Ychwanegwyd: 30/06/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.8K Cymraeg Yn Unig

Ysgol Haf Cymraeg Ail Iaith 2021 (Rhowch Gynnig Arni!)

Disgrifiad

Gweithgareddau a sesiynau amrywiol ar-lein ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 sy’n astudio Cymraeg Ail Iaith.

Ymunwch â ni'n rhithiol fel dosbarth brynhawn dydd Iau, 8 Gorffennaf rhwng 12.45 - 3pm.

Sesiynau'n cynnwys:

  • Cwis creadigol yng nghwmni'r bardd Aneirin Karadog: Cwis creadigol lle does dim ateb cywir nac anghywir, dim ond yr ateb sy’n plesio’r beirniad, sef Aneirin! Cyfle i weithio fel timau ar dasgau sy’n herio eich gallu i odli, cymharu a disgleirio gyda chreadigrwydd yn eich iaith! 
  • Sesiwn Holi Byw yn Gymraeg yng nghwmni tri o bobl ifanc sy'n defnyddio'r iaith bob dydd mewn amrywiol ffyrdd - Bronwen Lewis, Nick Yeo a Francesca Sciarrillo
  • Cân neu ddwy gan Bronwen Lewis, y gantores a'r gyfansoddwraig dalentog sydd wedi bod yn defnyddio llwyfan TikTok i rannu cyfieithiadau Cymraeg o ganeuon enwog dros y misoedd diwethaf
  • Cyfle i baratoi ar gyfer Blwyddyn 13 mewn sesiwn ysgafn gan Dr Angharad Naylor, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
  • Cyflwyniad byr i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 

Mae dolen i'r ffurflen gofrestru isod. Am fwy o wybodaeth neu unrhyw ymholiad, cysylltwch â Ffion, Swyddog Hyrwyddo'r Gymraeg fel Pwnc y Coleg: ff.owen@colegcymraeg.ac.uk

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymraeg
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Mân Lun Ysgol Haf

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.