Mae'r Banc Brawddegau yn adnodd ar gyfer unrhyw un sy'n ysgrifennu yn academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n cynnig enghreifftiau o frawddegau y gallwch eu defnyddio wrth ysgrifennu, wedi'u trefnu yn ôl prif adrannau traethawd neu bapur academaidd. Datblygwyd gan yr Athro Enlli Thomas a Bethan Wyn Jones, Prifysgol Bangor, ar sail Academic Phrasebank (https://www.phrasebank.manchester.ac.uk).
Gwefan myf.cymru
Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi eu creu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai. Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhaglen MOIMR i gyfieithu eu ap i'r Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd. Yn ogystal, ceir podlediad o'r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw.
Traethawd Hir Hanes
Cyflwyniad i sgiliau ysgrifennu ac ymchwilio ar gyfer modiwl Traethawd Hir Hanes. Beth yw Traethawd Hir Hanes? – Dr Lowri Ann Rees, Prifysgol Bangor Ymchwilio Casgliadau ac Adnoddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar-lein ac yn y sefydliad Y Canol Oesoedd a’r Cyfnod Modern Cynnar – Dr Rebecca Thomas, Prifysgol Caerdydd
Cynhadledd Ymchwil 2022
Cynhaliwyd y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni, gyda chynulleidfa mewn person yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledwyd yn fyw i gynulleidfa rithiol. Mae Cynhadledd Ymchwil flynyddol y Coleg ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian. Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i weld cyflwyniadau byrion a recordiwyd yn arbennig ar gyfer y gynhadledd. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a arddangoswyd yn ystod y gynhadledd. Bydd recordiadau o'r prif gyflwyniadau a roddwyd yn fyw yn ystod y gynhadledd, a’r sesiynau cwestiwn ac ateb a gafwyd ar ôl pob cyflwyniad yn cael eu hychwanegu isod yn fuan.
Methodolegau Ymchwil yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau
Amcanion y gweithdai: Cyflwyno prif hanfodion Dulliau Ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd gan ddilyn yr amcanion canlynol: olrhain hanes a gwreiddiau damcaniaethau methodoleg ymchwil; cyflwyno cysyniadau craidd dulliau ymchwil cynnig technegau amrywiol o ymchwilio’n ansoddol ac yn feintiol; camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil Cynnwys: Mae’r gweithdai ar-lein hyn wedi eu rhannu yn dair rhan sy’n trin a thrafod cysyniadau allweddol ym maes dulliau ymchwil a’r camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil. Rhan 1 – Pwrpas ymchwil gymdeithasol: epistemoleg, ontoleg ac ymchwil empeiraidd Rhan 2 – Persbectifau, strategaethau a chwestiynau ymchwil Rhan 3 – Dadansoddi a dehongli data Cyflwynydd: Dr Rhian Hodges Mae Dr Rhian Hodges yn Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn Ysgol Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor ers dros ddegawd bellach. Mae’n addysgu modiwlau cyfrwng Cymraeg ym maes addysg, cymdeithaseg, cynllunio ieithyddol, cymdeithaseg cerddoriaeth a dulliau ymchwil ac wrth ei bodd yn dysgu ystod eang o bynciau gwahanol drwy’r Gymraeg. Ei maes ymchwil arbenigol yw cynllunio ieithyddol, ac yn arbennig siaradwyr newydd y Gymraeg, defnydd cymunedol o’r Gymraeg, ac addysg cyfrwng Cymraeg fel dull adfywio’r Gymraeg yng Nghymru. Mae’n dod yn wreiddiol o Fargoed, Cwm Rhymni ond mae hi wedi ymgartrefu ym Mangor ers cyfnod sylweddol bellach. Mae hi wedi hen arfer teithio lan a lawr yr A470 i weld teulu a ffrindiau’r cymoedd. Bydd y gweithdai hyn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd wrthi’n cynllunio eu traethodau hir a thraethodau ymchwil gan mae’n cynnig cyfle i ystyried camau hollbwysig y broses ymchwil a sut mae’n berthnasol i’w hymchwil eu hunain.
