Mewn adroddiad yn 2013, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod codi statws Addysg Gorfforol (AG) i fod yn bwnc craidd, fel Cymraeg a Mathemateg, yn hanfodol er mwyn ceisio atal yr epidemig gordewdra presennol. Serch hynny, mae'n rhaid cael gwersi AG o ansawdd uchel er mwyn cael effaith gorfforol gadarnhaol ar ddisgyblion. Mae gan athrawon AG rôl hanfodol wrth weithredu AG o ansawdd uchel, ac felly bydd deall eu canfyddiadau ynghylch AG o ansawdd uchel yn bwysig. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda deg o athrawon AG ysgolion cyfrwng Cymraeg de Cymru (saith dyn a thair menyw). Daeth i'r amlwg fod tebygrwydd rhwng theori cyfredol yn y maes a chanfyddiadau'r athrawon, er enghraifft pwysigrwydd creu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yna wahaniaethau rhwng y theori a'r ymarfer, er enghraifft dryswch gyda'r term llythrennedd corfforol. Goblygiad yr astudiaeth yw fod angen ymgynghori gydag athrawon AG i lunio polisïau AG o ansawdd uchel. Yn y dyfodol dylid cynnal ymchwil gweithredol i hybu'r term llythrennedd corfforol. Lowri Edwards, Anna Bryant ac Anwen Mair Jones, 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 44-60.
Lowri Edwards et al., 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn...
Arbrofion a Thechnegau Labordy
Cyfres o glipiau ffilm byrion gyda Dr Heledd Iago yn dangos gwahanol gamau pwysig a ddefnyddir mewn arbrofion a thechnegau labordy ar draws y Gwyddorau Biolegol.
Y Meddwl Modern: Wittgenstein – Walford Gealy
Cyfrifir Ludwig Wittgenstein gan lawer yn athrylith hynotaf yr ugeinfed ganrif mewn athroniaeth. Y mae hefyd yn unigryw yn ei faes gan iddo greu nid un athroniaeth ond dwy, y ddwy yn wreiddiol, dylanwadol a gwrthgyferbyniol. Ceisir yn y gyfrol hon esbonio mewn iaith seml ei ddau safbwynt sydd i'w gweld yn Tractatus Logico-Philosophicus ac yn yr Ymchwiliadau Athronyddol.
Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o'r sefyllfa bresennol a phosibiliadau'r sector unigryw hw...
Mae'r sector ynni adnewyddadwy yn prysur dyfu wrth i wledydd anelu at gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon a sefydlu strategaeth fwy cynaliadwy o greu ynni. Er hyn, dadleuir nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn llwyddo i gyfrannu tuag at gynaliadwyedd cymunedol a'r economi lleol. Yn ôl ymchwil ddiweddar, mae prosiectau ynni cymunedol – prosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu perchenogi'n rhannol neu'n llawn gan gymuned ddaearyddol benodol – yn cael eu gweld fel ffordd o gynhyrchu ynni mewn modd mwy derbyniol, teg a chynaliadwy. Mae'r erthygl hon yn adolygu'r llenyddiaeth bresennol sy'n trafod manteision y sector ynni cymunedol a'r hyn sy'n llesteirio datblygiadau yn y maes hwn. Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o'r sefyllfa bresennol a phosibiliadau'r sector unigryw hwn', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 10-29.
Darlith Flynyddol 2015: Y Wladfa 1865–2015 – Dathlu Beth?
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2015: Y Wladfa 1865-2015 - Dathlu Beth? gan Elvey MacDonald. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ar ddydd Mawrth 5 Awst 2015.
Y Meddwl Modern: Durkheim – Huw Morris Jones
Emile Dukheim oedd y cyntaf erioed i ddal cadair brifysgol mewn cymdeithaseg, a deil ei syniadau'n sylfaenol bwysig i bawb a fyn ddeall gwreiddiau'r pwnc. Mabwysiadodd y ddelwedd o gymdeiths fel organeb, a phob aelod ohoni â'i swyddogaeth neilltuol i'w chyflawni er mwyn sicrhau lles y corff cyfan. Ymhlith ei syniadau y mae ei ddadansoddiad o wreiddiau cymdeithasol crefydd, yn arbennig yr awgrym mai 'addoli'r gymdeithas' a wneir mewn unrhyw addoliad crefyddol; ei bwyslais ar yr hyn a alwai yn 'anomi' fel gwreiddyn anghydfod ac aflonyddwch ym mywyd unigolyn a chymdeithas; a'i astudiaeth wreiddiol a phwysig o hunanladdiad fel ffenomen gymdeithasol. Gwelir ei ddylanwad mewn meysydd mor wahanol â throseddeg ar y naill law a beirniadaeth lenyddol ar y llall.
