Gwefan Addysgwyr Cymru sy'n cynnwys manylion am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael mewn:
- Ysgolion
- Addysg Bellach
- Dysgu Seiliedig ar Waith
- Gwaith Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Hyrwyddwyr Addysg
Gwefan Addysgwyr Cymru sy'n cynnwys manylion am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael mewn:
Mae’r rhestr chwarae yma yn cynnwys 5 cwrs ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysgu ôl-16 i archwilio’r defnydd o fodelau a damcaniaethau technoleg dysgu i’w helpu i ddatblygu eu dulliau dysgu cyfunol. Mae’r cyrsiau byr hyn wedi’u cynllunio mewn modd hyblyg i’ch galluogi i ‘blymio i mewn ac allan’. Mae’r cyrsiau wedi’u datblygu gan arbenigwyr Jisc, yn dilyn argymhellion gan Estyn, ac wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc
Podlediad #1: Beth yw Plentyndod?
Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
Podlediad #2: Beth yw ieuenctid?
Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid?
Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw?
Podlediad #3: Beth sydd ei angen ar blentyn...?
Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu?
Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu. Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
Podlediad #4: Hawliau Plant
Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc.
Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19?
Podlediad #5: Llais Rhieni
A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr?
I gael gwybod mwy gwrandewch ar Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Siôn Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
Podlediad #6: Beth ydy chwarae?
Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae?
Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae.
Podlediad #7: Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?
Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Cynlluniwyd yr adnoddau hyn i gynorthwyo tiwtoriaid i feithrin eu sgiliau addysgu dwyieithog a chynyddu eu hymwybyddiaeth o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR) a’r set ddata LA26. Defnyddir y set ddata i gofnodi darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru.
Nod yr adnoddau yw rhoi hyder i diwtoriaid yn y ffordd y cofnodir gweithgarwch a gwblhawyd yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog ar y LLWR, a’u helpu i ganfod ble mae eu darpariaeth ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd hefyd i roi cyngor ymarferol i diwtoriaid ar sut i symud eu haddysgu i fyny’r continwwm dwyieithrwydd.
Mae’r pecyn yn cynnwys:
Mae dolenni i'r adnoddau ar gael isod ac maent hefyd ar gael ar wefan Sgiliaith sgiliaith@gllm.ac.uk
Mae ‘Hunaniaethau: Cymreictod’ yn gyfres o chwe sgwrs gyhoeddus a fydd yn archwilio'r hyn a olygir wrth ‘Gymreictod’ heddiw, a hynny o safbwyntiau amrywiol. Bydd y sesiynau yn edrych ar Gymreictod o safbwynt cyfranwyr o leiafrifoedd ethnig, o’r gymuned LHDTC+, ac o safbwynt pobl o wahanol grefyddau. Bydd y sgyrsiau yn adlewyrchu pa mor amlweddog yw ‘Cymreictod’ yn y cyfnod modern ac yn ysgogi trafodaethau newydd pwysig a pherthnasol. Gall unrhyw un ymuno ar-lein i wylio’r sgyrsiau ac i gymryd rhan yn y trafodaethau. Mae'r sesiynau i gyd yn y Gymraeg. Trefnir y digwyddiadau ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.
Sesiwn #1: 13 Hydref 2022 (i gyd-fynd â Mis Hanes Pobl Ddu)
'Mae yn fy DNA' - Natalie Jones, athrawes sy'n trafod ei gwaith a'i hunaniaeth
Sesiwn #2: 10 Tachwedd 2022 (18:00)
'Cymrieg (Lluosog) - Welsh (Plural)' - Sgwrs a chyflwyniadau gan gyfranwyr i lyfr, Welsh Plural – Iestyn Tyne, Grug Muse, Hanan Issa (Bardd Cenedlaethol Cymru), Darren Chetty. Bydd cyfieithu ar y pryd.
