Dyma wefan rhyngweithiol sy'n gyflwyniad i ysgrifennu newyddiadurol. Mae'r adnodd ar gyfer myfyrwyr newyddiaduraeth ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu stori dda. Mae yma ganllaw ar sut i ysgrifennu ar gyfer papurau newydd, radio, teledu, ar-lein ac ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chyflwyniad i'r hyn sy'n dylanwadu ar benderfyniadau golygyddol newyddiadurwyr a'u golygyddion. Mae'n cynnwys fideos, cwis ac ymarferion ar-lein. Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Gohebu ar ..... Y Newyddion
Porth Adnoddau: Beth yw e? Sut i ychwanegu adnodd newydd?
Mae gwefan y Porth Adnoddau yn cynnig un lle canolog i rannu ystod eang o adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y sectorau Ôl-16 a Galwedigaethol ac Addysg Uwch. Isod, ceir fideos yn cyflwyno beth yw'r Porth a sut i'w ddefnyddio. Ceir hefyd ddolen i ffurflen ar gyfer ychwanegu adnodd newydd i'r Porth a chanllawiau manwl ar sut i'w llenwi.
Gwybodaeth am Swyddi
Bwletinau Gwybodaeth am Swyddi gan Gyrfa Cymru ar gyfer dysgwyr ac addysgwyr.
Opsiynau 16 Oed
Adnoddau gan Gyrfa Cymru i helpu dysgwyr blwyddyn 11 i ddeall beth yw eich opsiynau dysgu ôl-16.
Cwis Paru Swyddi
Adnodda gan Gyrfa Cymru ar gyfer pob ystod oedran a gallu i gael syniadau gyrfa sy’n paru â’ch sgiliau a diddordebau.
Cwis Personoliaeth - Cwis Buzz
Adnodd gan Gyrfa Cymru i ddysgwyr 11-19 i gael cyfle i ganfod pa fath o bersonoliaeth sydd gennych a pha swyddi allai fod yn gweddu i chi
Crefft y Stori Fer Heddiw
Trafodaeth gyfoes ar ffurf y stori fer Gymraeg. Cyflwynir safbwyntiau chwe awdur cyfoes a fu'n cyhoeddi ym maes y stori fer yn ystod y blynyddoedd diwethaf sef Fflur Dafydd, Jon Gower, Aled Islwyn, Caryl Lewis, Llŷr Gwyn Lewis a Mihangel Morgan er mwyn taflu goleuni ar y modd y mae'r stori fer yn cael ei hystyried heddiw.
Bagloriaeth Cymru
Bwriad y ddau becyn yma yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwyno’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecynau o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous.
RAS200 yng Nghymru
Adnoddau prosiect RAS200 (cyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng celfyddyd) Mae RAS200 Sky and Earth yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dauganmlwyddiant y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach. Amcan RAS200 yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o seryddiaeth a geoffiseg drwy weithgaredd celfyddydol Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Darperir yn y casgliad hwn adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o'r gweithgaredd. Mae yma gyflwyniadau o'r seryddiaeth a geoffiseg drwy ddiwylliant, sy'n rhoi cip olwg ar y wyddoniaeth drwy weithiau creadigol. I ddysgu mwy am y prosiect, darllenwch gyflwyniad yr Athro Eleri Pryse i RAS200 yng Nghymru.
Gweithdy Doctoriaid Yfory 2020
Adnodd ar gyfer aelodau o gynllun Doctoriaid Yfory 3. Mae’n trafod awgrymiadau ar gyfer sicrhau profiad gwaith yn y maes iechyd a gofal. Mae hefyd yn trafod beth i'w gynnwys yn y datganiad personol. Cyflwyniad ydyw gan Sara Whittam o Brifysgol Caerdydd.
Gohebu ar...Covid-19
Dyma wefan rhyngweithiol sy'n adnodd defnyddiol i ddarpar newyddiadurwyr ar ohebu ar Covid-19. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut mae'r newyddion yn cael ei greu yn ystod y pandemig a gwybodaeth ar y galw am newyddion dibynadwy yn ystod yr argyfwng. Mae yma hefyd ganllaw ar ba Lywodraeth sy'n gyfrifol am beth wrth ymateb i Covid-19. Yn ogystal, mae'n cynnwys fideos i'w gwylio a cwis. Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Cyflwyniadau Astudiaethau Crefyddol/Athroniaeth (bl. 11-13)
Casgliad o gyflwyniadau PowerPoint yn ymwneud ag agweddau ar faes llafur Safon UG/Uwch Astudiaethau Crefyddol. Gan Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor.