Mae’r rheolau sy’n pennu treigladau a ffurfiau enwau ac ansoddeiriau ar ôl rhifolion mewn Cymraeg Canol yn aml yn peri dryswch i ddarllenwyr cyfoes. Mae’r erthygl hon yn braslunio’r rheolau a rhoi dadansoddiad synchronig ohonynt. Dangosir eu bod yn seiliedig ar system gydlynol lle mae rhif (unigol, deuol, rhifol, lluosog) yn ganolog. Gellir cofnodi a dyddio’r newidiadau ieithyddol sydd wedi digwydd ers hynny yn fanwl drwy ddefnyddio tystiolaeth destunol. Dadleuir y gellir deall y newidiadau hyn fel camau ar hyd llwybr tuag at system newydd, yr un mor gydlynol â’i rhagflaenydd, lle y mae pob ymadrodd rhifol yn ramadegol unigol, a chenedl yn hytrach na rhif sy’n penderfynu ffurf a threigladau ill dau.
David Willis, 'Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg' (2019)
Osian Elias a Gwenno Griffith, '"Mae hergwd cyn bwysiced â hawl": newid ymddygiad a pholisi’r iaith Gymraeg' (...
Mae ymagwedd ymddygiadol at bolisi eisoes wedi trawsnewid ystod o feysydd polisi cyhoeddus. Diben yr erthygl hon yw datblygu’r berthynas rhwng ymagwedd ymddygiadol a pholisi a chynllunio iaith. Cynigia strategaethau iaith diweddar Llywodraeth Cymru dystiolaeth o’r berthynas eginol hon, ac mae’r uchelgais o filiwn o siaradwyr yn cynnig sbardun polisi amlwg i’r defnydd o fewnwelediadau ymddygiadol ac yn cyfrannu at arloesi ym maes polisi iaith. Esbonia’r erthygl fod y ddealltwriaeth o ymddygiad sydd wrth wraidd ymdrechion polisi’r iaith Gymraeg yn tueddu i bwysleisio nodweddion rhesymol ymddygiad. Dadleuir bod hyn yn esgeuluso dealltwriaethau amgen o ymddygiad ac arfau polisi megis yr hergwd.
Darlith Flynyddol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir, gan yr Athro John Gwynfor Jones.
Gwyn Bellamy, 'Theori Cynrychioliad a Hynodion Cyniferydd Symplegol' (2019)
Mae rhan gyntaf yr erthygl hon yn gyflwyniad anffurfiol i theori cynrychioliadau (representation theory) y grŵp cymesur (symmetric group). Mae’r erthygl wedi ei hanelu at y mathemategydd cyffredin nad yw’n gwybod unrhyw beth am theori cynrychioliadau. Yn yr ail ran, rydym yn esbonio, yn fwy cyffredinol, sut y gellir defnyddio theori cynrychioliadau i astudio hynodion cyniferydd symplectig (symplectic quotient singularities). Yn wir, gallwn ddefnyddio theori cynrychioliadau i benderfynu pan fo’r gofodau hynod hyn yn derbyn cydraniad crepant (crepant resolution).
Ac Onide – J. R. Jones
Yma, mae J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl ac i'r argyfyngau dynol yn ein hoes ni a gynhyrfodd feddylwyr tebyg i Wittgenstein, Simone Weil a Tillich. Ceir hefyd ffeil sain o J. R. Jones ei hun yn areithio. Teitl yr araith yw 'I Ti y Perthyn ei Ollwng', sef Rhan Tri: 3 o Ac Onide.
Cynhadledd Wyddonol 2019
Cynhaliwyd Cynhadledd Wyddonol 2019 yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth, ar 6 Mehefin 2019. Roedd y gynhadledd yn gyfle i gyflwyno'r ymchwil gwyddonol ddiweddaraf trwy gyfrwng y Gymraeg. Yma ceir casgliad o gyflwyniadau a fideos o'r gynhadledd.
Lowri Cunnington Wynn '"Beth yw'r ots gennyf i am Gymru?": Astudiaeth o allfudo a dyheadau pobl ifanc o'r broy...
Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudo ymysg pobl ifanc o’r bröydd Cymraeg eu hiaith o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil doethur gwreiddiol (2014) yn seiliedig ar waith Hywel Jones (2010), sy’n dadlau bod pobl ifanc a anwyd y tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo o Gymru na phobl ifanc a anwyd yma. Ceisiwyd sefydlu pa rai yw’r prif ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau allfudo ymysg pobl ifanc sydd heb eu geni yng Nghymru a’r rhai sy’n blant i rieni nad ydynt yn frodorion. Deuir i’r casgliad mai un o’r prif resymau dros allfudo ymysg y grŵp hwn yw ffactorau’n ymwneud â’r ymdeimlad o berthyn a’u lefelau integreiddio i’r cymunedau dan sylw, yn hytrach na ffactorau economaidd yn unig. Yn benodol, ystyrir sut mae diwylliant, cenedligrwydd ac ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn effeithio ar y duedd hon, sydd ag oblygiadau pwysig o safbwynt cadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd Cymraeg ‘traddodiadol’.
Cyrsiau Blasu Dysgu Cymraeg Ar-lein
Cyrsiau 10-awr ar-lein sy'n rhoi blas ar ddysgu Cymraeg i weithwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys Iechyd, Gofal, y Gwasanaethau Cyhoeddus, Twristiaeth, Manwerthu a Thrafnidiaeth. Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau cwrs, proses hawdd iawn (dewiswch ‘arall’ yn y ddewislen, wrth i chi greu eich cyfrif). Datblygwyd y cyrsiau gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Llawlyfr Technolegau Iaith
Mae’r llawlyfr hwn yn esbonio beth yw technolegau iaith ac yn ddisgrifio rhai o’r cydrannau mwyaf sylweddol yn ogystal â cheisio egluro’r dulliau a ddefnyddir i'w gwireddu. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr, datblygwyr, academyddion, swyddogion polisi, ac eraill sydd heb gefndir yn y maes ond sydd eisiau deall mwy am feysydd pwysig prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial, technoleg cyfieithu a thechnoleg lleferydd. Mae'r llawlyfr hefyd ar gael ar wefan Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru. Ysgrifennwyd gan swyddogion o Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, a Cymen Cyf gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ap Tabl Cyfnodol
Dyma ap tabl cyfnodol cyfrwng Cymraeg sy’n llawn ffeithiau a lluniau, ac sy’n ddelfrydol i fyfyrwyr, athrawon, neu unrhyw un â diddordeb mewn cemeg.
Lisa Lewis, 'O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-d...
Mae’r erthygl hon yn defnyddio theatr fel modd i fewnsyllu ar gyfnewidfa ddiwylliannol Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969. Gan ganolbwyntio ar ddramâu Casi o’r cyfnod trefedigaethol yn ogystal ag enghraifft o berfformiad cenhadol a lwyfannwyd yng Nghymru yn 1929, cwestiynir i ba raddau y dylanwadodd canfyddiadau’r Cymry o theatr a’r ddrama ar berfformio brodorol Bryniau Casia, ac yn yr un modd, i ba raddau y dylanwadodd canfyddiad y cenhadon o India ar y syniad a’r gynrychiolaeth o’r wlad honno mewn portreadau perfformiadol ohoni yng Nghymru.
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.
