Cyfweliadau gyda chyfarwyddwyr theatr blaenllaw a ffilmiwyd yn ystod Penwythnos Cyfarwyddo Theatr 2013 a 2014. Dyma brosiect cydweithredol a drefnir gan Brifysgol De Cymru.
Penwythnos Cyfarwyddo Theatr 2013 a 2014
Craig Owen Jones, 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a'...
Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg manwl ar y berthynas rhwng ymgyrchu iaith y 1960au a'r 1970au, a bathu termau newydd yn y byd pop Cymraeg. Canolbwyntir ar geisiadau i addasu'r Gymraeg i amgylchiadau cerddoriaeth boblogaidd y cyfnod hwn, ac eir ati i archwilio canlyniadau ideolegol y strategaethau bathu termau amrywiol a ddefnyddiwyd gan ysgrifenwyr. Craig O. Jones, 'Brwydr Iaith, Brwydro Iaith: Terminoleg y byd pop Cymraeg fel dull protestio yn y 1960au a'r 1970au', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 10-27.
Rhian Meara, 'Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra 'Grakolla' o losgfynydd Torfajo...
Mae astudiaethau teffrocronoleg yn rhanbarth Gogledd yr Iwerydd ar y cyfan yn canolbwyntio ar gynhyrchion echdoriadau mawr e.e. Askja 1875, Hekla 1104 ac Öræfajökull 1362. Serch hynny, mae echdoriadau llai o faint o Wlad yr Iâ yn dechrau dod yn fwy pwysig o ran sicrhau dyddiadau mewn meysydd eraill ac mae'n bosibl eu bod yn berthnasol dros bellterau ehangach e.e. echdoriad Eyjafjallajökull yn 2010. Mae teffra Grákolla, sy'n tarddu o losgfynydd Torfajökull yn un enghraifft. Os defnyddir data'r prif elfennau yn unig, mae'r teffra yn dangos ôl bys cemegol yr un fath a theffra Landnám, sy'n tarddu o'r un system. Ond o ddefnyddio data'r elfennau hybrin, mae'n bosibl gwahaniaethu rhwng yr haenau hyn er bod ychydig o orgyffwrdd yn parhau yn y data. Wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon i ailystyried astudiaeth flaenorol o fudo ac anheddu yn Ynysoedd Ffaröe, nodir bod perygl camddyddio digwyddiadau os yw'r broses o adnabod teffra yn dibynnu ar ddata'r prif elfennau yn unig. Mae hyd at 600 mlynedd rhwng y ddau deffra, ac er bod hwn yn gyfnod byr iawn o ran digwyddiadau daearegol, y mae'n gyfnod hir o ran camddyddio digwyddiadau dynol. Rhian Meara, 'Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra “Grákolla” o losgfynydd Torfajökull', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 66-77.
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Mae'r Athro Gareth Williams yn hanesydd disglair, yn arbenigo ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae bellach yn Athro Emeritws Prifysgol De Cymru. Yma, mewn darlith a draddododd ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill 2013, mae'n trafod pa ysgrifau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Rhianedd Jewell, 'Iaith a hunaniaeth yng ngwaith Grazia Deledda' (2013)
Rhianedd Jewell, 'Iaith a hunaniaeth yng ngwaith Grazia Deledda' (2013)
Bwriad yr erthygl hon yw tynnu sylw at nodweddion diddorol gwaith Grazia Deledda (1871-1936), awdures o Sardinia sydd heb dderbyn sylw beirniadol digonol. Mae'r erthygl yn trafod y berthynas rhwng hunaniaeth, iaith ac adrodd mewn dwy nofel bwysig gan Deledda, sef La madre (Y Fam) ac Il segreto dell'uomo solitario (Cyfrinach y dyn unig). Dadansoddir sut y mae'r ddau brif gymeriad yn ceisio deall eu hunaniaethau, gan wynebu eu gofidion a'u gobeithion am fywyd. Gwelwn ar y naill law bod rhyngweithio ieithyddol yn hanfodol i rai, tra bod iaith ei hun yn arf sy'n galluogi eraill i reoli hunaniaeth. Rhianedd Jewell, 'Iaith a hunaniaeth yng ngwaith Grazia Deledda', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 9-24.
Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau' (2013)
Yn 2015, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cyflwyno cynllun caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau. Yn fras, yn ôl y cynllun hwn, os na fynegwyd gwrthwynebiad gan oedolion yng Nghymru i roi eu horganau ar ôl iddynt farw, ac os na leisir gwrthwynebiad gan eu teuluoedd, tybir gan yr awdurdodau fod caniatâd wedi ei roi. Yn ôl y drefn bresennol, rhoddir cyfrifoldeb ar yr unigolyn i gofrestru fel rhoddwr, ond gyda gweithredu'r cynllun newydd, gofynnir i'r unigolyn ddatgofrestru os mai dyna yw ei ddymuniad. Cyflwynir yma werthusiad o'r cynllun o safbwynt cyfreithiol a moesegol. Rhys ap Gwent, 'Cynllun Llywodraeth Cymru i gyflwyno system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau', Gwerddon, 16, Hydref 2013, 63-77.