Sgiliau Ymchwil Ansoddol
Amcanion y gweithdai: Cyflwyno mathau gwahanol o ddulliau ansoddol Amlinellu’r hyn sydd angen ei ystyried cyn, yn ystod ac ar ôl cynnal ymchwil ansoddol Ystyried y materion moesegol sydd y gysylltiedig ag ymchwil ansoddol Amlinellu sut i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol. Cynnwys: Mae gweithdy 1 yn archwilio’r mathau gwahanol o ddulliau ansoddol a dulliau creadigol. Mae gweithdy 2 yn edrych ar yr hyn sydd angen ei ystyried wrth drio cael mynediad at gyfranogwyr ein hymchwil a chyn cynnal yr ymchwil. Mae gweithdy 3 yn canolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei ystyried yn ystod ac ar ôl cynnal ein hymchwil, yn ogystal â’r materion moesegol sydd yn gysylltiedig ag ymchwil ansoddol. Mae gweithdy 4 yn edrych ar sut i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol. Cyflwynydd: Dr Siôn Llewelyn Jones Mae Siôn yn ddarlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Bu’n datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ac mae’n addysgu nifer o fodiwlau, gan gynnwys modiwlau ymchwil. Mae gan Siôn brofiad helaeth o gynnal ymchwil ansoddol. Bu’n gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil ar gyfer gwahanol sefydliadau, megis Comisiynydd Plant Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Yn 2017, gorffennodd ei PhD. Ar gyfer ei ymchwil ddoethurol, archwiliodd Siôn i ddyheadau pobl ifanc a oedd yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg ac ysgol cyfrwng Saesneg yng nghymoedd de Cymru. Yn y prosiectau ymchwil hyn, bu’n ymwneud â’u cynllunio a bu’n cyfweld â chyfranogwyr yn ogystal â chynnal grwpiau ffocws wyneb yn wyneb, ar-lein ac ar y ffôn.
Ysgrifennu Academaidd
Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr israddedig y Gyfraith, ac yn eu paratoi ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli cywair academaidd. Datblygwyd yn 2018. Addasiad mwyaf diweddar: Chwefror, 2022
Gweithdy Sgiliau Addysgu ar gyfer myfyrwyr Ôl-radd
Amcanion y gweithdy · Gwybodaeth broffesiynol – datblygu eich gwybodaeth am y pwnc y byddwch yn ei ddysgu; · Gwybodaeth fethodolegol – cyflwyniad i theori sy'n sail i ddysgu ac arferion addysgu (arddulliau dysgu) · Sgiliau dynameg grŵp penodol – dynameg grŵp, strategaethau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd; · Gwybodaeth sefydliadol – safonau a rheoliadau, rheolau ac arferion, normau a gwerthoedd. Cynnwys Bydd y gweithdy ar-lein wedi ei rannu yn bedair rhan: Rhan 1: Deall rhinweddau personol tiwtor o safon uchel Rhan 2: Dysgu'r sgiliau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio gwaith addysgu Rhan 3: Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu gyda grwpiau bach Rhan 4: Dod i ddeall rhai egwyddorion allweddol sy’n ymwneud ag asesu. Cyflwynydd: Dyddgu Hywel Cefndir Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Erbyn hyn, mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch-ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae yno ers dros saith mlynedd bellach. Mae’n arbenigo mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu â myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg. Bydd y gweithdy hwn o fudd i fyfyrwyr ôl-radd sydd yn camu i’r byd addysgu am y tro cyntaf, ac eisiau datblygu ar lawr y dosbarth ac ar-lein wrth addysgu’n hyderus ac yn arloesol.
Adnoddau Iechyd a Lles
Yma, cewch fynediad at adnoddau iechyd a lles y gellid eu defnyddio mewn darlith, seminar neu mewn cyfarfod tiwtora personol. Yn cyd-fynd a phob adnodd, mae taflen cyfarwyddiadau i'r darlithydd Mae'r adnoddau yn cynnwys: Gweithgaredd 1: Yr Olwyn Lles Cyfarwyddiadau: Yr Olwyn Lles Gweithgaredd 2: Yr arf hunan-asesu lles Cyfarwyddiadau: Yr arf hunan-asesu lles Paratowyd y gwaith gan Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Ffynonellau Cymorth Os oes gennych argyfwng meddygol, problem ddifrifol neu sy’n fygythiad i fywyd, ffoniwch 999 Os ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich meddyg teulu. Ceir rhestr o linellau cymorth, elusennau a gwybodaeth defnyddiol ar wefan meddwl.org
Datblygu Gyrfa: Rhwydweithio Digidol ac Academaidd
Amcanion y gweithdy hwn yw: I gyflwyno rhwydweithio fel sgil bwysig ar gyfer datblygu gyrfa, ac i gynnig cymorth a chyngor ymarferol ar sut i fynd ati i rwydweithio mewn cyd-destun digidol ac academaidd. Cynnwys: Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar beth yw rhwydweithio, a sut i fynd ati i ddefnyddio dulliau rhwydweithio i’ch helpu i gynllunio, ymchwilio a datblygu’ch gyrfa. Bydd y gweithdy yn egluro sut i ddefnyddio amryw o wahanol wefannau cymdeithasol mewn cyd-destun academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio yn benodol ar ddefnyddio LinkedIn, a gwneud y mwyaf o’r potensial mae’r safle yn ei gynnig i fyfyrwyr a graddedigion. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Teimlo’n hyderus am ddatblygu a defnyddio rhwydweithiau academaidd a phroffesiynol Deall potensial gwahanol wefannau cymdeithasol ar gyfer rhwydweithio gyrfaol Creu proffil LinkedIn effeithiol a deall sut i wneud y mwyaf o wahanol nodweddion y safle. Cyflwynydd: Mari Gwenllian Price Mae Mari yn gweithio i’r Adran Gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ers bron i ddeg mlynedd ac yn cynnig cyngor gyrfaol a sesiynau o fewn y cwricwlwm fel rhan o’i rôl. Mae hi hefyd yn gweithio ar gynlluniau lleoliadau gwaith yn y Brifysgol, ac yn un o arweinwyr y Wobr Gyflogadwyedd. Mae Mari wedi cwblhau MA mewn Addysg a Chyngor Gyrfaol o fewn addysg uwch drwy Brifysgol Warwick, ac wedi edrych mewn i ddiddordebau gyrfaol myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg fel maes ymchwil ei thraethawd hir.
