Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Gloywi Iaith
Cyfres o adnoddau hylaw i loywi iaith ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon. Gall y deunydd gael ei ddefnyddio gan athrawon newydd gymhwyso ac athrawon profiadol i wirio adnoddau a chynlluniau gwersi.
Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au' (2014)
Cynan (Albert Evans-Jones, 1895-1970) oedd un o brif gynrychiolwyr Y Sefydliad yng Nghymru am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Bu'n Archdderwydd ddwywaith a chwaraeodd ran ganolog ym mhenderfyniad dadleuol yr Orsedd i gymryd rhan yn seremoni Arwisgo'r Tywysog Siarl yng nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969. Ef hefyd oedd un o awduron Rheol Iaith yr Eisteddfod Genedlaethol, rheol y daliodd yn gryf o'i phlaid fel Llywydd Llys yr Eisteddfod tuag at ddiwedd ei oes. O gymharu, Dafydd Iwan oedd un o arweinwyr amlycaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad a fabwysiadodd 'ddulliau chwyldro' yn ystod y 1960au. Yn yr erthygl hon, ystyrir y gwrthdaro rhwng Cynan a Dafydd Iwan a'r modd y cynrychiolai'r gwrthdaro hwnnw ymrafael ynghylch yr union ddiffiniad o Gymreictod ar y pryd. Gerwyn Wiliams, 'Cynan, Y Sefydliad a Chwyldro'r 1960au', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 12-22.
Ysgrifau ar Ieithyddiaeth a Geiriaduraeth Gymraeg – Delyth Prys (gol.)
Cyfres o saith erthygl gan arbenigwyr yn y maes, yn trafod agweddau ar ramadeg y Gymraeg, gwahanol gyweiriau, geiriadura, a datblygiad iaith. Traddodwyd yn wreiddiol fel cyfres darlithoedd y Gîcs Gramadeg dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ysgrifau ar Ffilm a'r Cyfryngau – Elin Haf Gruffydd Jones (gol.)
Dyma gasgliad o deuddeg o ysgrifau ar wahanol agweddau ar ffilm a'r cyfryngau. Mae rhai wedi eu lleoli'n ddiamwys ym myd y diwydiannau Cymreig a Chymraeg, ac eraill yn drafodaethau a fyddai'n nodweddu astudiaethau o'r fath mewn sawl rhan o'r byd. Prif bwrpas y gyfrol yw darparu deunydd addas ar gyfer myfyrwyr sydd yn dilyn modiwlau a graddau yn y meysydd hyn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac fe ddatblygwyd y gyfrol gan ddarlithwyr o nifer o brifysgolion Cymru. Cefnogwyd y gyfrol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a dyma un o gyhoeddiadau cyntaf y sefydliad hwnnw.Mae'r gyfrol electronig hon yn manteisio ar dechnoleg sydd yn ychwanegol at yr hyn a geir mewn cyfrol brint: mae yma hyperddolenni sydd yn arwain y darllenydd at dudalen derminoleg wrth glicio ar rai geiriau all fod yn anghyfarwydd yn y testun. Gobeithio y bydd hyn yn hwyluso'r darllen ac yn cyfrannu at ddatblygu, ehangu a sefydlogi terminoleg yn y meysydd hyn.Er nad all un gyfrol ddarparu deunydd cyflawn i gyrsiau prifysgolion mewn unrhyw bwnc, gobeithir y bydd y casgliad hwn yn cyfrannu at ddysg ac yn ysgogi rhagor o astudio, ymchwilio a chyhoeddi ym meysydd astudiaethau ffilm a'r cyfryngau drwy gyfrwng y ..
Nia Blackwell et al., 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd d?r ac opsiynau i'w leihau' (...
Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2014. Mae cloddio am lo a phrosesau cysylltiedig wedi effeithio ar amgylchedd naturiol rhan orllewinol maes glo de Cymru wrth i dd?r llygredig sy'n arllwys o hen lofeydd gyrraedd y system hydrolegol leol. Mae gwaddol y gwaith cloddio yn yr ardal hon yn cynnwys ffurfiant d?r llygredig, a lifa o sawl hen lofa, yn ogystal â ffurfiant mwynau haearn. Yn yr erthygl hon trafodir y prosesau tanddaearol sydd ar waith yn y glofeydd sy'n arwain at ffurfiant d?r llygredig a mwynau haearn. Ymdrinnir yn benodol â phedair o'r hen lofeydd gan edrych ar y gwahanol systemau trin d?r a ddefnyddir ar y safleoedd hynny. Mae'r systemau yn trin y d?r llygredig drwy gael gwared â'r haearn fel bod y crynodiadau terfynol yn is na'r trothwy a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith D?r. Nia Blackwell, William. T. Perkins ac Arwyn Edwards, 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd d?r ac opsiynau i'w leihau', Gwerddon, 18, Medi 2014, 55-76.
Nyrsio: Pecynnau Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Pecynnau dysgu i ddatblygu gwybodaeth myfyrwyr yw'r adnoddau hyn, yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig. Mae'r pecynnau'n cyfrannu at fodiwlau penodol yn ysgol Nyrsio, Prifysgol De Cymru, ond gallant hefyd gael eu defnyddio gan fyfyrwyr o brifysgolion eraill sy'n astudio ar unrhyw gangen Nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallant hefyd fod yn adnoddau a fyddai o ddefnydd i'r sawl sy'n ymddiddori yn y maes. Mae pump pecyn dysgu wedi eu datblygu. Mae'r Rhith Rheolwr Poen yn efelychu peiriant PCA (peiriant sy'n galluogi claf i weinyddu analgesia i'w hun). Pwrpas yr adnodd rhyngweithiol yma yw dysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio'r peiriant ac i ystyried y fath o ofal nyrsio y dylid darparu mewn lleoliad ysbyty. Gellir lawrlwytho pedwar pecyn dysgu ychwanegol yn yr adran 'Cyfryngau cysylltiedig' ar ôl dilyn y ddolen isod. Mae'r pecynnau Rheoli Meddyginiaethau a Gofal, Tosturi a Chyfathrebu yn cynorthwyo myfyrwyr nyrsio i ddeall elfennau a rheolau ynghlwm â rhannau yma o rôl y nyrs. Bwriad y pecynnau Rheoli Poen Aciwt ac Oriau Canolbwyntio yw cynnig dull arall o ddysgu i fyfyrwyr nyrsio ynglŷn â gofalu am glaf mewn poen a chlaf sy'n dioddef o ganser.
Rowan O'Neill, 'Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis' (2014)
Ym 1987, gweithiai'r artist a chyfarwyddwr theatr, Cliff McLucas, fel artist preswyl yn Ysgol Gyfun Ddwyieithog Dyffryn Teifi ar brosiect o'r enw 'Preswyliad Cyfryngau Dyfed'. Fel rhan o'i waith yn yr ysgol, creodd gyfres o bortreadau o'r athrawon gan ddefnyddio techneg gludwaith ffotograffiaeth. Yn rhan o'r gyfres hon o luniau, ceir llun o athro Saesneg yr ysgol ar y pryd; y gwleidydd a'r ymgyrchydd iaith, Cynog Dafis. Yn yr erthygl hon, cynigir darlleniad craff o bortread McLucas o Dafis trwy edrych ar yrfa wleidyddol Dafis yng nghyd-destun bywyd McLucas ei hun. Symudodd McLucas o'r Alban i Dregroes, Ceredigion, ym 1973. Ar yr un adeg, aeth ati i ddysgu'r Gymraeg. Trafodir portread McLucas fel ymateb hunanymwybodol i'w bresenoldeb ef ei hun fel mewnfudwr i Geredigion, a hynny wrth wynebu Cynog Dafis (aelod o elite deallusol ei ddiwylliant mabwysiedig). Wrth wneud hynny, awgrymir perthynas rhwng portread McLucas o Dafis a llun enwog Sidney Curnow Vosper o 1908, 'Salem'. Ar ddiwedd yr erthygl, ceir ôl-nodyn sy'n cysylltu'r drafodaeth ar McLucas a'i bortread o Dafis ag agweddau ar y drafodaeth gyfoes ar fewnfudo ac allfudo yn ardaloedd gwledig Cymru. Rowan O'Neill, 'Heddwch Salem? Astudiaeth o bortread Cliff McLucas o Cynog Dafis', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 23-40.
