Mae'r Banc Brawddegau yn adnodd ar gyfer unrhyw un sy'n ysgrifennu yn academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n cynnig enghreifftiau o frawddegau y gallwch eu defnyddio wrth ysgrifennu, wedi'u trefnu yn ôl prif adrannau traethawd neu bapur academaidd.
Datblygwyd gan yr Athro Enlli Thomas a Bethan Wyn Jones, Prifysgol Bangor, ar sail Academic Phrasebank (https://www.phrasebank.manchester.ac.uk).
Banc Brawddegau
Gwefan myf.cymru
Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi eu creu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai.
Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhaglen MOIMR i gyfieithu eu ap i'r Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd. Yn ogystal, ceir podlediad o'r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw.
Traethawd Hir Hanes
Cyflwyniad i sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio ar gyfer modiwl Traethawd Hir Hanes.
- Beth yw Traethawd Hir Hanes? – Dr Lowri Ann Rees, Prifysgol Bangor
- Ymchwilio Casgliadau ac Adnoddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar-lein ac yn y sefydliad
- Y Canol Oesoedd a’r Cyfnod Modern Cynnar – Dr Rebecca Thomas, Prifysgol Caerdydd
Cynhadledd Ymchwil 2022
Cynhaliwyd y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni, gyda chynulleidfa mewn person yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledwyd yn fyw i gynulleidfa rithiol.
Mae Cynhadledd Ymchwil flynyddol y Coleg ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.
Cliciwch isod i weld cyflwyniadau byrion a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y gynhadledd. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a arddangoswyd yn ystod y gynhadledd.
Bydd recordiadau o'r prif gyflwyniadau a roddwyd yn fyw yn ystod y gynhadledd, a’r sesiynau cwestiwn ac ateb a gafwyd ar ôl pob cyflwyniad yn cael eu hychwanegu isod yn fuan.
Methodolegau Ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Amcanion y gweithdai:
Cyflwyno prif hanfodion Dulliau Ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd gan ddilyn yr amcanion canlynol:
- olrhain hanes a gwreiddiau damcaniaethau methodoleg ymchwil;
- cyflwyno cysyniadau craidd dulliau ymchwil
- cynnig technegau amrywiol o ymchwilio’n ansoddol ac yn feintiol;
- camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil
Cynnwys:
Mae’r gweithdai ar-lein hyn wedi eu rhannu yn dair rhan sy’n trin a thrafod cysyniadau allweddol ym maes dulliau ymchwil a’r camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil.
- Rhan 1 – Pwrpas ymchwil gymdeithasol: epistemoleg, ontoleg ac ymchwil empeiraidd
- Rhan 2 – Persbectifau, strategaethau a chwestiynau ymchwil
- Rhan 3 – Dadansoddi a dehongli data
Cyflwynydd: Dr Rhian Hodges
Mae Dr Rhian Hodges yn Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor ers dros ddegawd bellach. Mae’n addysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg ym maes addysg, cymdeithaseg, cynllunio ieithyddol, cymdeithaseg cerddoriaeth a dulliau ymchwil ac wrth ei bodd yn dysgu ystod eang o bynciau gwahanol drwy’r Gymraeg.
Ei maes ymchwil arbenigol yw cynllunio ieithyddol, ac yn arbennig siaradwyr newydd y Gymraeg, defnydd cymunedol o’r Gymraeg, ac addysg cyfrwng Cymraeg fel dull adfywio’r Gymraeg yng Nghymru.
Mae’n dod yn wreiddiol o Fargoed, Cwm Rhymni ond mae hi wedi ymgartrefu ym Mangor ers cyfnod sylweddol bellach. Mae hi wedi hen arfer teithio lan a lawr yr A470 i weld teulu a ffrindiau’r cymoedd.
Bydd y gweithdai hyn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd wrthi’n cynllunio eu traethodau hir a thraethodau ymchwil gan mae’n cynnig cyfle i ystyried camau hollbwysig y broses ymchwil a sut mae’n berthnasol i’w hymchwil eu hunain.
Sgiliau Ymchwil Ansoddol
Amcanion y gweithdai:
- Cyflwyno mathau gwahanol o ddulliau ansoddol
- Amlinellu’r hyn sydd angen ei ystyried cyn, yn ystod ac ar ôl cynnal ymchwil ansoddol
- Ystyried y materion moesegol sydd y gysylltiedig ag ymchwil ansoddol
- Amlinellu sut i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol.
Cynnwys:
- Mae gweithdy 1 yn archwilio’r mathau gwahanol o ddulliau ansoddol a dulliau creadigol.
