Adnodd ar-lein yw Bocsgolau, wedi’i ddylunio ar gyfer athrawon a myfyrwyr celf, crefft a dylunio i gefnogi amcanion rhaglenni celf a dylunio CBAC ac Eduqas. Anela i ddarparu mewnwelediadau o bersbectif addysg i ymarfer cyfoes celf, crefft a dylunio, y diwydiannau creadigol a’r tirlun newid gyrfaoedd o’r 21ain ganrif. Ceir dolenni at wefannau ymarferwyr, sefydliadau creadigol, galerïau ac amgueddfeydd, asesiad a ffynonellau o gyngor gyrfaoedd.
Gweithdy Gwerthuso Addysgu
Gweithdy gan Dr Gwawr Ifan, sy'n annog addysgwyr i ystyried amrywiol ffyrdd o fynd ati i werthuso eu haddysgu, ymarfer hollbwysig sy’n rhan greiddiol o ddatblygiad addysgwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Mae Gwawr Ifan yn ddarlithydd mewn cerddoreg yn Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor. Dechreuodd ei gyrfa fel darlithydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ôl derbyn un o ysgoloriaethau cyntaf y Coleg. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gerddoriaeth mewn iechyd a lles, ac mae ganddi brofiad helaeth o addysgu myfyrwyr ar lefel isradd ac ôl-radd. Os hoffech drafod unrhyw faterion yn ymwneud gyda gwerthuso addysgu, mae croeso i chi gysylltu gyda mi dros e-bost am sgwrs bellach: g.ifan@bangor.ac.uk
Y Geiriadur Celf
Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae'r Geiriadur Celf wedi ei lunio ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae'n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy'n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru.
Dafydd Sills-Jones, 'Gogwydd hanesyddol ar astudiaethau cynhyrchu: ail gyfnod cwmni Teliesyn drwy fframweithia...
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ wedi tyfu’n sylweddol fel is-ddisgyblaeth. Yn sgil hyn, mae’r drafodaeth arferol ar y ddynameg rhwng technoleg, economi, ffurfiau diwylliannol, creadigrwydd a gyrfaoedd proffesiynol wedi eu trawsnewid, gan herio hen begynau disgyrsiol economi gwleidyddol ac astudiaethau diwylliannol. Er hynny, mae gogwydd cyfoes i’r datblygiadau hyn, sy’n aml yn anwybyddu hanes y cyfryngau. Mae’r erthygl hon yn ceisio defnyddio agwedd ‘astudiaethau cynhyrchu cyfryngau’ (wrth ddefnyddio fframweithiau cysyniadol Simon Cottle, Pierre Bourdieu ac Eric Berne) er mwyn olrhain hanes un o brif gwmnïau teledu Cymru, Teliesyn.
Daearyddiaeth - Astudio a Dehongli'r Byd a'i Bobl
Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2020 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Mae'r llyfr digidol, cyffrous a chynhwysfawr hwn yn ymdrin ag amrediad eang o themâu a astudir fel rhan o bwnc Daearyddiaeth, gan gynnwys prosesau dynol, ffisegol ac amgylcheddol. Mae'n addas i fyfyrwyr Safon Uwch, ynghyd â'r rheiny sy'n astudio Daearyddiaeth yn y Brifysgol.
Esboniadur Newyddiaduraeth
Mae’r Esboniadur Newyddiaduraeth yn dod â gwahanol ddiffiniadau a chysyniadau newyddion, newyddiaduraeth a’r cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt ynghyd mewn adnodd hawdd i'w ddefnyddio.
Yr Ysgol Ddigidol
Crëwyd yr ysgol ddigidol gan Meredudd Jones, athro o Ysgol Maes y Gwendraeth. Mae'n cynnwys amrywiaeth o fideos cefnogol a thiwtorialau sy'n cynorthwyo athrawon a disgyblion i ddatblygu eu sgiliau digidol i ddefnyddio technoleg i gyflwyno eu gwersi a'u gwaith. Er bod y fideos wedi eu creu ar gyfer staff ysgolion uwchradd yn bennaf, maent hefyd yn berthnasol i ddarlithwyr mewn Colegau Addysg Bellach sy'n defnyddio'r un dechnoleg o fewn eu colegau. Mae'r casgliad fideos yn cynnwys cymorth ar sut i ddefnyddio elfennau gwahanol o becynnau megis: Google classroom Adobe Creative Cloud Express (enw newydd Adobe Spark) Microsoft Teams Scratch a Python Diolch i Meredudd Jones am ganiatáu i ni rannu'r fideos yma ar y Porth Adnoddau.
Anwen Jones, Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon The...
Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason.
Amaeth Amdani
Profiad Gwaith yn y Diwydiant Amaeth Adnodd i gynorthwyo myfyrwyr amaeth i adnabod y sgiliau sydd eu hangen arnynt wrth adnabod a chymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith perthnasol i’r diwydiant. Mae’r adnodd yn yn cynorthwyo dysgwyr sydd yn paratoi am gyflogaeth o fewn y sector amaethyddol drwy; adnabod cyfleoedd cyflogaeth o fewn y diwydiant amaethyddol egluro’r broses o ymgeisio am swydd. egluro sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol o fewn y diwydiant. Adran 1 - yn cynnwys cyfres o glipiau fidio sy’n adnabod cyfleoedd gwaith o fewn y sector amaethyddol. Adran 2 - yn cynnwys cyflwyniad sydd yn disgrifio’r broses o ymgeisio am swydd gan gynnwys sut mae darganfod swyddi gwag, creu CV, ysgrifennu llythyr cais. Adran 3 - yn cynnwys clip fidio gan gyflogwr yn egluro y sgiliau rhyngbersonol da sydd yn angenrheidiol ac yn ddisgwyliedig o fewn gweithle. Mae’r adnodd hwn wedi cael ei greu neu ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael wefan HWB.
Canllaw E-Fathodynnau (Gwobrwyo Sgiliau Cymraeg)
Canllaw: Defnyddio E-Fathodynnau fel dull o gydnabod a gwobrwyo datblygu Sgiliau Cymraeg. Datblygwyd y canllaw hwn gan Coleg Sir Benfro. Mae'n disgrifio sut wnaethant ddatblygu cynllun E-Fathodynnau i gydnabod cynnydd a datblygiad ieithyddol (Cymraeg) dysgwyr. Os hoffech ddatblygu cynllun tebyg o fewn eich coleg chi, gellir wneud cais i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gopi electonig o'r adnoddau (ar gyfer Moodle) drwy lenwi'r ffurflen isod.
Clipiau fideo Amaeth
Clipiau fideo yn trafod gwahanol agweddau ar Amaethyddiaeth. Addas ar gyfer hyd at Lefel 4.
Adnoddau Chwaraeon Lefel 3 BTEC
Anatomeg a Ffisioleg (L3): sesiynau dysgu cyfunol 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar Anatomeg a Ffisioleg ar gyfer dysgwyr sy’n astudio cwrs Chwaraeon (lefel 3). Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawrlwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae ffeil zip yma yn cynnwys y ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran The Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