Cynhadledd Theatr Rhyngwladol 2015
Recordiadau sain o gynhadledd gydweithredol Astudiaethau Theatr a Drama 2014/15. Cynhaliwyd y gynhadledd ar 30-31 Ionawr 2015 yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Noel Davies, 'Rôl bôn-gelloedd yn adfer meinwe cardiaidd: gwerthuso triniaethau ac adnabod risg' (2015)
Mae'r erthygl hon yn gwerthuso potensial ystod o fôn-gelloedd ar gyfer atffurfio meinwe cardiaidd yn dilyn trawiad ar y galon. Ar sail arolwg cychwynnol o ymchwil perthnasol, cyflwynir rhai o'r prif fecanweithiau biolegol parthed atffurfio meinwe cardiaidd, yn cynnwys: rôl ffactorau trawsgrifio, megis ocsitosin a c-kit a ffactorau twf paracrinaidd; astudiaethau ar bysgod rhesog sydd wedi datgelu mecanweithiau megis rôl atffurfiannol cardionogen 1-, 2- a 3-, a'u swyddogaeth yn atal effeithiau ffenoteipiau cardiaidd sy'n rheoli datblygiad y galon; mecanweithiau cludo ac impwreiddio, yn cynnwys fectorau firol a phlasmidol, ysgogiad trydanol a nanodechnoleg. Adroddir am ganlyniadau arbrofion in vitro ac in vivo sydd wedi dangos fod i fôngelloedd botensial clinigol yn y maes hwn, yn ogystal â pheryglon imiwnolegol a thiwmorigenig. Ar hyn o bryd (2012), er bod y dystiolaeth glinigol yn brin, awgrymir modelau therapiwtig cymhleth i'w datblygu yn y dyfodol. Ceir geirfa arbenigol i gydfynd â'r erthygl ar ddiwedd y ddogfen PDF. Noel Davies, 'Rôl bôn-gelloedd yn adfer meinwe cardiaidd: gwerthuso triniaethau ac adnabod risg', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 61-79.
Darlith Flynyddol 2012: Canrif Gwynfor – Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2012: Canrif Gwynfor - Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg, gan Rhys Evans Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Lleisiau o'r Lludw: Her yr Holocost i'r Cristion – Gareth Lloyd Jones
Trafodaeth ar agwedd Cristnogion tuag at Iddewon ar hyd y canrifoedd a chyfraniad posib yr Eglwys Gristnogol at gyflafan yr Holocost. Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi.
Cynhadledd ‘Boddi mewn Celfyddyd’: Gwaddol ’65
Hanner can mlynedd ar ôl boddi Tryweryn, trefnwyd cynhadledd i gasglu ynghyd a gwerthfawrogi’r gwaddol celfyddydol a ysbrydolwyd gan foddi’r cwm mewn cynhadledd deuddydd mewn lleoliad arbennig nid nepell o Dryweryn. Yn ystod y gynhadledd, traddodwyd darlithoedd gan Dafydd Iwan a Manon Eames, a chafwyd arddangosfa aml-gyfrwng unigryw yn dogfennu hanes y boddi, a’r cynnyrch celfyddydol a grëwyd yn ei sgil. Cafwyd hefyd gyfle i ymweld â Thryweryn a chlywed am brofiadau ac atgofion Aeron Prysor Jones am foddi’r cwm, yn ogystal â mwynhau detholiad o’r ddrama Porth y Byddar gan Manon Eames, o dan gyfarwyddyd Siwan Llynor. Noddwyd y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.
Cymru a'r Rhyfel Canmlynedd – A. D. Carr
Cyflwyniad i'r Rhyfel Canmlynedd (1337-1453) a'i berthynas â Chymru a geir yn y gyfrol hon . Roedd gan filwyr o Gymru rannau canolog yn y rhyfel hwn rhwng Lloegr a Ffrainc, a hynny ar y ddwy ochr. Ystyrir hefyd effeithiau'r Rhyfel Canmlynedd ar Gymru ei hun.
