Adnodd yw hwn sy'n cyflwyno cydrannau diet cytbwys. Mae wedi ei anelu at staff a dysgwyr ar gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r adnodd dwyieithog hwn yn cyflwyno gwybodaeth ac yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr i wirio dysgu wrth weithio drwy'r cynnwys. Mae'n trafod y rôl mae gwahanol faetholion yn eu chwarae mewn diet. Mae hefyd yn ymdrin â'r Gyfradd Fetabolig Waelodol, Mynegai Màs y Corff ac yn helpu'r dysgwr i greu cynllun maeth ar gyfer unigolion. Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Benfro am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Maeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cennydd Owen Jones, 'Adolygiad o Ffynonellau AmgylcheddolTwbercwlosis Buchol (Mycobacterium bovis)' (2021)
Mae twbercwlosis buchol (bovine tuberculosis; bTB) yn un o brif heriau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, a bu’n gyfrifol am ddifa 10,974 o wartheg rhwng Mehefin 2019 a Mai 2020 (DEFRA, 2020). Amcangyfrifir cost flynyddol i’r trethdalwr o £15 miliwn yng Nghymru yn unig i reoli’r clefyd sydd yn cynnwys costau milfeddygol, iawndal i’r ffermwyr, costau gweinyddol, ac ati. Yn ogystal â hyn, mae delio â’r clefyd yn cael effaith ar iechyd meddwl yr holl unigolion sydd ynghlwm ag ef. Mae’r cyswllt rhwng bywyd gwyllt a thwbercwlosis buchol yn amlwg yn bwnc llosg parhaol, ond beth am y rôl y mae’r amgylchedd yn ei chwarae o ran meithrin a lledaenu’r clefyd hwn? Mae rhai gwyddonwyr wedi ymchwilio i’r cwestiwn hwn gan lwyddo i brofi ar lefel labordy bod yr amodau sydd yn bresennol yn amgylchedd y fuwch yn rhai ffafriol i M. bovis. Serch hynny, prin yw’r ymchwil ar lefel fferm, yn enwedig mewn ardaloedd sydd yn dioddef achosion cronig o dwbercwlosis buchol. Diben yr adolygiad llenyddiaeth hwn yw amlygu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru a’r wyddoniaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd parthed TB buchol amgylcheddol.
Yr Ysgol Ddigidol
Crëwyd yr ysgol ddigidol gan Meredudd Jones, athro o Ysgol Maes y Gwendraeth. Mae'n cynnwys amrywiaeth o fideos cefnogol a thiwtorialau sy'n cynorthwyo athrawon a disgyblion i ddatblygu eu sgiliau digidol i ddefnyddio technoleg i gyflwyno eu gwersi a'u gwaith. Er bod y fideos wedi eu creu ar gyfer staff ysgolion uwchradd yn bennaf, maent hefyd yn berthnasol i ddarlithwyr mewn Colegau Addysg Bellach sy'n defnyddio'r un dechnoleg o fewn eu colegau. Mae'r casgliad fideos yn cynnwys cymorth ar sut i ddefnyddio elfennau gwahanol o becynnau megis: Google classroom Adobe Creative Cloud Express (enw newydd Adobe Spark) Microsoft Teams Scratch a Python Diolch i Meredudd Jones am ganiatáu i ni rannu'r fideos yma ar y Porth Adnoddau.
Cwrs byr: Paratoi aseiniadau
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Efallai y byddwch yn teimlo ar goll pan gewch eich aseiniad cyntaf ond peidiwch â phoeni, nid oes disgwyl i chi wneud gwaith perffaith o'r cychwyn cyntaf. Nid oes un ffordd gywir o ysgrifennu aseiniad. Fodd bynnag, mae rhai egwyddorion a phrosesau cyffredin a fydd yn eich helpu i gadw ar y trywydd cywir wrth ei lunio. Byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu eich aseiniadau’n effeithiol.
Fideo Gofalwn Cymru (Helen Dobson, Gwaith Cymdeithasol)
Fideo o Helen Dobson (Gweithiwr Cymdeithasol) sy'n rhan o ymgyrch #GofalwnCymru 2020 Roedd Helen yn athrawes gyflenwi mewn ysgolion cynradd am ddeng mlynedd ar hugain, ond un diwrnod penderfynodd ei bod eisiau gwneud mwy i wneud gwahaniaeth, felly gwnaeth ei MSc mewn Gofal Cymdeithasol a daeth yn Weithiwr Cymdeithasol. Gallwch weld rhagor o astudiaethau achos ar wefan Gofalwn.Cymru
Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith
Nod Rhaglen Datblygu Staff Cenedlaethol Sgiliaith yw darparu hyfforddiant arloesol a chyngor ymarferol ar adnoddau ac arferion da i staff yn y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau. Bwriad hynny yw cefnogi ymarferwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i ddysgwyr a phrentisiaid. Ceir cyfleoedd hyfforddiant Sgiliaith sy’n addas i bawb yn y sector, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg neu brofiad blaenorol. Mae Rhaglen Hyfforddiant Datblygu Staff Sgiliaith yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddiant i gefnogi dilyniant sgiliau dwyieithog ymarferwyr, a chynigia Cynllun Fentora Staff Sgiliaith gefnogaeth i ymarferwyr mewn sefyllfaoedd dysgu go iawn i fewnosod y Gymraeg/dwyieithrwydd yn y dosbarth neu yn y gweithle. Comisiynwyd rhaglen datblygu staff a rhaglen fentora cenedlaethol ar gyfer y sector ôl-16. Mae'r rhaglen yn cael ei ddarparu gan Sgiliaith ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Amaeth Amdani
Profiad Gwaith yn y Diwydiant Amaeth Adnodd i gynorthwyo myfyrwyr amaeth i adnabod y sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth adnabod a chymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith perthnasol i’r diwydiant. Mae’r adnodd yn yn cynorthwyo dysgwyr sydd yn paratoi am gyflogaeth o fewn y sector amaethyddol drwy; adnabod cyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant amaethyddol egluro’r broses o ymgeisio am swydd. egluro sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol o fewn y diwydiant. Adran 1 - yn cynnwys cyfres o glipiau fidio sy’n adnabod cyfleoedd gwaith o fewn y sector amaethyddol. Adran 2 - yn cynnwys cyflwyniad sydd yn disgrifio’r broses o ymgeisio am swydd gan gynnwys sut mae darganfod swyddi gwag, creu CV, ysgrifennu llythyr cais. Adran 3 - yn cynnwys clip fidio gan gyflogwr yn egluro y sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol ac yn ddisgwyliedig o fewn gweithle. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael wefan HWB.
