Ychwanegwyd: 13/05/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 2.1K Cymraeg Yn Unig

Cynhadledd Iaith a Busnes

Disgrifiad

Cynhadledd ar Farchnata, Busnes ac ieithoedd lleiafrifol

Cynhadledd ar gyfer darlithwyr, myfyrwyr a gweithwyr ym maes marchnata a'r Gymraeg ar 24 Mehefin 2022 ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian, Abertawe SA1 8EN.
Bydd y gynhadledd yn cyflwyno a thrafod ymchwil sydd yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â’r Gymraeg ac ieithoedd eraill, megis Llydaweg, Gwyddeleg, neu Fasgeg, a maes Busnes.
Mynediad a lluniaeth am ddim. Cofrestrwch i fynychu. Croeso i bawb. Mae'r gynhadledd yn y Gymraeg - does dim cyfieithu ar y pryd. Manylion pellach: s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk
 

Amserlen

10:00 - Coffi / Ymgynnull

10:30 - Croeso gan Yr Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe

10:45 - Siaradwr gwadd: Mari Stevens, Prif Swyddog Marchnata, Ogi: Hunaniaith: rôl y Gymraeg wrth farchnata yng Nghymru – ac ar draws y byd

11:15 - Sesiwn 1

Ieithoedd Lleiafrifol a Marchnata Lle (Cadeirydd: Llŷr Roberts)

  • Cyfraniad Ieithoedd Lleiafrifol at greu Brand Unigryw wrth Farchnata Lle - Rhydian Harry (Prifysgol Abertawe)
  • Pop Up Gaeltacht: adfywio dinesig ac ieithyddol? - Dr Osian Elias (Prifysgol Abertawe)
  • Gwnaed yn Llydaw: Brand rhanbarthol. Model i Gymru? - Dr Robert Bowen (Prifysgol Abertawe/Caerdydd)

12:30 - Cinio (Ystafell GH014)

13:15: Siaradwr gwadd: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr, Canolfan Uwchefrydiad Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: Gwersi Basgeg - Cymharu Cymru a Gwlad y Basg

13:45 - Sesiwn 2

Y Cyd-destun Cymreig (Cadeirydd: Dr Robert Bowen)

  • Dylanwad polisïau, gweithgareddau a thueddiadau economaidd ar y Gymraeg - Elen Bonner (Prifysgol Bangor)
  • Cyflwyniad i Farchnata: datblygu gwerslyfr Cymreig yn ogystal â Chymraeg - Llŷr Roberts (Prifysgol De Cymru)
  • Defnyddio cwmnïau Cymreig ar gyfer dysgu dulliau ymchwil a sgiliau ymarferol i fyfyrwyr busnes Cymraeg a rhyngwladol - Yr Athro Eleri Rosier (Prifysgol Caerdydd) a Dr Rhian Thomas (Prifysgol De Cymru)

15:00 - Panel Trafod (Cadeirydd: Yr Athro Eleri Rosier)

15:30 - Gorffen 

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Astudiaethau Busnes
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
mân lun cynhadledd busnes

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.