Cyfres o glipiau digidol yn pwysleisio’r manteision o astudio a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ym myd Busnes.
Astudio Busnes Drwy Gyfrwng y Gymraeg
Manon Mathias, 'Meiddio Byw': Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Rob...
Yn yr erthygl hon, cymherir llythyron adnabyddus Kate Roberts a Saunders Lewis â gohebiaeth dau o awduron blaenllaw Ffrainc y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Gustave Flaubert a George Sand, gan ystyried gwerth a phwrpas gohebiaeth i lenorion. Yn ogystal â dyfnhau ein dealltwriaeth o waith Kate Roberts a Saunders Lewis, y mae'r erthygl hefyd yn gosod gohebiaeth Sand a Flaubert mewn cyd-destun gwahanol ac yn ystyried datblygiad gohebiaeth lenyddol ar hyd y blynyddoedd. Deuir i gasgliadau gwreiddiol drwy ddangos bod llythyron llenyddol yn parhau i gyflawni swyddogaeth hollbwysig i awduron yn yr ugeinfed ganrif: cynnig anogaeth a chyngor, cyfle i ddianc rhag eu hamgylchiadau, ac arf hanfodol yn eu brwydr yn erbyn gwagedd cymdeithas fodern. Manon Mathias, '“Meiddio Byw”: Agwedd y llenor at fywyd yng ngohebiaeth George Sand, Gustave Flaubert, Kate Roberts a Saunders Lewis', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 79-95.
Sgriptio teledu
Y sgriptwyr proffesiynol, Roger Williams a Kirsty Jones, sydd wedi cyfrannu i gyfresi teledu megis Caerdydd, Gwaith Cartref, Zanzibar, Rownd a Rownd yn ogystal â'r operâu sebon Eastenders, Pobol y Cwm a Hollyoaks, yn rhoi cyflwyniad anffurfiol i'r broses o lunio sgript ar gyfer y teledu fel cyfrwng gan gyfeirio'n uniongyrchol at enghreifftiau o'i waith. 23 a 30 Hydref 2012, Prifysgol Bangor.
Alan Llwyd yn trafod y ffilm 'Hedd Wyn'
Cyfweliad gydag Alan Llwyd ynglŷn â'r ffilm Hedd Wyn a'r grefft o sgriptio ar gyfer y sgrin. Ceir sesiwn holi ac ateb ar y diwedd. Recordiwyd y sesiwn yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, ym mis Mawrth 2012.Cyfweliad gydag Alan Llwyd ynglŷn â'r ffilm Hedd Wyn a'r grefft o sgriptio ar gyfer y sgrin. Ceir sesiwn holi ac ateb ar y diwedd. Recordiwyd y sesiwn yn Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor, ym mis Mawrth 2012.
Academi Cynhadledd Achos
Mae'r clipiau yma yn olrhain hanes cynhadledd achos er mwyn gwarchod plant. Mae’r clipiau yn cynnig enghraifft i fyfyrwyr o’r modd y cynhelir Cynhadledd Achos. Yn yr achos hwn, trafodir dau blentyn ifanc o’r enw Siân a Dylan. Mae Siân yn bump oed, a Dylan yn fabi deunaw mis oed. Pwrpas cynnal y Gynhadledd Achos yw i benderfynu a ddylai’r plant barhau ar y gofrestr amddiffyn plant ai peidio. Mae'r fideo wedi ei rannu mewn i 8 rhan. Dychmygol yw’r cymeriadau yn yr adnodd hwn, ond mae’r math yma o sefyllfa yn gyffredin iawn o fewn cyd-destun y Gynhadledd Achos.
Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithi...
Mewn rhan o Gymru lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth yn ddwyieithog, nid oedd unrhyw therapyddion Cymraeg gan un gwasanaeth adsefydlu corfforol cymunedol. Asesodd mesur deilliannau a gydnabyddir yn rhyngwladol effeithiolrwydd yr adsefydlu. Yr oedd gan gleifion Cymraeg eu hiaith ganlyniadau yn sgil yr adsefydlu oedd yn sylweddol is na siaradwyr di- Gymraeg (p<0.05). Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol mewn ardal arall lle'r oedd y therapyddion yn ddwyieithog. Awgryma'r canfyddiadau fod gallu therapyddion i siarad iaith gyntaf cleifion yn dylanwadu ar effeithiolrwydd therapi. Cymharwyd canran yr unigolion a gyfeiriwyd (gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol) ac a fedrai'r Gymraeg â'r ganran o siaradwyr Cymraeg y rhagwelid eu cyfeirio ar sail nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd nifer sylweddol lai o siaradwyr Cymraeg eu cyfeirio at y gwasanaeth adsefydlu na'r canran a ragwelid (p<0.001). Er bod hyn yn awgrymu y medr y ffaith na all gweithwyr proffesiynol siarad Cymraeg effeithio'n negyddol ar siaradwyr Cymraeg sy'n cyrchu gwasanaethau, fe all fod rhesymau seico-gymdeithasol amlffactoraidd eraill i'w hystyried. Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 83-112.
Gwawr Ifan, 'Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru' (2012)'
Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu corawl wedi chwarae rhan flaenllaw yn y diwylliant a'r gymdeithas Gymreig. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, bu galw cynyddol i ystyried dylanwad lles a safon byw ar iechyd. Yn sgil hyn, mae llawer o ymchwil yn ystyried y celfyddydau cymunedol, a chanu corawl yn benodol, fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a'r modd y gall hyn ddylanwadu ar iechyd a lles personol a chymdeithasol. O ganlyniad i'r gydnabyddiaeth hon, canolbwyntia'r erthygl hon ar ymchwil i'r berthynas rhwng canu corawl – fel digwyddiad cerddorol a chymdeithasol – ac iechyd a lles cyffredinol ymhlith cantorion amatur yng Nghymru. Gwawr Ifan, ''Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 15-39.
Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul' (2012)
Mae'r gwybodaeth sydd gennym o gorona'r haul yn seiliedig ar arsylwadau a wneir o bell. Mae'n amhosib, felly, i ddyfalu strwythur tri-dimensiwn y corona yn uniongyrchol. Mae'r erthygl hon yn crynhoi hanes ac yn rhoi braslun o astudio'r corona yng nghyswllt ei strwythur, ac yn disgrifio technegau newydd sydd am y tro cyntaf yn ein galluogi i wybod strwythur y corona mewn manylder. Rhoddir disgrifiad o'r newid yn y strwythur dros gylchred bywiogrwydd yr haul, gwybodaeth newydd am y cyswllt rhwng y maes magnetic a'r dwysedd coronaidd, a chanlyniadau newydd ar raddfeydd cylchdroi'r corona. Mae'r canlyniadau yn dangos fod modd cynnyddu'n gwybodaeth o'r corona yn fawr trwy gymhwyso'r technegau tomograffi newydd, gan alluogi ac ysgogi astudiaethau pellach o'r corona yn y blynyddoedd nesaf. Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 64-82.
Alan Llwyd yn trafod Cofiant Kate Roberts
Darlith gan Alan Llwyd ar Kate, ei gofiant i Kate Roberts. Recordiwyd y ddarlith yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ym mis Mawrth 2012. Cyllidwyd y digwyddiad drwy gyfrwng grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd d...
Mae'r llenyddiaeth yn cynnwys sawl astudiaeth ar gyfnewid cod. Mae'r dull cymdeithasol-ddiwylliannol o astudio rhyngweithio yn y dosbarth fel y'i disgrifir gan Mercer (2000) yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ddisgwrs dosbarthiadau iaith. Nododd Mercer nifer o dechnegau iaith a ddefnyddir gan athrawon. Mae'r erthygl hon yn dadansoddi safbwyntiau athrawon dan hyfforddiant ar gyfnewid cod fel ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Yn yr astudiaeth, cynhaliwyd archwiliad o ymarfer dosbarth dwy athrawes dan hyfforddiant oedd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg. Arsylwyd y ddwy a chofnodwyd eu haddysgu. Hefyd cynhaliwyd cyfweliadau gyda'r athrawon dan hyfforddiant er mwyn eu holi am eu hagweddau at y defnydd o'r iaith gyntaf mewn dosbarth uwchradd lle mae'r Saesneg yn ail iaith. Dadansoddir y data a gasglwyd gan ddefnyddio dulliau dadansoddi disgwrs beirniadol. Ystyrir yn benodol i ba raddau yr oedd yr athrawon dan hyfforddiant yn llwyddo i ddysgu mewn modd oedd o fewn cyrraedd y disgyblion dwyieithog o dan eu gofal. Roedd yr achlysuron pan oedd yr athrawon yn newid o'r Saesneg i'r Gymraeg am funud i weld yn cyfateb i'r swyddogaethau cyfnewid cod a nodwyd gan Camilleri. Mae'r cyfnewid cod yn awgrymu ffordd gyfreithlon o ddefnyddio adnoddau iaith cyffredin i sgaffaldio dysgu disgyblion. Jessica J. Clapham, 'Dadansoddiad o ddefnydd athrawon dan hyfforddiant o gyfnewid cod mewn dosbarth uwchradd dwyieithog: Achos o Gymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 158-95.
Gareth Clubb, 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun' (2012)
Casglwyd 701 o ddarnau o sbwriel fesul cilomedr o heol fach, wledig yng Ngwynedd. Lleiafswm cost 'gudd' flynyddol y sbwriel – sef y gost dybiedig o gasglu'r sbwriel na chesglir ar hyn o bryd – yw £11.81 y cilomedr. Amcangyfrif cost flynyddol sbwriel ar heolydd bach Cymru yw £230,000. Gellid cael gwared ar ganran helaeth o'r sbwriel dan sylw wrth gyflwyno system ernes i boteli a chaniau. Roedd 13 o gwmnïau unigol yn gyfrifol am gynhyrchu dros chwarter o'r sbwriel. Gallai Llywodraeth Cymru drefnu ad-daliad gan y cwmnïau hyn o £58,000 y flwyddyn er mwyn digolledu costau cudd y sbwriel sy'n gysylltiedig â nhw. Gareth Clubb, 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 10-23.
Gethin Matthews, 'Sŵn yr ymladd ar ein clyw': Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg' (2012)'
Y Rhyfel Mawr oedd un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru gan fod goblygiadau'r Rhyfel wedi effeithio'n drwm ar gymdeithas a diwylliant y wlad am ddegawdau. Fodd bynnag, mae hanes y blynyddoedd o ymladd yn aml wedi cael ei gyflwyno i gynulleidfa Gymraeg mewn modd gor-syml, sy'n pwysleisio erchyllderau'r Rhyfel heb ystyried y cyd- destun. Mae'r astudiaeth hon yn olrhain yn fras sut mae'r ffordd yr edrychid ar y Rhyfel wedi datblygu ym Mhrydain dros y degawdau, cyn ystyried yn fanwl rhai o'r problemau â'r cyflwyniad o'r lladdfa a gafwyd mewn rhaglenni nodwedd Cymraeg. Gethin Matthews, ''Sŵn yr ymladd ar ein clyw”: Cyflwyno'r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 132-57.