- Mae gweithdy 2 yn edrych ar yr hyn sydd angen ei ystyried wrth drio cael mynediad at gyfranogwyr ein hymchwil a chyn cynnal yr ymchwil.
- Mae gweithdy 3 yn canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei ystyried yn ystod ac ar ôl cynnal ein hymchwil, yn ogystal â’r materion moesegol sydd yn gysylltiedig ag ymchwil ansoddol.
- Mae gweithdy 4 yn edrych ar sut i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol.
Cyflwynydd: Dr Siôn Llewelyn Jones
Mae Siôn yn ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Bu’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ac mae’n addysgu nifer o fodiwlau, gan gynnwys modiwlau ymchwil. Mae gan Siôn brofiad helaeth o gynnal ymchwil ansoddol. Bu’n gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil ar gyfer gwahanol sefydliadau, megis Comisiynydd Plant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn 2017, gorffennodd ei PhD. Ar gyfer ei ymchwil ddoethurol, archwiliodd Siôn i ddyheadau pobl ifanc a oedd yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg ac ysgol cyfrwng Saesneg yng nghymoedd de Cymru. Yn y prosiectau ymchwil hyn, bu’n ymwneud â’u cynllunio a bu’n cyfweld â chyfranogwyr yn ogystal â chynnal grwpiau ffocws wyneb yn wyneb, ar-lein ac ar y ffôn.
Ysgrifennu Academaidd
Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr israddedig y Gyfraith, ac yn eu paratoi ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli cywair academaidd.
Datblygwyd yn 2018. Addasiad mwyaf diweddar: Chwefror, 2022
Gweithdy Sgiliau Addysgu ar gyfer myfyrwyr Ôl-radd
Amcanion y gweithdy
- · Gwybodaeth broffesiynol – datblygu eich gwybodaeth am y pwnc y byddwch yn ei ddysgu;
- · Gwybodaeth fethodolegol – cyflwyniad i theori sy'n sail i ddysgu ac arferion addysgu (arddulliau dysgu)
- · Sgiliau dynameg grŵp penodol – dynameg grŵp, strategaethau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd;
- · Gwybodaeth sefydliadol – safonau a rheoliadau, rheolau ac arferion, normau a gwerthoedd.
Cynnwys
Bydd y gweithdy ar-lein wedi ei rannu yn bedair rhan:
- Rhan 1: Deall rhinweddau personol tiwtor o safon uchel
- Rhan 2: Dysgu'r sgiliau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio gwaith addysgu
- Rhan 3: Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu gyda grwpiau bach
- Rhan 4: Dod i ddeall rhai egwyddorion allweddol sy’n ymwneud ag asesu.
Cyflwynydd:
Dyddgu Hywel
Cefndir
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf.
Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Erbyn hyn, mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch-ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae yno ers dros saith mlynedd bellach. Mae’n arbenigo mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu â myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.
Bydd y gweithdy hwn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd yn camu i’r byd addysgu am y tro cyntaf, ac eisiau datblygu ar lawr y dosbarth ac ar-lein wrth addysgu’n hyderus ac yn arloesol.
Adnoddau Iechyd a Lles
Yma, cewch fynediad at adnoddau iechyd a lles y gellid eu defnyddio mewn darlith, seminar neu mewn cyfarfod tiwtora personol.
Yn cyd-fynd a phob adnodd, mae taflen cyfarwyddiadau i'r darlithydd
Mae'r adnoddau yn cynnwys:
- Gweithgaredd 1: Yr Olwyn Lles
- Cyfarwyddiadau: Yr Olwyn Lles
- Gweithgaredd 2: Yr arf hunan-asesu lles
- Cyfarwyddiadau: Yr arf hunan-asesu lles
Paratowyd y gwaith gan Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Ffynonellau Cymorth
Os oes gennych argyfwng meddygol, problem ddifrifol neu sy’n fygythiad i fywyd, ffoniwch 999
Os ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich meddyg teulu.
Ceir rhestr o linellau cymorth, elusennau a gwybodaeth defnyddiol ar wefan meddwl.org
Datblygu Gyrfa: Rhwydweithio Digidol ac Academaidd
Amcanion y gweithdy hwn yw:
- I gyflwyno rhwydweithio fel sgil bwysig ar gyfer datblygu gyrfa, ac i gynnig cymorth a chyngor ymarferol ar sut i fynd ati i rwydweithio mewn cyd-destun digidol ac academaidd.
Cynnwys:
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar beth yw rhwydweithio, a sut i fynd ati i ddefnyddio dulliau rhwydweithio i’ch helpu i gynllunio, ymchwilio a datblygu’ch gyrfa. Bydd y gweithdy yn egluro sut i ddefnyddio amryw o wahanol wefannau cymdeithasol mewn cyd-destun academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio yn benodol ar ddefnyddio LinkedIn, a gwneud y mwyaf o’r potensial mae’r safle yn ei gynnig i fyfyrwyr a graddedigion.
Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:
- Teimlo’n hyderus am ddatblygu a defnyddio rhwydweithiau academaidd a phroffesiynol
- Deall potensial gwahanol wefannau cymdeithasol ar gyfer rhwydweithio gyrfaol
- Creu proffil LinkedIn effeithiol a deall sut i wneud y mwyaf o wahanol nodweddion y safle.
Cyflwynydd: Mari Gwenllian Price
Mae Mari yn gweithio i’r Adran Gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ers bron i ddeg mlynedd ac yn cynnig cyngor gyrfaol a sesiynau o fewn y cwricwlwm fel rhan o’i rôl. Mae hi hefyd yn gweithio ar gynlluniau lleoliadau gwaith yn y Brifysgol, ac yn un o arweinwyr y Wobr Gyflogadwyedd. Mae Mari wedi cwblhau MA mewn Addysg a Chyngor Gyrfaol o fewn addysg uwch drwy Brifysgol Warwick, ac wedi edrych mewn i ddiddordebau gyrfaol myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg fel maes ymchwil ei thraethawd hir.
Termau technegol ar gyfer dysgu trwy’r Gymraeg
*Mae'r hyfforddiant ar waelod y dudalen hon
Cyflwynwyr: Yr Athro Delyth Prys a Dr Tegau Andrews
Amcanion y gweithdy hwn yw:
- Cyflwyno cefndir y gwaith safoni termau, yn rhyngwladol ac yn genedlaethol, gan blethu’r damcaniaethol a’r ymarferol, er mwyn egluro’r broses safoni a’i perthnasedd i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
- Rhoi gwell dealltwriaeth i staff a myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i’w cynorthwyo i ysgrifennu a chyfathrebu yn well mewn Cymraeg academaidd da.
- Datgelu dirgelwch sut mae termau Cymraeg yn cael eu bathu a’u safoni, gan drafod yr egwyddorion rhyngwladol sy’n gyrru’r broses a chyflwyno enghreifftiau penodol, fel y gall unrhyw rai sydd â diddordeb ddeall sut mae’r termau hyn yn cyrraedd ein hiaith.
- Rhoi arweiniad i awduron, cyfieithwyr a rheolwyr prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu adnoddau i fyfyrwyr, gan esbonio iddynt ar ddechrau’r broses o greu adnodd sut mae termau’n berthnasol iddynt a ble mae gwaith termau’n ffitio o fewn eu hamserlen.
Cynnwys:
- Trosolwg cyffredinol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i staff a myfyrwyr.
- Cymorth ymarferol ar sut i ddefnyddio geiriaduron cyffredinol a geiriaduron termau electronig ar-lein.
- Esboniad o sut mae safoni termau i’r Gymraeg, a pherthnasedd safonau rhyngwladol i’r broses honno.
- Amlinelliad o gamau datblygu adnoddau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar rôl termau o fewn y camau hyn.
Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:
- Amgyffred yn well bwysigrwydd defnyddio termau safonol mewn ysgrifennu academaidd.
- Defnyddio adnoddau geiriadurol a therminolegol yn fwy effeithiol yn eu gwaith, a gwella safon eu Cymraeg academaidd.
- Gwybod ble i droi os bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gyda thermau technegol Cymraeg.
- Deall yn well sut y mae termau’n cael eu safoni ar gyfer y Gymraeg.
- Cynllunio adnoddau newydd i fyfyrwyr gan ystyried unrhyw waith termau hanfodol.
Bywgraffiad
Mae’r Athro Delyth Prys wedi bod yn Brif Olygydd y Ganolfan Safoni Termau (bellach rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr) ers 1993, ac yn Bennaeth yr Uned Technolegau Iaith ers 2001. Mae’n arwain tîm cymysg o ieithyddion ac arbenigwyr meddalwedd sy’n datblygu offer iaith digidol arloesol ar gyfer y Gymraeg.
Mae’r Dr Tegau Andrews yn Derminolegydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2009. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi datblygu Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn un o’r prif eiriaduron termau technegol Cymraeg, yn cynnwys diffiniadau, diagramau a lluniau esboniadol.
Mentimeter
Dyma weithdy i'ch rhoi chi ar ben ffordd wrth ddefnyddio gwefan Mentimeter yn hyderus yn eich addysgu fel ffordd o ymgysylltu a'ch myfyrwyr.
www.mentimeter.com
Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr.
Cefndir Hyfforddwr:
Mae'r sesiwn hon yn cael ei harwain gan Dyddgu Hywel.
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf.
Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.