Gwerddon Fach ar Golwg 360 - cyfrannu erthygl
Mae Gwerddon Fach yn cyhoeddi erthyglau academaidd byrion i roi blas i gynulleidfa eang o’r ymchwil ddiweddaraf gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt Yn ogystal â chyhoeddi fersiynau poblogaidd o erthyglau hirach sy’n cael eu cyhoeddi yn e-gyfnodolyn Gwerddon ei hun, mae croeso i bobl gyfrannu erthyglau byrion oddeutu 600 – 1,000 o eiriau am unrhyw ymchwil sydd o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach – boed yn adroddiad ar eu gwaith ymchwil diweddaraf nhw a’u cydweithwyr, yn ymateb i ddarganfyddiadau o bwys neu drafodaethau polisi cyhoeddus a materion cyfoes, yn adroddiad ar drafodion cynhadledd academaidd, neu’n gyflwyniad syml i bynciau ymchwil dyrys. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu erthygl, gallwch lawrlwytho copi o'r canllawiau (gweler isod), ac yna cysylltwch â Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddon: hmg@aber.ac.uk. Gwefan: https://golwg.360.cymru/gwerddon
Wyn Mason, 'Gwlad yr Asyn a’r golwg deublyg: diffinio’r ddrama ôl-drefedigaethol Gymreig'
Trafoda’r erthygl gwestiynau a gododd yn sgil llunio Gwlad yr Asyn, sef drama lwyfan ar ffurf monolog. Cafodd y ddrama ei hysgrifennu fel ymateb gwrthimperialaidd Cymreig i destun canonaidd Shakespeare, The Tempest. Yn gyntaf, ystyria’r erthygl y diffyg traddodiad a geir yng Nghymru o ysgrifennu dramâu gwrthddisgwrs Shakespearaidd o safbwynt Cymreig, cyn canolbwyntio ar y cwestiwn, ‘beth a ddylai nodweddu’r ddrama ôl- drefedigaethol Gymreig?’. Dadleua y dylai gyfleu ‘golwg deublyg’, hynny yw, cydnabod bod gan Gymru etifeddiaeth o ddwy ochr y rhaniad imperialaidd: gwlad a gafodd ei gwladychu ond sydd hefyd wedi gwladychu.
Pod Jomec Cymraeg
Mae Pod Jomec Cymraeg yn gyfres o bodlediadau gan fyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Yn y gyfres mae myfyrwyr yn siarad gydag enwau adnabyddus o'r byd newyddiadurol a chyfathrebu. Mae'r pods yn addas ar gyfer myfyrwyr ac i bobl sydd gyda diddordeb cyffredinol yn y maes. Yn y gyfres, fe fydd myfyrwyr a thîm dysgu JOMEC yn edrych ar bob agwedd o newyddiaduraeth a chyfathrebu yng Nghymru. Ym mhob podlediad bydd un o’n myfyrwyr yn sgwrsio gyda rhywun sy’n gweithio yn y maes - o gyngor gyrfa i holi barn am bynciau llosg y dydd.
MS PowerPoint ar gyfer Ymchwilwyr
Bydd y gweithdy hwn o ddefnydd i unrhyw un sydd am gyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd amgen, a rhyngweithiol, boed fel rhan o gyflwyniad ymchwil neu wrth ddarlithio. Amcanion y gweithdy Datblygu dealltwriaeth uwch o feddalwedd adnabyddus Gwybod bod mabwysiadu technegau syml yn gallu arwain at gynnyrch o safon uwch, sy’n wahanol i’r arfer Llwyddo i gael y meddalwedd i weithio i chi, ac nid eich ‘caethiwo’ Cynnwys Dylunio templedi unigryw i siwtio eich cyflwyniadau chi Cyflwyno yn hydrus ac arloesol Adnabod offer newydd tu allan i’r rhai cyffredin Defnyddio PowerPoint yn effeithiol ar gyfer aml-bwrpas Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Creu cyflwyniadau rhyngweithiol sy’n edrych ac yn gweithio’n wahanol i’r cyffredin gydag hyder Deall technegau estynedig ar gyfer creu projectau, traethodau hir ac adroddiadau effeithiol Ystyried clymu elfennau pob project ar ei gilydd mewn portffolio rhyngweithiol, a gwybod sut i wneud hyn. Cyflwynydd: Dyddgu Hywel Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad a iechyd a lles myfyrwyr.
Sgwrs Iach
Cyfres o glipiau fideo i addysgu pobl ifanc am y gwahanol ddewisiadau gyrfa sydd ar gael o fewn y sector iechyd a gofal yng Nghymru gyda'r bwriad o sbarduno diddordeb myfyrwyr yn y sector, a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o fewn y sector. Datblygwyd yr adnoddau gan Goleg Cambria.
