Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd tipyn o sylw i brofiadau carfannau lleiafrifol sy'n cael eu gwthio i'r ymylon mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, prin yw'r sylw a roddir i garfannau crefyddol mewn rhanbarthau gwledig. Y mae'r prinder sylw hwn yn syndod o ystyried y sylw a roddir i grefydd mewn materion yn ymwneud ag amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth gynhwysol. Trafoda'r erthygl hon brofiadau un garfan grefyddol leiafrifol benodol, sef y Mwslemiaid, yng ngorllewin Cymru wledig. Canolbwyntia'r erthygl ar brofiadau o absenoldeb o'r tirlun (h.y. y dirwedd ffisegol a'r delweddau a gwerthoedd ehangach sy'n cyfleu syniadau am leoedd), sy'n medru creu anawsterau o ran hwyluso ymdeimlad o gymuned. Yn ogystal, edrychir ar y modd yr ystyria Mwslemiaid lleol y rhanbarth fel un moesol a Christnogol. Awgryma'r papur bod y profiadau hyn yn troesesgyn syniadau o 'eithrio' a 'pherthyn', ac yn tystio i berthynas gymhleth rhwng Mwslemiaid lleol a'r rhanbarth gwledig hwn. Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 9-27.
Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn' (2015)
Robert Ieuan Palmer, Kathleen Withers, Amanda Willacott a Grace Carolan-Rees, Gwella gwasanaethau gofal iechyd...
Golyga pwysau ar Wasanaeth Iechyd Genedlaethol (GIG) Cymru fod angen ffyrdd newydd o ddarparu safonau uchel o ofal gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael. Un dull yw gweithio’n agosach â chleifion, gan gasglu Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Outcome Measures (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (Patient Reported Experience Measures) (PREMs). Gobeithir y bydd casglu data o’r fath yn helpu wrth geisio darparu gofal iechyd darbodus. Rhy’r erthygl hon arolwg o ddatblygu’r system gasglu genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Casglodd y system 66,000 PROMs a PREMs gan 25,000 claf dros dair blynedd, a dengys defnydd cynnar o’r data hyn y potensial i wella gwasanaethau. Y bwriad hir-dymor yw gwneud casglu data o’r fath yn rhan reolaidd o ofal iechyd eilaidd yng Nghymru.
Craig Owen Jones, 'Ar y brig unwaith eto': siartiau pop iaith Gymraeg cynnar' (2013)'
Mae'r erthygl hon yn cynnwys dadansoddiad o siartiau tri phapur newydd yn ystod y flwyddyn 1972, yn canolbwyntio ar batrymau rhanbarthol a chenedlaethol, a hefyd ar berfformiad recordiau roc yn y siartiau. Dadlennir bod y siartiau o werth fel dangosydd gwerthiant tebyg, ond hefyd oherwydd eu statws fel cyfrwng i'r cyhoedd gymryd rhan yn y byd pop Cymraeg. Craig Owen Jones, ''Ar y brig unwaith eto': siartiau pop iaith Gymraeg cynnar', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 29-45.
Rôl ataliad mewn dwyieithrwydd
Mae'r prosiect yma yn anelu at edrych ar sut mae pobl ddwyieithog (sy'n rhugl neu yn datblygu eu Cymraeg) yn cael gafael ar ac yn defnyddio pob un o'u hieithoedd. Ar ben hynny, bydd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng y ddwy iaith ac, yn benodol, sut mae cael ail iaith (Cymraeg) yn dylanwadu ar berfformiad yn eu hiaith gyntaf (Saesneg). Mae hyn yn bwysig nid yn unig achos bydd yn rhoi mewnwelediad i rôl ataliad mewn prosesu iaith ddwyieithog, ond bydd hefyd yn taflu golau ar sut mae siaradwyr Cymraeg yn dysgu'r iaith ac integreiddio i mewn i'r geiriadur meddwl mewnol, a allai, yn ei dro, yn arwain at strategaethau addysgol a all gynyddu effeithlonrwydd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i archwilio rôl ataliad mewn pobl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg a'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith a disgwylir iddo fod yr astudiaeth gyntaf mewn rhaglen ymchwil barhaus. Ariannwyd y gwaith gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg
Craig Owen Jones, 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a'...
Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg manwl ar y berthynas rhwng ymgyrchu iaith y 1960au a'r 1970au, a bathu termau newydd yn y byd pop Cymraeg. Canolbwyntir ar geisiadau i addasu'r Gymraeg i amgylchiadau cerddoriaeth boblogaidd y cyfnod hwn, ac eir ati i archwilio canlyniadau ideolegol y strategaethau bathu termau amrywiol a ddefnyddiwyd gan ysgrifenwyr. Craig O. Jones, 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a'r 1970au', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 10-27.
Rowan O'Neill, 'Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis' (2014)
Ym 1987, gweithiai'r artist a chyfarwyddwr theatr, Cliff McLucas, fel artist preswyl yn Ysgol Gyfun Ddwyieithog Dyffryn Teifi ar brosiect o'r enw 'Preswyliad Cyfryngau Dyfed'. Fel rhan o'i waith yn yr ysgol, creodd gyfres o bortreadau o'r athrawon gan ddefnyddio techneg gludwaith ffotograffiaeth. Yn rhan o'r gyfres hon o luniau, ceir llun o athro Saesneg yr ysgol ar y pryd; y gwleidydd a'r ymgyrchydd iaith, Cynog Dafis. Yn yr erthygl hon, cynigir darlleniad craff o bortread McLucas o Dafis trwy edrych ar yrfa wleidyddol Dafis yng nghyd-destun bywyd McLucas ei hun. Symudodd McLucas o'r Alban i Dregroes, Ceredigion, ym 1973. Ar yr un adeg, aeth ati i ddysgu'r Gymraeg. Trafodir portread McLucas fel ymateb hunanymwybodol i'w bresenoldeb ef ei hun fel mewnfudwr i Geredigion, a hynny wrth wynebu Cynog Dafis (aelod o elite deallusol ei ddiwylliant mabwysiedig). Wrth wneud hynny, awgrymir perthynas rhwng portread McLucas o Dafis a llun enwog Sidney Curnow Vosper o 1908, 'Salem'. Ar ddiwedd yr erthygl, ceir ôl-nodyn sy'n cysylltu'r drafodaeth ar McLucas a'i bortread o Dafis ag agweddau ar y drafodaeth gyfoes ar fewnfudo ac allfudo yn ardaloedd gwledig Cymru. Rowan O'Neill, 'Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 23-40.
Craig Owen Jones, 'Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg' (2016)
Ers dyfodiad y papurau bro yn y 1970au, mae cannoedd o erthyglau ar gerddoriaeth roc wedi ymddangos yn eu tudalennau, yn rhoi cyhoeddusrwydd i fandiau roc lleol, gigiau, recordiau newydd, ac ati. Fodd bynnag, ni dderbyniodd y rhain unrhyw sylw academaidd. Mae'r erthygl bresennol yn ymdrin â natur a dylanwad y casgliad di-sôn-amdano hwn o ffynonellau, yn awgrymu bod y deunydd hwn yn taflu golau ar weithgareddau yn y byd cerddorol ar lefel rhanbarthol a lleol, a hefyd bod cywair yr ysgrifau yn datgelu rhywbeth am agenda'r cyfranwyr. Dangosir bod pwyslais ar gyfiawnhau nid bodolaeth ond gwerth diwylliannol cerddoriaeth roc Gymraeg ar ran y genhedlaeth hÅ·n yn dylanwadu ar ymatebion ysgrifenwyr ifainc a chefnogwyr y byd pop i'r perwyl hwnnw. Craig Owen Jones, 'Papurau bro cynnar gogledd Cymru a cherddoriaeth roc Gymraeg', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 11–30.
