna Elfyn), Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd (Bl.12)
- 16 Mawrth 2022: Y Genhedlaeth Goll (Alan Llwyd), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth
Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn.
Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc.
I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Astudio Cymraeg yn y brifysgol (Gweminar)
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol
Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg.
Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae'n cynnwys:
- Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 19 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael?
- Sgwrs rhwng ein llysgenhadon a myfyrwyr cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen)
Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg.
Adnoddau Iechyd a Lles
Yma, cewch fynediad at adnoddau iechyd a lles y gellid eu defnyddio mewn darlith, seminar neu mewn cyfarfod tiwtora personol.
Yn cyd-fynd a phob adnodd, mae taflen cyfarwyddiadau i'r darlithydd
Mae'r adnoddau yn cynnwys:
- Gweithgaredd 1: Yr Olwyn Lles
- Cyfarwyddiadau: Yr Olwyn Lles
- Gweithgaredd 2: Yr arf hunan-asesu lles
- Cyfarwyddiadau: Yr arf hunan-asesu lles
Paratowyd y gwaith gan Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ffynonellau Cymorth
Os oes gennych argyfwng meddygol, problem ddifrifol neu sy’n fygythiad i fywyd, ffoniwch 999
Os ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich meddyg teulu.
Ceir rhestr o linellau cymorth, elusennau a gwybodaeth defnyddiol ar wefan meddwl.org
Prentis-iaith Lefel Dealltwriaeth
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg ac sydd am ehangu'u dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs yn y Gymraeg.
SUT I DDEFNYDDIO'R ADNODDAU?
Mae'r pum uned gyntaf yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgìl ar gyfer y gweithle tra bod cynnwys unedau 6 wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol feysydd. Hynny yw felly, bydd pawb yn cwblhau Uned 1-5 Cyffredinol ac yna'n dewis y fersiwn sy'n addas iddyn nhw ar gyfer Uned 6.
Dyma’r pump llwybr galwedigaethol penodol y mae uned 6 wedi’i deilwra ar ei gyfer:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gofal Plant
- Gwasanaethau Cyhoeddus
- Amaethyddiaeth
- Adeiladwaith
Os nad ydych yn dilyn un o'r llwybrau uchod, yna byddwch yn gallu cwblhau Uned 6 (Cyffredinol).
PA LEFEL SY'N ADDAS?
Mae Prentis-iaith ar gael ar ddwy lefel:
- Prentis- iaith: Lefel Ymwybyddiaeth (ar gyfer prentisiais sydd ond gyda rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg)
- Prentis-iaith: Lefel Dealltwiraeth (ar gael ar gyfer prentisiaid sydd eisoes â pheth dealltwriaeth o'r Gymraeg)
Os nad ydych chi’n siŵr pa adnodd sy’n addas ar eich cyfer, defnyddiwch y Cwis Adnabod Lefel
DARPARWYR A CHOLEGAU
Mae'r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawr lwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn (gweler y ddolen isod).
Mae modd argraffu tystysgrif yn awtomatig ar ôl cwblhau yr unedau unigol ond gellir hefyd lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod.
Adnoddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy'n astudio cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus ar Lefel 3.
Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawr lwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau.
Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau.
Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran y Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu
Instagram
'Da ni gyd yn meddwl amdanoch wrth ichi ddechrau eich arholiadau ac asesiadau dros yr wythnosau nesaf! ⭐️Pob lwc ichi i gyd!⭐️ #pob lwc #DaliDdysgu #ysgolion#cymru #ewchamdani #arholiadau2022 #keepwaleslearning . . . . . @cbacifyfyrwyr @llywodraeth @addysgucymru @cymwysteraucym @gyrfa_cymru