Bwriad y ddau becyn yma yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwyno’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecynau o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous.
Bagloriaeth Cymru
Cefnogi Pob Plentyn (gol. Nanna Ryder)
Nod y gyfrol hon yw cyflwyno rhai pynciau perthnasol mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig i fyfyrwyr sydd yn astudio Graddau Sylfaen yn y maes addysg a gofal. Nid canllaw arfer dda a geir yma ond yn hytrach fraslun o bolisïau, athroniaeth ac ymarfer cyfredol. Caiff pynciau penodol eu trafod ym mhob pennod ac mae’r rhain yn amrywio o ddatblygiad, hawliau, lles a diogelu plant i gynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a chwarae a chreadigrwydd.
Gloywi Iaith
Cyfres o adnoddau hylaw i loywi iaith ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon. Gall y deunydd gael ei ddefnyddio gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol i wirio adnoddau a chynlluniau gwersi.
Sgiliau Iaith i Athrawon
Mae'r adnodd rhyngweithiol hwn yn cynnwys cyfres o adnoddau a ddatblygwyd i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith ar gyfer y dosbarth.
Mae'r adnoddau i'w cael yn llawn ar-lein, neu gellir lawrlwytho'r ap i'ch dyfais symudol er mwyn cael blas arnynt.