Cyflwyniad i fodiwlau Athroniaeth
Dyma gyflwyniadau byrion i faes athroniaeth a'r ddarpariaeth sydd ar gael gan y Coleg, ar gyfer myfyrwyr a darpar fyfyrwyr.
Cyfweliadau gyda Chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr
Cyfres o gyfweliadau gyda chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr allweddol ym maes y cyfryngau yng Nghymru: Aron Evans Endaf Emlyn John Hefin Naomi Jones Paul Jones Peter Edwards Sue Jeffries Gwawr Lloyd Rhodri Talfan Davies Sara Ogwen Williams Ed Thomas
Arwyn Edwards et al., 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diwedda...
Ceir cefnogaeth gref i'r cysyniad o ecosystemau rhewlifol drwy fesuriadau o gyfraddau sylweddol o gylchu carbon a maetholynnau ar rewlifoedd cyfoes. Serch hynny, ni roddwyd llawer o ystyriaeth i bwysigrwydd posibl y cyfraniadau hyn yn ystod cyfnodau cynt o rewlifiant. Felly modelwyd cynefinoedd a llifoedd carbon ar rai o baleorewlifoedd gogledd Cymru o'r Dryas diweddaraf. Amcangyfrifwyd amsugniad net o 30-180 kg C fesul CO2 y flwyddyn ac allyriad methan rhwng 265-1591 g C fel CH4. Mae hyn yn pwysleisio'r posibilrwydd o gylchu carbon ar rewlifoedd diweddaraf Cymru ond gellir ymestyn ar hyn drwy wella ein sail data cyfoes, archwilio biofarcwyr o fewn gwaddodion a mewngorffori'r data i fodelau llif thermomecanig o ddeinameg rhewlifoedd y Defensaidd. Arwyn Edwards, Sara M. Rassner, Tristram D. L. Irvine-Fynn, Hefin Wyn Williams a Gareth Wyn Griffith, 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 53-78
Nia Davies Williams, 'Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru' (2012)'
Diben yr erthygl hon yw edrych ar foddau o ddefnyddio cerddoriaeth fel dull o gyfathrebu gyda chleifion sydd yn dioddef o ddementia, a hynny o fewn y cyd-destun Cymreig. Mae'r gwaith ymchwil yn seiliedig ar brofiadau'r awdur wrth ganu i gyfeiliant y delyn Geltaidd mewn uned asesu dementia a chartrefi henoed yn ardal Pen LlÅ·n yn ystod haf 2010, a'r rhyfeddod o weld cleifion oedd yn dioddef o ddementia yn cofio geiriau i ganeuon cyfarwydd pan nad oedd synnwyr i gael wrth sgwrsio â hwy. O ganlyniad, dyma fynd ati i astudio sut roedd cerddoriaeth yn medru bod o fudd i gleifion oedd yn dioddef o'r cyflwr hwn. Mae'r erthygl yn datgelu a dadansoddi'r canlyniadau hyn. Nia Davies Williams, ''Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 113-31.
Phyl Brake, 'Astudiaeth gychwynnol o wallau iaith llafar dysgwyr Cymraeg i oedolion profiadol' (2012)
Mae'r papur hwn yn seiliedig ar astudiaeth ymchwil gychwynnol â'r nod o ddiffinio ac adnabod y gwallau iaith llafar mwyaf cyffredin a wneir gan ymgeiswyr Arholiadau Defnyddio'r Gymraeg CBAC ar Lefelau Canolradd ac Uwch yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, yn ystod y profion llafar sy'n gysylltiedig â'r arholiadau hyn. Eir ati i archwilio sut y gellir dosbarthu'r gwallau iaith a nodir, i gael gweld a yw'n bosibl defnyddio'r data canlynol i gael gweld a oes modd eu hystyried yn newidynnau ieithyddol o'r iawn, ac felly, i archwilio i'w perthynas â ffactorau allieithyddol megis cyd-destun, rhyw, oedran, magwraeth a chefndir cymdeithasol, a hynny fel rhan o astudiaeth gynhwysfawr a fydd yn seiliedig ar sampl llawer mwy o hysbyswyr. Phyl Brake, 'Astudiaeth gychwynnol o wallau iaith llafar dysgwyr Cymraeg i oedolion profiadol', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 24-52.
Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gym...
Mae lle arbennig i wasanaethau iechyd fel gofod i ddiffinio perthynas priodol y dinesydd â'r wladwriaeth fodern. Bu disgwyliad i unigolion ddewis ym maes iechyd yng Nghymru a Lloegr ers yr 1980au. Yn ddiweddar cyflwynwyd brechlyn newydd i ferched sy'n amddiffyn yn erbyn rhai mathau o gancr ceg y groth. Disgwylir i rieni gydsynio dros eu merched. Mae'r papur hwn yn adrodd canlyniadau'r astudiaeth ymchwil ansoddol fwyaf yn y byd ar y pwnc. Mae'n darlunio agweddau at ddewisiadau iechyd a thrafod profiadau rhieni wrth ddod i benderfynu i gydsynio ai peidio. Dadansoddir strategaethau rhieni wrth benderfynu, er eu hansicrwydd. Myfanwy Davies, 'Dewis a'r dinesydd? Penderfyniadau iechyd a'u goblygiadau ar gyfer datblygu dinasyddiaeth Gymreig', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 40-63.