Fideos ar gyfer darlithoedd Busnes
Dyma gyfres o glipiau fideo byr gyda siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio mewn swyddi perthnasol i fodiwlau busnes mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae’r unigolion sy’n ymddangos yn y clipiau yn dod o gefndiroedd busnes gwahanol gan gynnwys meysydd adnoddau dynol, marchnata, rheoli a thwristiaeth. Prif bwrpas y clipiau fideo yw i ddarlithwyr fedru eu hymgorffori mewn darlithoedd. Gallant hefyd gael eu defnydd at ddibenion recriwtio. I ddarlithwyr Addysg Bellach, mae’r fideos canlynol yn berthnasol i unedau craidd BTEC Busnes Lefel 3: Unit 1: Exporing Business - fideos 'Sefydlu Busnes' 4, 12, 13, 14, 15, 16, 17 Unit 2: Developing a Marketing Campaign - fideos 'Marchata' 1, 2 Unit 5: International Business - fideo 'Cyllid' 2 Unit 6: Principles of Management - fideos Adnoddau Dynol
Adnoddau dysgu ac addysgu Cymraeg fel ail iaith (Cynllun Colegau Cymru gynt)
Casgliad o adnoddau hylaw ar gyfer darlithwyr a hyfforddeion i hwyluso dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith ar draws y sector addysg cynradd. Gellir defnyddio'r matiau fel sail i ddarlithoedd, yn ganllaw ymarferol i hyrwyddo iaith achlysurol, ac fel cymorth i sicrhau cywirdeb wrth lunio taflenni, murluniau a modelu ysgrifennu. Nid yw Cynllun Colegau Cymru yn bodoli bellach. Fe’i ddisodlwyd gan y Fframwaith Cymwyseddau Iaith i Ymarferwyr Addysg yn 2018. Dyma’r Fframwaith a fabwysiedir i fesur sgiliau iaith holl hyfforddeion ar gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r tasgau a gweithgareddau iaith yn y deunyddiau isod yn parhau yn berthnasol ond nid yw’r cyfeiriadau penodol at y lefelau a’r camau oedd yn perthyn i Gynllun Colegau Cymru.
Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg' (2014)
Yn yr erthygl hon, edrychir ar gymdeithasiaeth, sef set o syniadau gwleidyddol a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG), sy'n codi o brofiad ymgyrchu'r gymdeithas. Prif amcan yr erthygl yw cloriannu cymdeithasiaeth, ac ystyrir y syniadaeth a'r berthynas rhwng y theori ac ymarfer gwleidyddol. Mae cymuned yn greiddiol i athroniaeth cymdeithasiaeth, ac yn yr erthygl hon ceisir ateb y cwestiwn; 'beth yw rôl cymuned a pherthnasedd gwleidyddol cymdeithasiaeth heddiw?' Dechreuir drwy edrych ar syniadaeth cymdeithasiaeth fel y datblygodd ochr yn ochr â phrofiad gweithredu CYIG. Yna edrychir ar y gymuned yng ngwleidyddiaeth Cymru fodern, ynghyd â natur a rôl datblygu cymunedol heddiw. Mae hyn yn gosod sail i'r drafodaeth sy'n dilyn ar gloriannu cymdeithasiaeth. Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 41-57.
Dechreuadau Cyfieithu Gwleidyddol yng Nghymru yn yr Oes Fodern Gynnar
Darlith gan Dr Marion Löffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 22 Hydref 2014, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
