Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a'r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o'r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a'r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg. Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy'n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy'n cyflwyno meddwl Kant fel y'i mynegir yn ei Kritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir yn Aids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i'r athroniaeth Galfinaidd. Y mae'r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd. Dadleuir mai'r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o'r prif ffactorau a oedd yn symbylu'r brad y cyhuddir Edwards a'i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw'n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i'w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu'r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw. Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, Awst 2017, 83-101.
Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion' (2017)
Lisa Sheppard, 'Troi Dalen "Arall"': Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mew...
Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2015-17. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi'r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn y golygfeydd tafarn mewn dwy nofel gyfoes o dde Cymru, sef Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd (2009) a The Book of Idiots gan Christopher Meredith (2012), yng ngoleuni damcaniaethau athronyddol am yr 'arall' ac aralledd. Olrheinir datblygiad cysyniad yr 'arall' gan ystyried gwaith athronwyr a damcaniaethwyr diwylliannol megis Georg Hegel, Simone de Beauvoir, Frantz Fanon a Homi Bhabha. Trwy droi at waith Charlotte Williams a Simon Brooks, dadleuir y gallai siaradwyr Cymraeg a Saesneg Cymru fel ei gilydd brofi aralledd, ac yna try'r erthygl at y nofelau er mwyn archwilio sut yr adlewyrchir hyn mewn testunau ffuglennol cyfoes. Daw'r erthygl i gasgliad ynglyˆn ag arwyddocâd aralledd i'r dychymyg a'r hunaniaeth Gymreig gyfoes, ac awgryma sut y gallai syniadau athronyddol eraill ein helpu i ganfod tir cyffredin rhwng dwy brif gymuned ieithyddol y genedl. Lisa Sheppard, 'Troi Dalen “Arall”: Ail-ddehongli'r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr “arall”', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 26-47.
Carwyn Jones a Neil Hennessy, 'Y Sgrym: Cyfiawnder a Chyfrifoldeb' (2017)
Pwrpas yr erthygl hon yw dangos bod rheolau sgrym Rygbi'r Undeb yn wallus. Mae annhegwch yn anorfod wrth geisio dehongli a gweithredu'r rheolau hyn. Gan fod y sgrym yn ddigwyddiad cydweithredol a chystadleuol sy'n gofyn am ystod o sgiliau a thechnegau cymhleth, mae'n amhosibl i ddyfarnwr benderfynu yn ddibynadwy pwy sydd yn gyfrifol am droseddu. O ganlyniad, mae chwaraewyr yn aml yn cael eu cosbi yn annheg. Gall y gosb fod yn dyngedfennol i ganlyniad y gêm. Nid y chwaraewyr a gosbwyd a achosodd y drosedd o reidrwydd, ac felly nid ydynt yn foesegol gyfrifol amdani. O dan rai amgylchiadau ni allant wrthsefyll y grymoedd sy'n gweithredu arnynt. Er mwyn datrys y sefyllfa rhaid ceisio cadw cydbwysedd rhwng gwella tegwch a thanseilio rhinweddau adloniadol y gêm. Carwyn Jones a Neil Hennessy, 'Y Sgrym: Cyfiawnder a Chyfrifoldeb', Gwerddon, 25, Hydref 2017, 70–85.
Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’?' (2016)
Dadleuir bod ymdriniaeth y diwinydd a'r athronydd canoloesol Johannes Duns Scotus o bynciau moesegol diriaethol, megis caethwasiaeth, etifeddiaeth a phriodas, yn arddangos nodweddion cyfraith ganoloesol y Cymry, ac y gellir egluro hyn ar sail agosrwydd y gyfraith honno at gyfraith yr Hen Ogledd. Ymhellach, dadleuir bod y tebygrwydd rhwng y cyfreithiau'n esbonio agweddau Duns Scotus at y pynciau hyn a'r defnydd a wna o ddamcaniaeth cyfraith naturiol ochr yn ochr â Llyfr Genesis i amddiffyn ei safbwynt. Cesglir taw ei fwriad oedd llunio dadansoddiad beirniadol o'r gyfraith naturiol a allai amddiffyn delfryd cyfreitheg yr Hen Ogledd yn erbyn gelyniaeth Eingl-Normanaidd. Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau “Cymreig”?' Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 48-65.
Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg' (2014)
Yn yr erthygl hon, edrychir ar gymdeithasiaeth, sef set o syniadau gwleidyddol a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG), sy'n codi o brofiad ymgyrchu'r gymdeithas. Prif amcan yr erthygl yw cloriannu cymdeithasiaeth, ac ystyrir y syniadaeth a'r berthynas rhwng y theori ac ymarfer gwleidyddol. Mae cymuned yn greiddiol i athroniaeth cymdeithasiaeth, ac yn yr erthygl hon ceisir ateb y cwestiwn; 'beth yw rôl cymuned a pherthnasedd gwleidyddol cymdeithasiaeth heddiw?' Dechreuir drwy edrych ar syniadaeth cymdeithasiaeth fel y datblygodd ochr yn ochr â phrofiad gweithredu CYIG. Yna edrychir ar y gymuned yng ngwleidyddiaeth Cymru fodern, ynghyd â natur a rôl datblygu cymunedol heddiw. Mae hyn yn gosod sail i'r drafodaeth sy'n dilyn ar gloriannu cymdeithasiaeth. Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 41-57.
Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori' (2016)
Yn yr erthygl hon disgrifir gwreiddiau a pheth o hanes y cyfnodolyn Efrydiau Athronyddol, a gyhoeddwyd rhwng 1938 ac 2006. Cyfnodolyn Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion oedd yr Efrydiau a chyflwynwyd y rhan fwyaf o'r erthyglau fel papurau yn ystod cynhadledd flynyddol yr Adran, cynhadledd sy'n parhau i gael ei chynnal hyd heddiw. Manylir ar natur a chynnwys rhifyn cyntaf y cyfnodolyn, yn ogystal â thynnu sylw at ei brif themâu. Dangosir hefyd sut y daeth newid sylweddol i'r Efrydiau yn 1949 yn sgil penderfyniad allweddol gan aelodau'r Adran. Trodd yr Efrydiau o fod yn gyfnodolyn oedd yn trafod athroniaeth yn unig i fod yn gyfnodolyn lled ryngddisgyblaethol. Wedi'r newid hwnnw, cyhoeddwyd erthyglau ar sawl pwnc ynddo, ond fel arfer â ffocws arbennig ar faterion Cymreig. Yn ail hanner yr erthygl, trafodir papur dylanwadol a phwysig (y cyfraniad pwysicaf yn holl hanes y cyfnodolyn, efallai), sef 'Y syniad o genedl' gan yr Athro J. R. Jones. Fe'i cyhoeddwyd y flwyddyn cyn darlledu 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis, ac yma dadansoddir ei brif ddadleuon. Enghreifftir popeth sy'n bwysig am yr Efrydiau gan yr erthygl: defnyddir dull athronyddol o ddadansoddi, ond mae'n rhyngddisgyblaethol hefyd gan ei bod yn defnyddio elfennau o farddoniaeth a hanes. Mae'n erthygl wleidyddol a dylanwadol, ac yn sgil hynny disgrifiwyd Jones gan yr Athro D. Z. Phillips fel ysbrydoliaeth athronyddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â bod yn ddylanwad pwysig ar Saunders Lewis. Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 13-25.
Cyflwyniadau Astudiaethau Crefyddol/Athroniaeth (bl. 11-13)
Casgliad o gyflwyniadau PowerPoint yn ymwneud ag agweddau ar faes llafur Safon UG/Uwch Astudiaethau Crefyddol. Gan Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor.
Gweithdai Mathemateg ac Athroniaeth
Mae'r adnodd hwn yn deillio o grant bach a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol i Brifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd cynyddu diddordeb yn y cwrs gradd Mathemateg ac Athroniaeth. Fel rhan o'r prosiect, cynhaliwyd cyfres o weithdai mewn ysgolion. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau ymarferol sy'n deillio o'r ddau weithdy cyntaf, sef Cysyniadau Elfennol yn Athroniaeth a Mathemateg a Deall Rhifau a'u Rhan. Mae'r cwestiynau wedi'u hanelu at y rhai sy'n astudio tuag at Safon Uwch mewn Mathemateg.
Y Meddwl Modern: Weber – Ellis Roberts
Cydnabyddir Max Weber yn un o bennaf sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Mae'r gyfrol hon yn ei leoli yn nhraddodiad cymdeithaseg ac yn amlinellu rhai o'i brif gyfraniadau: ei syniad am 'verstehen' neu 'ddychymyg cymdeithasegol', ei ran yn y drafodaeth fawr ynghylch perthynas cyfalafiaeth â'r grefydd Brotestannaidd, a'i 'deipiau ideal' neu ddiffiniadau o hanfodion cyfundrefnau arbennig.
Y Meddwl Modern: Marx – Howard Williams
Darlun o fywyd Karl Marx: ei syniadau, gwreiddiau ei athroniaeth a'i ddylwanwad ar y byd.
Y Meddwl Modern: Durkheim – Huw Morris Jones
Emile Dukheim oedd y cyntaf erioed i ddal cadair brifysgol mewn cymdeithaseg, a deil ei syniadau'n sylfaenol bwysig i bawb a fyn ddeall gwreiddiau'r pwnc. Mabwysiadodd y ddelwedd o gymdeiths fel organeb, a phob aelod ohoni â'i swyddogaeth neilltuol i'w chyflawni er mwyn sicrhau lles y corff cyfan. Ymhlith ei syniadau y mae ei ddadansoddiad o wreiddiau cymdeithasol crefydd, yn arbennig yr awgrym mai 'addoli'r gymdeithas' a wneir mewn unrhyw addoliad crefyddol; ei bwyslais ar yr hyn a alwai yn 'anomi' fel gwreiddyn anghydfod ac aflonyddwch ym mywyd unigolyn a chymdeithas; a'i astudiaeth wreiddiol a phwysig o hunanladdiad fel ffenomen gymdeithasol. Gwelir ei ddylanwad mewn meysydd mor wahanol â throseddeg ar y naill law a beirniadaeth lenyddol ar y llall.
Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol – Karl Marx a Frederick Engels
Cyfieithiad Cymraeg o Faniffesto'r Blaid Gomiwnyddol (Manifest der Kommunistischen Partei). Cyhoeddwyd y cyfieithiad gwreiddiol yn 1948 i ddathlu canmlwyddiant y Maniffesto. Seiliodd W. J. Rees ei gyfieithiad ar y pedwerydd argraffiad Almaeneg (1890). Aethpwyd ati i gyhoeddi cyfieithiad diwygiedig yn 2008 a dyna'r fersiwn a geir yma, ynghyd â rhagair gwreiddiol cyhoeddiad 1948, rhagymadrodd 2008 gan Robert Griffiths a rhagair newydd i'r cyhoeddiad digidol gan Howard Williams.