PAAC - Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymraeg
Pecyn o e-lyfrau a fideos i gefnogi dysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynulleidfa’r deunyddiau hyn yw disgyblion sy’n astudio Lefel A Cymdeithaseg mewn ysgolion ledled Cymru, a myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd am astudio’r pwnc yn y brifysgol.
Termau technegol ar gyfer dysgu trwy’r Gymraeg
*Mae'r hyfforddiant ar waelod y dudalen hon Cyflwynwyr: Yr Athro Delyth Prys a Dr Tegau Andrews Amcanion y gweithdy hwn yw: Cyflwyno cefndir y gwaith safoni termau, yn rhyngwladol ac yn genedlaethol, gan blethu’r damcaniaethol a’r ymarferol, er mwyn egluro’r broses safoni a’i perthnasedd i waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhoi gwell dealltwriaeth i staff a myfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i’w cynorthwyo i ysgrifennu a chyfathrebu yn well mewn Cymraeg academaidd da. Datgelu dirgelwch sut mae termau Cymraeg yn cael eu bathu a’u safoni, gan drafod yr egwyddorion rhyngwladol sy’n gyrru’r broses a chyflwyno enghreifftiau penodol, fel y gall unrhyw rai sydd â diddordeb ddeall sut mae’r termau hyn yn cyrraedd ein hiaith. Rhoi arweiniad i awduron, cyfieithwyr a rheolwyr prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i greu adnoddau i fyfyrwyr, gan esbonio iddynt ar ddechrau’r broses o greu adnodd sut mae termau’n berthnasol iddynt a ble mae gwaith termau’n ffitio o fewn eu hamserlen. Cynnwys: Trosolwg cyffredinol o’r adnoddau geiriadurol a therminolegol sydd ar gael i staff a myfyrwyr. Cymorth ymarferol ar sut i ddefnyddio geiriaduron cyffredinol a geiriaduron termau electronig ar-lein. Esboniad o sut mae safoni termau i’r Gymraeg, a pherthnasedd safonau rhyngwladol i’r broses honno. Amlinelliad o gamau datblygu adnoddau i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar rôl termau o fewn y camau hyn. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Amgyffred yn well bwysigrwydd defnyddio termau safonol mewn ysgrifennu academaidd. Defnyddio adnoddau geiriadurol a therminolegol yn fwy effeithiol yn eu gwaith, a gwella safon eu Cymraeg academaidd. Gwybod ble i droi os bydd angen cymorth ychwanegol arnynt gyda thermau technegol Cymraeg. Deall yn well sut y mae termau’n cael eu safoni ar gyfer y Gymraeg. Cynllunio adnoddau newydd i fyfyrwyr gan ystyried unrhyw waith termau hanfodol. Bywgraffiad Mae’r Athro Delyth Prys wedi bod yn Brif Olygydd y Ganolfan Safoni Termau (bellach rhan o Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr) ers 1993, ac yn Bennaeth yr Uned Technolegau Iaith ers 2001. Mae’n arwain tîm cymysg o ieithyddion ac arbenigwyr meddalwedd sy’n datblygu offer iaith digidol arloesol ar gyfer y Gymraeg. Mae’r Dr Tegau Andrews yn Derminolegydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2009. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi datblygu Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn un o’r prif eiriaduron termau technegol Cymraeg, yn cynnwys diffiniadau, diagramau a lluniau esboniadol.