Yn anffodus, nid yw'r gronfa ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio ar ddatrysiad er mwyn cael y wefan yn fyw cyn gynted â phosib. Mae'r gronfa yn gatalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ym meysydd y dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol. Detholwyd yn bennaf o blith testunau rhyddiaith a drama all fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil a dysgu ar lefel addysg uwch. Mewn ambell achos y mae cofnod yn arwain at y testun llawn ar-lein.
Cronfa Cyfieithiadau'r Gymraeg
Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru – gol. Pwyll ap Siôn a Wyn Thomas
Cyfeirlyfr awdurdodol sydd yn cwmpasu holl gyfoeth cerddoriaeth yng Nghymru o’r 6ed Ganrif hyd at y presennol. Tros 500 o gofnodion yn amrywio o gerddoriaeth gynnar i gerddoriaeth gyfoes, o gantorion gwerin i gerddorfeydd. Ffrwyth prosiect cydweithredol rhwng Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw’r Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru. Cyhoeddir Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru ar ffurf llyfr clawr caled gan wasg Y Lolfa, Talybont gyda chefnogaeth a chymorth ariannol Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r holl gynnwys hefyd ar gael ar Esboniadur Cerddoriaeth Cymru, sef adnodd agored ar-lein gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyflogadwyedd ym maes Gwleidyddiaeth
Dyma adroddiad ar safbwyntiau cyflogwyr ar sgiliau graddedigion ac anghenion sgiliau ym maes gwleidyddiaeth yng Nghymru, gyda sylw penodol i sgiliau iaith Gymraeg. Yr awdur yw Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth. Mae'r adroddiad cynnig argymhellion o ran cyflogadwyedd a'r Gymraeg, ar gyfer addysgu gwleidyddiaeth a phynciau perthnasol, ac i fyfyrwyr ar sut i wella eu cyflogadwyedd.
Cyflwyniad i Ecoleg Afiechydon
Mae afiechydon yn medru creu pwysau detholus cryf ar amryw o rywogaethau, gan gynnwys anifeiliaid gwyllt a domestig. Yn y cyflwyniad hwn i faes ecoleg afiechydon, mae Dr Gethin Thomas o Brifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng moch daear, gwartheg a'r diciau i esbonio sut mae'r rhyngweithiad rhwng anifeiliaid a'u pathogenau yn faes diddorol a cyfoes.
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Mae'r Athro Gareth Williams yn hanesydd disglair, yn arbenigo ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae bellach yn Athro Emeritws Prifysgol De Cymru. Yma, mewn darlith a draddododd ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill 2013, mae'n trafod pa ysgrifau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Seiriol Dafydd, 'Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes Geschichte der Freundschaft (2010)' (2013)
Mae'r erthygl hon yn dadansoddi'r modd y mae Michael Roes yn ailddiffinio cyfeillgarwch yn ei nofel Geschichte der Freundschaft (Hanes Cyfeillgarwch) drwy ddefnyddio testunau llenorion ac athronwyr eraill. Ar ôl gosod nofel Roes yn ei chyd-destun hanesyddol a diwylliannol, bydd yr erthygl yn cymharu Geschichte der Freundschaft â nofel Tahar Ben Jelloun, Partir / Leaving Tangier (2006). Mae rhan olaf yr erthygl yn dadansoddi defnydd Roes o ryngdestunau sy'n ymwneud â chyfeillgarwch rhwng dynion. Canolbwyntir ar ddefnydd Roes o elfennau a fenthycodd o destunau Friedrich Nietzsche a Michel Foucault, er mwyn yn taflu goleuni ar ymdriniaeth Roes ar thema ganolog y nofel, sef cyfeillgarwch rhwng dynion, a natur perthynas gyfunrywiol. Seiriol Dafydd, 'Ailddiffinio cyfeillgarwch yn nofel Michael Roes Geschichte der Freundschaft (2010)', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 25-40.
Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg' (2014)
Yn yr erthygl hon, edrychir ar gymdeithasiaeth, sef set o syniadau gwleidyddol a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG), sy'n codi o brofiad ymgyrchu'r gymdeithas. Prif amcan yr erthygl yw cloriannu cymdeithasiaeth, ac ystyrir y syniadaeth a'r berthynas rhwng y theori ac ymarfer gwleidyddol. Mae cymuned yn greiddiol i athroniaeth cymdeithasiaeth, ac yn yr erthygl hon ceisir ateb y cwestiwn; 'beth yw rôl cymuned a pherthnasedd gwleidyddol cymdeithasiaeth heddiw?' Dechreuir drwy edrych ar syniadaeth cymdeithasiaeth fel y datblygodd ochr yn ochr â phrofiad gweithredu CYIG. Yna edrychir ar y gymuned yng ngwleidyddiaeth Cymru fodern, ynghyd â natur a rôl datblygu cymunedol heddiw. Mae hyn yn gosod sail i'r drafodaeth sy'n dilyn ar gloriannu cymdeithasiaeth. Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 41-57.
