Pam mae cyfathrebu mor bwysig wrth adeiladu?
Faint o'ch gwaith sy'n cynnwys rhyngweithio â phobl eraill? Mwy nag a gredwch siŵr o fod. Mae popeth rydych yn ei wneud sy'n galw am rhyw fath o ryngweithio yn enghraifft o pam mae cyfathrebu da mor bwysig. O roi neu derbyn cyfarwyddyd, i archebu deunyddiau, a hyd yn oed darllen a chwblhau dogfennau, os yw eich sgiliau cyfathrebu yn ddiffygiol, rydych chi'n mynd i gael trafferth bob dydd.
Yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), bydd Cyfathrebu wrth Adeiladu yn gwella eich sgiliau cyfathrebu wrth i chi weithio tuag at Lefel 1. Gydag enghreifftiau adeiladu ymarferol, byddwch yn gweld sut bydd yr hyn rydych yn ei ddysgu o fudd i chi yn eich gwaith beunyddiol.
Wedi i chi orffen y cwrs byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif Cyfathrebu wrth Adeiladu i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus!
Mae angen cyfrif CITB Apprenticeships er mwyn mewngofnodi. Mae fersiwn Saesneg o'r cwrs ar gael yn https://learn.citb.co.uk/courses/course-v1:CIT+CIT002+2018/about
Cyfathrebu wrth Adeiladu
Dogfennau a dolenni:
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.