Adnodd ar-lein yw Bocsgolau, wedi’i ddylunio ar gyfer athrawon a myfyrwyr celf, crefft a dylunio i gefnogi amcanion rhaglenni celf a dylunio CBAC ac Eduqas. Anela i ddarparu mewnwelediadau o bersbectif addysg i ymarfer cyfoes celf, crefft a dylunio, y diwydiannau creadigol a’r tirlun newid gyrfaoedd o’r 21ain ganrif. Ceir dolenni at wefannau ymarferwyr, sefydliadau creadigol, galerïau ac amgueddfeydd, asesiad a ffynonellau o gyngor gyrfaoedd.
Clipiau fideo Amaeth
Clipiau fideo yn trafod gwahanol agweddau ar Amaethyddiaeth. Addas ar gyfer hyd at Lefel 4.
Diogelwch, Gwastraff ac Offer
Adnodd ar gyfer myfyrwyr Amaeth sydd yn astudio cymhwyster lefel 2, ac yn canolbwyntio ar iechyd a diogelwch, gwaredu gwastraff ar y fferm, a’r defnydd o offer ar y fferm. Mae’r adran iechyd a diogelwch yn cynnwys cyflwyniadau PowerPoint a Word sydd yn cynnwys dogfennau ar asesiadau risg, peryglon a ‘manual handling’. Mae’r adran gwastraff fferm yn cynnwys chwech dogfen Word sydd yn gysylltiedig â gwaredu gwastraff ar y fferm. Yn y pecyn defnyddio offer fferm ceir cyflwyniad PowerPoint a dogfennau Word y gellir eu defnyddio a’u haddasu ar gyfer cynllunio taflenni gwaith i’r ystafell ddosbarth.
Rheolaeth Busnes ar y Fferm
Adnodd digidol a gynhyrchwyd gan Tinopolis a Choleg Sir Gar. Wrth ddefnyddio’r adnodd hwn, rhoddir profiad ‘real’ i’r myfyrwyr i gyflawni tasgau yn cynnwys: - Cwblhau dogfennau er mwyn danfon gwartheg i’r lladd-dy neu ŵyn i’r farchnad - Cwblhau ffurflenni TAW ar lein - Amryw o ddogfennau rheoli busnes sydd yn ymwneud â rhedeg mentrau fferm - Cofrestru llo newydd anedig gyda SOG ar lein - Paratoi’r fferm gyda’r gwaith papur angenrheidiol ar gyfer ymweliad Gwarant Fferm. Mae cynnwys yr adnodd yn briodol iawn ar gyfer unedau anifeiliaid fferm a rheoli busnes ar lefel 2 a 3.
Myfyriwr Amaeth
24 o glipiau fideo a gynhyrchwyd gan gwmni Telescop. Maent yn 5 i 8 munud o hyd, ac yn cynnwys milfeddygon, darlithwyr ac arbenigwyr yn trafod egwyddor benodol neu yn arddangos sgil. Maent yn addas iawn ar gyfer rhai o’r unedau sydd yn cael eu dysgu fel rhan o’r cwrs Lefel 3 (BTEC a City & Builds), sef: - Cynhyrchiant defaid - Cynhyrchiant bîff - Llaethydda - Cynhyrchiant Porfa - Peirianneg amaethyddol - Sgiliau cynnal ystadau - Rheolaeth moch a ieir - Iechyd anifeiliaid fferm Gellir defnyddio’r clipiau er mwyn arddangos sgil penodol ac yna trin a thrafod hyn gyda’r myfyrwyr o fewn yr ystafell ddosbarth cyn cwblhau taflen waith. Mae nifer o’r clipiau yn rhoi sylfaen dda i’r myfyrwyr cyn iddynt fynd allan i ymarfer y sgil.
Hwb: Adnoddau Amaethyddiaeth
Adnoddau Amaethyddiaeth ôl-16 ar Hwb, platfform digidol dysgu ac addysgu Llywodraeth Cymru.
Astudiwch Adeiladu yn Gymraeg neu’n Ddwyieithog!
Sesiwn sydd yn cyflwyno manteision astudio Adeiladwaith yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.Sesiwn sydd yn cyflwyno manteision astudio Adeiladwaith yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Am Adeiladu
Gwefan ddwyieithog gyda gwybodaeth ac adnoddau cyffredinol ar gyfer y diwydiant adeiladu. Ariennir gan lefi CITB.
Cyfathrebu wrth Adeiladu
Pam mae cyfathrebu mor bwysig wrth adeiladu? Faint o'ch gwaith sy'n cynnwys rhyngweithio â phobl eraill? Mwy nag a gredwch siŵr o fod. Mae popeth rydych yn ei wneud sy'n galw am rhyw fath o ryngweithio yn enghraifft o pam mae cyfathrebu da mor bwysig. O roi neu derbyn cyfarwyddyd, i archebu deunyddiau, a hyd yn oed darllen a chwblhau dogfennau, os yw eich sgiliau cyfathrebu yn ddiffygiol, rydych chi'n mynd i gael trafferth bob dydd. Yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), bydd Cyfathrebu wrth Adeiladu yn gwella eich sgiliau cyfathrebu wrth i chi weithio tuag at Lefel 1. Gydag enghreifftiau adeiladu ymarferol, byddwch yn gweld sut bydd yr hyn rydych yn ei ddysgu o fudd i chi yn eich gwaith beunyddiol. Wedi i chi orffen y cwrs byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif Cyfathrebu wrth Adeiladu i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus! Mae angen cyfrif CITB Apprenticeships er mwyn mewngofnodi. Mae fersiwn Saesneg o'r cwrs ar gael yn https://learn.citb.co.uk/courses/course-v1:CIT+CIT002+2018/about
Adeiladu gyda Mathemateg
Ydych chi'n credu nad oes angen mathemateg arnoch wrth adeiladu? Meddyliwch eto - mae mathemateg ymhob man! Pryd oedd y tro diwethaf i chi fesur hyd darn o bren? Pa mor aml rydych chi'n amcangyfrifo cost deunyddiau? Ydych chi erioed wedi rhannu teils yn ddarnau hafal neu'n gymarebau? Yn cael ei gyflwyno gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), bydd Adeiladu gyda Mathemateg yn gwella eich sgiliau mathemateg wrth i chi weithio tuag at Lefel 1. Gydag enghreifftiau adeiladu ymarferol, byddwch hefyd yn gweld sut bydd y fathemateg rydych yn ei dysgu o fudd i chi yn eich gwaith beunyddiol. Wedi i chi orffen y cwrs byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif Adeiladu gyda Mathemateg i ddangos eich bod wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus! Bydd cyfrif CITB Apprenticeships er mwyn mewngofnodi. Mae fersiwn Saesneg o'r cwrs ar gael yn https://learn.citb.co.uk/courses/course-v1:CIT+CIT001+2017/about
Ap Hanfodion Dysgu Dwyieithog
Mae’r ap hwn yn helpu athrawon i roi’r cyfle i bawb i ddefnyddio eu dewis iaith yn yr ystafell ddosbarth.
Hwb: Adnoddau Galwedigaethol ac Ôl-16
Dolen i adnoddau galwedigaethol ac ôl-16 ar Hwb, platfform digidol dysgu ac addysgu Llywodraeth Cymru