Cyfraith Hywel Dda
Dyma'r man cychwyn ar gyfer darganfod mwy am Gyfraith Hywel neu system gyfreithiol Cymru yn yr oesoedd canol. Ariannwyd datblygiad y wefan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Sgiliau astudio - Gwaith Ysgrifenedig
Casgliad o glipiau fideo i helpu myfyrwyr i weithio'n effeithiol ac i gyflwyno gwaith ysgrifenedig da.
Sharon Huws et al., 'Sicrhau argaeledd cynnyrch cilgnowyr o'r ansawdd gorau mewn modd effeithlon' (2013)
Dengys ystadegau Llywodraeth Prydain y bydd prinder cig a llaeth erbyn 2050 ar lefel byd-eang. Felly mae sicrhau diogelwch llaeth a chig i'r dyfodol, yn nhermau argaeledd a maeth, yn hollbwysig. Yn ganolog i sicrhau argaeledd a maeth llaeth a chig y mae'r cilgnowyr. Mae gan gilgnowyr bedair siambr i'w stumog, sef y reticwlwm, y rwmen, yr abomaswm a'r omaswm ac mae'r eplesu microbaidd sy'n digwydd yn y rwmen yn diffinio rhan helaeth o dwf yr anifail, ansawdd y cynnyrch a swm yr allyriadau nwyon tÅ· gwydr. Wrth i borthiant gyrraedd y rwmen mae micro-organebau'r rwmen yn diraddio wal y planhigyn ac yn metaboleiddio'r maetholion yng nghelloedd y planhigyn, gan gynnwys asidau amino a phroteinau i greu proteinau unigryw. I sicrhau argaeledd llaeth a chig o'r ansawdd gorau (gyda chyn lleied a phosibl o allyriadau nwyon tÅ· gwydr) yn y dyfodol, mae'n gwbl angenrheidiol ein bod yn gwella ein dealltwriaeth o'r adwaith rhwng y planhigyn a'r micro-organebau, a hynny trwy ddefnyddio egwyddorion bioleg systemau a thechnoleg 'omeg'. Sharon Huws, Gareth W. Grifï¬th, Joan E. Edwards, Heï¬n W. Williams, Penri James, Iwan G. Owen ac Alison H. Kingston-Smith, 'Sicrhau argaeledd cynnyrch cilgnowyr o'r ansawdd gorau mewn modd effeithlon', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 10-28.
Siân Edwards, 'Egwyddor a phropaganda: cyfundrefn Franco a Chôr y Rhos' (2013)
Mae'r erthygl hon yn dadansoddi ymweliad i Sbaen y Cadfridog Franco gan Gôr y Rhos, ar wahoddiad un o fudiadau Franco Educación y Descanso (Addysg a Hamdden). Yn y lle cyntaf, bu tipyn o drafod yn y wasg yn lleol am egwyddorion teithio i wlad a oedd, bryd hynny, wedi ei heithrio o'r gymuned ryngwladol. Hanai'r côr o ardal a oedd wedi gweld ymwneud â'r brigadau rhyngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac a oedd hefyd, drwy gydddigwyddiad, ynghlwm wrth sefydlu g?yl ddiwylliannol ryngwladol yn enw heddwch a dealltwriaeth. Mae'r erthygl yn ymchwilio i hanes y daith i Sbaen, i'r ddelwedd a gyflwynir o gyfundrefn Franco, ac mae'n gofyn i ba raddau y defnyddiwyd y daith gan Franco fel propaganda wrth i'w bolisi tramor newid gyda dyfodiad y Rhyfel Oer. Siân Edwards, 'Egwyddor a phropaganda: cyfundrefn Franco a Chôr y Rhos', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 60-78.
Siân Wyn Siencyn, 'Darpariaeth Gymraeg i blant ifanc: hanes a heriau datblygiad addysg feithrin yng Nghymru' (...
Bu datblygiad addysg feithrin Cymraeg yn stori o lwyddiant arbennig dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2000, gwelwyd Cymru’n symud ymhellach yn ei dyheadau ar gyfer ei phlant ifanc. Un o flaenoriaethau cyntaf y Llywodraeth Gymreig gyntaf oedd y Cyfnod Sylfaen gyda’i hymagweddiad radical. Bydd y papur hwn yn ymdrin â datblygiad addysg feithrin yng Nghymru gyda thrafodaeth ar yr hanes cyn ac ar ôl datganoli. Gosodir polisïau Cymraeg oddi mewn i gyd-destun dylanwadau ymchwil a phedagogaidd ehangach ar addysg blynyddoedd cynnar, er enghraifft y dystiolaeth ynghylch arfer dda o du EPPE (The Effective Provision of Pre-School Education Project). Edrychir yn benodol ar ddarpariaeth Gymraeg a chyfraniad Mudiad Meithrin ynghyd â thrafodaeth ar y damcaniaethau ynghylch dwyieithrwydd, gyda golwg ar ddwyieithrwydd cynnar yn benodol. Ceir amlinelliad a beirniadaeth ddadansoddol o’r heriau sy’n wynebu’r maes yn sgil datblygiadau gwleidyddol cyfoes a pholisïau cyfredol. Er dibenion y papur hwn, diffinnir addysg feithrin fel gwasanaethau addysg a gofal ar gyfer plant ifanc o 3–5+ oed, a defnyddir y term ‘blynyddoedd cynnar’ i’r un diben.