S. Eleri Pryse et al., 'Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd' (2007)
Mae'r papur yn ymchwilio i strwythur ac ymddygiad yr atmosffer wedi'i ïoneiddio (trydanol) yn y nos yn yr ardaloedd pegynol ac awroraid; sef yr ardal lle y mae goleuni'r Gogledd yn digwydd. O ddiddordeb arbennig y mae strwythurau plasma ar raddfeydd llorweddol o gannoedd o gilometrau. Cafodd yr arsylwadau a gyflwynir eu gwneud gan arbrawf radiotomograffeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, y mae ganddi bedair system derbyn lloeren yn yr Arctig uchel ger pegwn y gogledd, yn Ny Ålesund a Longyearbyen ar Svalbard, Bjørnøya (Ynys yr Arth) a Tromsø ar dir mawr Norwy. Mae cymariaethau rhwng delweddau tomograffeg ac arsylwadau ar lif plasma gan y radar rhyngwladol, SuperDARN, yn awgrymu bod plasma dwysedd mawr a gynhyrchir ar ochr y dydd yn llifo ar draws yr ardal begynol ac i sector y nos. Mae'r canlyniadau yn cyfrannu at y gwaith o ddehongli prosesau ffisegol sy'n cysylltu amgylchedd y Ddaear â'r gofod, ac maent hefyd o ddiddordeb i ddefnyddwyr systemau radio lle gall yr atmosffer wedi'i ïoneiddio ddirywio ymlediad y signalau. S. Eleri Pryse, Helen R. Middleton ac Alan G. Wood, 'Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd: Arsylwadau tomograffi radio a SuperDARN', Gwerddon, 2, Hydref 2007, 35-50.
Sally Baker et al., 'Trafodaeth feirniadol o gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth at addysg gwaith cymdeithasol yng...
Mae'r erthygl hon yn adrodd canfyddiadau gwaith cychwynnol a wnaed i asesu cyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at addysg gwaith cymdeithasol mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru ac mae'n trafod yn feirniadol gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at addysg gwaith cymdeithasol. Mae swyddogaeth defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr yn y cyd-destun hwn yn parhau i fod yn amwys. Awgrymwn y caiff hyn ei adlewyrchu yn sylwadau'r defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr, sy'n adrodd yn aml am werth eu cyfraniad at addysg gwaith cymdeithasol yn nhermau'r manteision personol – therapiwtig yn aml – iddynt hwy o gymryd rhan. Mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn frwdfrydig am gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr at eu haddysg, ac yn credu ei fod yn werthfawr, ond roedd ganddynt syniadau amrywiol am sut a beth y gallai ac y dylai'r defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr ei gyfrannu. Sally Baker, Hefin Gwilym, a Brian J. Brown, 'Trafodaeth feirniadol o gyfraniad defnyddwyr gwasanaeth at addysg gwaith cymdeithasol yng Nghymru', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 28-44.
Sara Borda Green, Astudiaeth achos: effaith y cyfryngau digidol ar gynnwys a swyddogaeth O’r Pedwar Gwynt ac Y...
Mae’r erthygl hon yn edrych ar ddylanwad y cyfryngau digidol ar y maes llenyddol Cymraeg cyfoes wrth ddisgrifio a chymharu dau gylchgrawn llenyddol sy’n cyfuno elfennau printiedig a digidol. Lansiwyd O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp yn ystod 2016, a bellach dyma’r unig ddau gyhoeddiad llenyddol yn y Gymraeg sydd â phresenoldeb cyson ar bapur ac ar-lein. Trwy eu dadansoddi caiff syniadau traddodiadol ynglyˆn â’r broses cynhyrchu llenyddol eu herio, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â natur y gwrthrych llenyddol a rôl y cynhyrchwyr (golygyddion ac awduron) a’r derbynwyr (darllenwyr). Gan ddefnyddio cysyniadau sydd â’u gwreiddiau yn astudiaethau’r cyfryngau (Marshall McLuhan) a theori meysydd cymdeithasol (Pierre Bourdieu), rhoddir pwyslais ar bosibiliadau prosiectau sy’n cyfuno nodweddion cyfryngau a chynhyrchion llenyddol.
Cronfa Cyfieithiadau'r Gymraeg
Yn anffodus, nid yw'r gronfa ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio ar ddatrysiad er mwyn cael y wefan yn fyw cyn gynted â phosib. Mae'r gronfa yn gatalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ym meysydd y dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol. Detholwyd yn bennaf o blith testunau rhyddiaith a drama all fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil a dysgu ar lefel addysg uwch. Mewn ambell achos y mae cofnod yn arwain at y testun llawn ar-lein.
Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru – gol. Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas
Cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol. Tros 500 o gofnodion yn amrywio o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gyfoes, o gantorion gwerin i gerddorfeydd. Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyhoeddir Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru ar ffurf llyfr clawr caled gan wasg Y Lolfa, Talybont gyda chefnogaeth a chymorth ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r holl gynnwys hefyd ar gael ar Esboniadur Cerddoriaeth Cymru, sef adnodd agored ar-lein gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.