Sesiwn #3: 15 Rhagfyr (18:00)
Sgwrs gyda Joseph Gnagbo. Mae Joseph yn gyn-ffoadur o'r Arfordir Ifori. Yn ogystal â siarad Ffrangeg, a Saesneg, mae wedi dysgu Cymraeg ers iddo ddod i Gymru yn 2019 ac mae bellach yn dysgu Cymraeg i eraill. Yn anffodus ni fydd cyfieithu ar y pryd ar gyfer y sesiwn hon.
Sesiwn #4: 19 Ionawr 2023 (18:00)
Rhyng-grefyddoldeb yng Nghymru - trafodaeth gydag aelodau o gymunedau ffydd Cymru. Ceir cyfraniadau gan aelodau o wahanol gymunedau ffydd Cymru: y Mwslim, Laura Jones, sy’n gobeithio cyfieithu testunau’r Coran i’r Gymraeg; Kris Hughes sy’n Dderwydd, Yr Athro Nathan Abrams sy’n Iddew, a Sudha Bhatt o Gyngor Hindŵ Cymru. Bydd cyfieithu ar y pryd.
Sesiwn #5: 15 Chwefror (18:00) Chwaraeon i Bawb - yr Athro Laura McAllister, darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn Cadeirydd 'Chwaraeon Cymru', a chyn-bêl-droediwr fydd yn trafod chwaraeon, chwaraeon i ferched a rhywioldeb. Yn gwmni iddi fydd Lloyd Lewis, chwaraewr rygbi proffesiynol a rapiwr y gân 'Pwy sy'n Galw'. Noder bod y digwyddiad ar nos Fercher, nid y nos Iau arferol. Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael
Sesiwn #6: Dyddiad i'w gadarnhau
Siaradwyr i'w cadarnhau
Cyfres o adnoddau rhyngweithiol dwyieithog e-ddysgu ar y pynciau isod:
Cyfres o weminarau i roi cyfle i ddysgwyr drafod eu pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y gweminarau yn trafod:
ac yn cael eu cynnal ar brynhawiau Mercher rhwng 14:00-15:00 rhwng 28 Medi 2022 a'r 14 Rhagfyr 2022.
Cyflwyniad Yr Athro Richard Wyn Jones, wedi'i recordio ar y Maes, Eisteddfod Tregaron 2022.
Mae Richard yn trafod hanes o lwyddiant etholiadol Llafur Cymru dros y ganrif ddiwethaf, trwy'r prism o hunaniaethau byd olwg Cymreig.
Gwefan i unigolion 14-18 mlwydd oed a hÅ·n i ddysgu mwy am sgiliau byd gwaith a sut i gadw cofnod o'u datblygiad wrth ymgymryd â phrofiadau a dysgu sgiliau newydd.
Adnodd ar wefan Hwb ar gyfer gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn rheolaeth amgylcheddol yw hwn. Gan ddefnyddio erthyglau nodwedd a gwybodaeth allweddol am gamlesi Cymru a thu hwnt, mae’r llawlyfr hwn yn gyflwyniad i gynefinoedd a bywyd gwyllt glan dŵr.
Mae’r adnodd hwn, o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr ôl 16 Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn amlygu pwysigrwydd deddfwriaeth peiriannau ar y fferm. Mae’n dangos egwyddorion gweithio a pharatoi peiriannau, yn edrych ar eu heffaith amgylcheddol, ac yn rhoi enghreifftiau o ddulliau o ofalu am beiriannau ar ôl gweithio gyda nhw fel nad ydyn nhw’n dirywio.
Mae’r adnodd hwn o wefan Hwb, yn addas ar gyfer dysgwyr Amaethyddiaeth, garddwriaeth a gofalu am anifeiliaid, yn dangos strwythur a swyddogaethau organau anifeiliaid fferm. Mae’n amlygu pwysigrwydd eu systemau biolegol a’r gwahanol ddulliau bridio a thechnolegau atgenhedlu ar y fferm.
Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.