Dyma weithdy byr sy’n dangos sut mae mynd ati i ddefnyddio PowerPoint i recordio troslais a llun fideo ar gyfer cyflwyniadau a sesiynau hyfforddi.
Tiwtorial recordio Powerpoint â throslais
Theatr a’r Genedl 2013/14
Dyma recordiadau sain o gynhadledd gydweithredol Astudiaethau Theatr a Drama 2013/14. Cynhaliwyd y gynhadledd ym mis Ionawr 2014 yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sgriptio teledu
Y sgriptwyr proffesiynol, Roger Williams a Kirsty Jones, sydd wedi cyfrannu i gyfresi teledu megis Caerdydd, Gwaith Cartref, Zanzibar, Rownd a Rownd yn ogystal â'r operâu sebon Eastenders, Pobol y Cwm a Hollyoaks, yn rhoi cyflwyniad anffurfiol i'r broses o lunio sgript ar gyfer y teledu fel cyfrwng gan gyfeirio'n uniongyrchol at enghreifftiau o'i waith. 23 a 30 Hydref 2012, Prifysgol Bangor.
Gweithdai Seicoleg Chwaraeon
Cyfres o ddeg gweithdy ar seicoleg chwaraeon ar gyfer hyfforddwyr. Cafodd y gweithdai eu creu gan Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor fel rhan o brosiect a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Gweithdy newid hinsawdd
Mae'r pecyn deunyddiau yma yn cynnwys deunydd sydd yn cyflwyno ac yn cefnogi sesiwn chwarae rôl sydd yn ysgogi trafodaeth am ymateb y ddynoliaeth i newid hinsawdd. Mae'r deunydd yn sail i ffug-ddadl y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd lle mae grŵp o fyfyrwyr yn chwarae rhan gwlad neu gr?p penodol o wledydd. Mae'r adnoddau yn cynnwys disgrifiad o'r dasg, gwahanol ffyrdd o negydu ymatebion lliniaru, ymaddasu a llywodraethu, yn ogystal â phecynnau gwybodaeth am bob gwlad/gr?p o wledydd. Mae cyflwyniad Powerpoint byr hefyd ar gael er mwyn cyflwyno a strwythuro'r gweithdai. Mae'r deunyddiau yn ddelfrydol ar gyfer cynnal sesiynau gyda myfyrwyr chweched dosbarth er mwyn arddangos cymhlethdodau cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol newid hinsawdd. Datblygwyd y deunyddiau gan Dr Hywel Griffiths a Dr Rhys Dafydd Jones, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth. Cliciwch ar 'Cyfryngau Cysylltiedig' uchod i lawrlwytho'r holl ddogfennau yn y ..
Gŵyl MAP 2014 a 2015
Mae Gŵyl MAP yn cyfuno dosbarthiadau meistr gyda chyfle i ddangos a thrafod gwaith theatr o bob math. Trefnir yr ŵyl gan Brifysgol De Cymru o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir yn y casgliad yma gyfres o gyfweliadau gyda ymarferwyr theatr a fu'n arwain dosbarthiadau meistr yng Ngŵyl MAP 2014 a 2015. Cynhaliwyd Gŵyl MAP 2014 yn Aberystwyth a Gŵyl MAP 2015 yng Nghaerdydd.
Doctoriaid Yfory 2019
Sefydlwyd cynllun Doctoriaid Yfory mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ynghyd ag Ysgol Feddygol Caerdydd ac Ysgol Feddygol Abertawe gyda’r nod o gynyddu nifer y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n ymgeisio’n llwyddiannus ar gyfer llefydd ar gyrsiau meddygol yng Nghymru. Yn yr categori hwn, gellir darganfod cyflwyniadau ac adnoddau sy’n gysylltiedig â’r cynllun.
Eitha different yndyn nhw...but it works'
Cynhaliwyd cyfres o weithdai ym Mhrifysgol Caerdydd ar 27 Ionawr 2017 i drafod dwyieithrwydd a’r broses greadigol, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Llenyddiaeth Cymru. Yn ogystal â gweithdy difyr ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae dwyieithrwydd yn eu cynnig i awduron, beirniaid, cyhoeddwyr/cynhyrchwyr, a chyfranogwyr eraill i’r broses ysgrifennu, cafwyd cyfweliadau diddorol gydag Ed Thomas a Llwyd Owen, a thrafodaeth ford gron ddadlennol gyda Tony Bianchi, Catrin Dafydd, Alun Saunders a Branwen Davies.
Gweithdy Prezi gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r meddalwedd cyflwyno Prezi. Beth yw Prezi? Prezi yw meddalwedd cyflwyno sydd yn ymgysylltu gyda myfyrwyr yn y dosbarth. Mae’n ddull arloesol o gyflwyno gwahanol bynciau trwy ddefnyddio symudiad a gofod i ddod â’ch syniadau yn fyw, a’ch gwneud yn gyflwynydd unigryw. Cynnwys y sesiwn Beth yw Prezi? Rhagflas Prezi Hyfforddiant Prezi Manteision Prezi
Gweithdy Socrative gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r ap Socrative gyda’ch myfyrwyr yn y dosbarth, mewn darlith neu seminar. Beth yw Socrative? Yr ap angenrheidiol mewn dosbarth ar gyfer hwyl, ymgysylltiad effeithiol ac asesu ar gyfer dysgu. Cynnwys y sesiwn Beth yw Socrative? Rhagflas Socrative Hyfforddiant Socrative Manteision Socrative
Chwe Cham i Ddoethuriaeth Lwyddiannus gan Dr Leila Griffiths
Mae’r adnodd hwn wedi’i anelu at y sawl sy’n newydd i astudiaethau ôl-raddedig ac mae’n canolbwyntio ar ddysgu gweithredol, cyfeirnodi a datblygu sgiliau ymchwilio, meddwl, darllen ac ysgrifennu beirniadol. Mae'n cynnwys cyfres o weithdai byrion (15 munud o hyd) yn cylchdroi o amgylch ‘Cwblhau traethodau hir yn effeithiol’
Gweithdy Doctoriaid Yfory 2020
Adnodd ar gyfer aelodau o gynllun Doctoriaid Yfory 3. Mae’n trafod awgrymiadau ar gyfer sicrhau profiad gwaith yn y maes iechyd a gofal. Mae hefyd yn trafod beth i'w gynnwys yn y datganiad personol. Cyflwyniad ydyw gan Sara Whittam o Brifysgol Caerdydd.